Prifysgol Abertawe’n helpu Cymru i gael ei rhwydwaith cyntaf o synwyryddion pelydrau cosmig

Mae rhwydwaith o ddyfeisiau i ganfod cawodydd o ronynnau egni uchel sy’n bwrw’r Ddaear yn cael ei osod yng Nghymru am y tro cyntaf. Bydd prosiect rhyngwladol pwysig yn rhoi cyfle i blant ysgol archwilio rhai o’r cwestiynau pwysig ym maes astroffiseg.

Mae’r gronynnau, a elwir yn belydrau cosmig, yn teithio o ddyfnder y gofod ar gyflymder sydd ychydig dan gyflymder golau, a chredir eu bod yn tarddu o’r ardaloedd o gwmpas tyllau duon a sêr sy’n ffrwydro. Maent wedi bod yn bwrw’r Ddaear a phlanedau eraill ers i gyfundrefn yr haul gael ei ffurfio.

Drwy ganfod pelydrau cosmig, mae gwyddonwyr ledled y byd yn gobeithio dysgu mwy am rai o gwestiynau mwyaf seryddiaeth, megis gwreiddiau’r Bydysawd, marwolaeth sêr, a sut mae galaethau a thyllau duon yn ffurfio. Ar y Ddaear, defnyddiwyd dull o arsylwi ar belydrau cosmig i “edrych y tu mewn” i losgfynyddoedd, ac yn ddiweddar defnyddiwyd y dull hwn i ddarganfod siambr fawr gudd yn y Pyramid Mawr yn Giza.

Oriel science header

Mae synhwyrydd cyntaf y rhwydwaith eisoes wedi’i osod ar do Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd ger canol y ddinas. Mae ail synhwyrydd yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae cynlluniau ar droed am drydydd synhwyrydd yng nghanolfan arddangosfa Oriel Science yng nghanol dinas Abertawe.

Dywedodd yr Athro Chris Allton, o Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe: "Rydym yn gyffrous i gydweithio â Chaerdydd a chynnig casgliad o synwyryddion ledled de Cymru i fyfyrwyr ysgol. Bydd hwn yn helpu i ysbrydoli'r myfyrwyr hyn i fod y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr yng Nghymru”.

Nawr mae'r tîm yn archwilio i'r posibilrwydd o osod synhwyrydd arall mewn ysgol yng Nghymru, oherwydd bydd yr ysgol yn cael ei ddefnyddio fel adnodd addysgu i blant ysgol ledled Cymru

Mae prosiect "QuarkNet Cymru", sydd werth £93 mil, yn cael ei ariannu gan Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Lywodraeth Cymru, ac mae'n cysylltu Cymru â dau brosiect rhyngwladol blaenllaw – sef y "Prosiect Ysgolion Uwchradd ar Ymchwil Astroffiseg a Chosmig" (HiSPARC) yn Ewrop, a'r rhaglen "QuarkNet" yn UDA.

Mae HiSPARC a QuarkNet yn galluogi ysgolion uwchradd a sefydliadau academaidd i gydweithio a ffurfio rhwydwaith i fesur pelydrau cosmig. Maent yn cynnig cyfle i fyfyrwyr i gymryd rhan mewn ymchwil go iawn, gyda'r nod o ddysgu mwy am y gronynnau cosmig rhyfeddol hyn.

Pan mae pelydr cosmig yn cyrraedd atmosffer y Ddaear, mae'n creu ton o ronynnau eilaidd o'r enw mwonau sy'n lledaenu wrth iddynt deithio i'r ddaear. Drwy ddefnyddio synwyryddion sy'n gallu canfod mwonau, bydd y plant ysgol yn gallu gweithio gyda'r data i ganfod gwybodaeth am y pelydr cosmig gwreiddiol, megis ei ynni ac o le ddaeth y pelydr yn yr awyr.

Earth with light

O fis Ionawr 2018 ymlaen, bydd ysgolion yn gallu benthyg cyfarpar ffiseg gronynnau gan Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe, a bydd gweithdai a chyflwyniadau i ennyn diddordeb y plant ysgol mewn ymchwil go iawn i belydrau cosmig.

Dywedodd Dr Paul Roche, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae'n gyfle gwych i fyfyrwyr ysgol ledled Cymru gymryd rhan mewn gwaith astroffiseg cyffrous, gan ddefnyddio data sy'n dod o'n hoffer ein hun sy'n rhan o'r rhaglen ymchwil ryngwladol hon”.

Dywedodd Ken Skates,Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: "Mae prosiect QuarkNet Cymru yn enghraifft wych o sut mae buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn helpu i hwyluso gwaith ymchwil gwirioneddol arloesol ynghylch rhai o’r cwestiynau pwysicaf am astroffiseg drwy gydweithio ag arweinwyr byd-eang yn y maes. Yn fwy lleol, mae mor braf gweld buddsoddiad o'r fath yn galluogi QuarkNet Cymru a’i rwydwaith i gyflwyno gweithgareddau diddorol ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg i ddisgyblion ledled Cymru”.