Ymchwil gan Brifysgol Abertawe’n datgelu y gallai cyfoeth beri i bobl ffafrio perthnasoedd tymor byr

Yn ôl ymchwil newydd gan seicolegwyr ym Mhrifysgol Abertawe, gallai amgylcheddau â chyfoeth o adnoddau beri i bobl ffafrio perthnasoedd tymor byr.

Yn ôl ymchwil newydd gan seicolegwyr ym Mhrifysgol Abertawe, gallai amgylcheddau â chyfoeth o adnoddau beri i bobl ffafrio perthnasoedd tymor byr.

Mewn astudiaeth newydd o’r enw ‘Mating strategy flexibility in the laboratory: Preferences for long- and short-term mating change in response to evolutionarily relevant variables’, aeth y tîm ymchwil ati i gofnodi pa fath o berthnasoedd yr oedd 151 o wirfoddolwyr gwrywaidd a benywaidd  heterorywiol (75 o ddynion a 76 o fenywod ) yn eu ffafrio drwy ofyn iddynt edrych ar luniau o 50 o bartneriaid posibl, a nodi a fyddai’n well ganddynt gael perthynas hirdymor neu dymor byr gyda phob un. Yna, dangosodd yr ymchwilwyr gyfres o ddelweddau o eitemau moethus sy’n gysylltiedig â chyfoeth i’r cyfranogwyr, gan gynnwys ceir cyflym, gemwaith, plastai ac arian.

Yn olaf, edrychodd y cyfranogwyr ar y delweddau o’u partneriaid posibl unwaith eto ac yna aethant ati i’w trefnu yn ôl y math o berthynas fyddai’n well ganddynt eto. Ar ôl gweld y delweddau oedd yn gysylltiedig â chyfoeth, dewisodd y cyfranogwyr gwrywaidd a benywaidd fwy o bartneriaid ar gyfer perthynas tymor byr o’u cymharu â’r canlyniadau gwreiddiol - cynnydd o oddeutu 16%.

Couple

Esbonia Dr Andrew G. Thomas a arweiniodd yr ymchwil: “Nid yw’n well gan bawb berthnasoedd ymrwymedig hirdymor.  Mae seicolegwyr esblygiadol yn credu bod hoffter pobl o berthynas hirdymor neu dymor byr yn dibynnu’n rhannol ar eu hamgylchiadau, megis pa mor anodd y gallai fod i fagu plant fel rhiant sengl.

“Yn bwysig, pan fydd yr amgylchiadau hynny’n newid, disgwyliwn i bobl newid eu dewisiadau’n unol â hynny. Yr hyn yr ydym wedi’i wneud gyda’n hymchwil yw dangos y newid hwn mewn ymddygiad, am y tro cyntaf, mewn lleoliad arbrofol. Ar ôl i gyfranogwyr dderbyn ciwiau bod gan yr amgylchedd lawer o adnoddau, daethant yn fwy tebygol o ddewis unigolion am berthynas tymor byr. 

“Credwn fod hyn wedi digwydd gan fod pobl wedi datblygu’r gallu i ddarllen yr amgylchedd ac addasu’r mathau o berthnasoedd fyddai’n well ganddynt yn unol â hynny. Er enghraifft, mewn amgylcheddau â chyfoeth o adnoddau, byddai wedi bod yn haws i famau cyndadol fagu plant heb gymorth y tad. O ganlyniad, roedd paru dros dro yn opsiwn hyfyw i’r ddau ryw yn ystod adegau pan oedd digonedd o adnoddau. Credwn fod pobl fodern yn gwneud y penderfyniadau hyn hefyd”.

Hefyd canfu’r ymchwilwyr i’r cyfranogwyr newid eu dewisiadau perthynas ar ôl gweld sioe sleidiau  o anifeiliaid peryglus, a fideos o bobl yn rhyngweithio â phlant bach.

Hefyd canfuom i fathau eraill o giwiau gael effaith.  Pan roddwyd ciwiau i’r cyfranogwyr fod yr amgylchedd yn cynnwys plant ifanc, roeddent yn fwy tebygol o ddewis unigolion ar gyfer perthynas hirdymor.   Roedd amgylcheddau peryglus yn fwy tebygol o wneud i ddynion a menywod ddewis mwy o bartneriaid hirdymor, er i rai menywod ddewis mwy o bartneriaid tymor byr yn lle”.

Gellir dod o hyd i’r ymchwil a gynhaliwyd ar y cyd â  Dr Steve Stewart-Williams o Brifysgol Nottingham, yn y rhifyn diweddaraf o Evolution and Human Behavior yma.