Ymchwil yn awgrymu bod botiaid yn gyfrifol am greu straeon cyfryngau cymdeithasol yn ystod refferendwm y DU

Mae cydweithrediad ymchwil gan academyddion ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Califfornia, Berkeley yn awgrymu i asiantau gwybodaeth meddalwedd awtomataidd neu ‘botiaid’ gael eu defnyddio i ledaenu straeon ‘gadael’ neu ‘aros’ yn y cyfryngau cymdeithasol yn ystod refferendwm Brexit ac ar ei ôl, a bod hynny wedi gwahanu dwy ochr y ddadl ymhellach.

Canolbwyntiodd ymchwil gan yr Athro Talavera a’r myfyriwr PhD Tho Pham o’r Ysgol Reolaeth, ar y cyd ag Yuriy Gorodnichenko, Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley, ar ledaenu gwybodaeth ar Twitter yn y cyfnod cyn Refferendwm yr UE.  

Meddai’r Athro Talavera: “Wrth i dechnoleg ddatblygu, defnyddir gwefannau cyfryngau cymdeithasol megis Twitter a Facebook yn aml fel offer i fynegi a lledaenu teimladau a barnau. Yn ystod digwyddiadau effaith uchel megis Brexit, mae ymgysylltu â’r cyhoedd drwy blatfformau cyfryngau cymdeithasol yn mynd yn llethol yn gyflym. Fodd bynnag, nid yw’r holl ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yn rhai go iawn. Mae rhai, os nad llawer, mewn gwirionedd yn asiantau awtomataidd, y cyfeirir atynt fel ‘botiaid’. Ac yn fwy aml, mae defnyddwyr go iawn, neu bobl, yn cael eu twyllo gan y botiaid hyn.

 Brexit

Dadansoddiad Twitter

Gan ddefnyddio sampl o 28.6 miliwn o drydariadau oedd yn gysylltiedig â #Brexit a gasglwyd o 24 Mai 2016 tan 17 Awst 2016, sylwodd ymchwilwyr ar bresenoldeb botiaid Twitter a oedd yn cynrychioli oddeutu 20 y cant o’r cyfanswm defnyddwyr yn y sampl. O ystyried y rhan fwyaf o ail-drydariadau botiaid a wnaed gan bobl, mae angen i ni ofyn a gafodd y botiaid hyn ddylanwad ar farn defnyddwyr dynol ar Brexit.

Yn ôl dadansoddiadau empeiraidd, lledaenodd gwybodaeth am Brexit yn gyflym ymhlith defnyddwyr. Gwelwyd y rhan fwyaf o’r ymatebion o fewn 10 munud, sy’n awgrymu bod anhyblygedd hysbysiadol yn gyfyng iawn o ran materion o bwys mawr i ddefnyddwyr neu faterion a oedd yn cael sylw eang yn y cyfryngau. Y tu hwnt i’r wybodaeth a ledaenwyd, canfyddiad pwysig yw ei bod yn ymddangos bod botiaid yn effeithio ar bobl.

Fodd bynnag, i ba raddau y mae botiaid yn dylanwadu ar bobl yn dibynnu ar a yw’r bot yn darparu gwybodaeth sy’n gyson â’r hyn a ddarparwyd gan berson. Yn fwy penodol, mae bot sy’n cefnogi gadael yr UE yn cael effaith gryfach ar berson o blaid gadael nag un sydd o blaid aros.

‘Siambr Atsain’

Mae ymchwiliad pellach yn dangos bod botiaid yn llawer mwy tebygol o ddylanwadu ar y rhai oedd o blaid gadael na’r rhai oedd am aros. Mae’r canlyniadau hyn yn awgrymu bod lledaenu gwybodaeth yn gyson â’r sefyllfa y cyfeirir ati yn aml fel ‘siambr atsain’ – sefyllfa lle caiff gwybodaeth, syniadau, neu gredoau eu dwysau neu eu hatgyfnerthu o ganlyniad i gyfathrebu ac ailadrodd o fewn system ddiffiniedig, a’r canlyniad yw bod y wybodaeth yn fwy rhanedig na chyson ymhlith pobl.”

Meddai’r Athro Talavera: “Mae botiaid cymdeithasol yn lledaenu ac yn cryfhau’r wybodaeth anghywir, sydd felly’n dylanwadu ar yr hyn y mae pobl yn ei feddwl am faterion penodol.  Ar ben hynny, mae defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yn fwy tebygol o gredu (neu hyd yn oed groesawu) newyddion ffug sy’n cyd-fynd â’u barnau. Ar yr un pryd, mae’r defnyddwyr hyn yn ymbellhau oddi wrth ffynonellau gwybodaeth dibynadwy sy’n groes i’w credoau. O ganlyniad, gwelir cynnydd mewn gwybodaeth wrthgyferbyniol, sy’n ei gwneud yn anos cyflawni consensws ar faterion cyhoeddus pwysig.”

“Mae bellach yn hollbwysig i lunwyr polisïau a chyfryngau cymdeithasol ystyried o ddifrif fecanweithiau i annog peidio â defnyddio botiaid cymdeithasol i ddylanwadu ar farn y cyhoedd.”