Ni ddylai buddugoliaeth ysgubol gan y Ceidwadwyr yng Nghymru beri syndod i neb ... os dyna beth fydd yn digwydd

Cafodd yr erthygl hon ei hysgrifennu gan Sam Blaxland, Cymrawd Ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Abertawe, ar gyfer The Conversation yn wreiddiol.


Mae canlyniadau arolwg YouGov diweddar wedi awgrymu bod y Blaid Geidwadol ar y blaen i'r Blaid Lafur yng Nghymru, am y tro cyntaf mewn canrif, o ran cyfran y bleidlais a nifer y seddau y rhagwelir y bydd y pleidiau'n eu hennill ar 8 Mehefin.

Nid yw'r ymateb ar y naill ochr na'r llall - yn gyhoeddus ac yn breifat - wedi bod yn syndod. Roedd ymateb arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, yn ddigyffro iawn fel pe bai ddim am wneud ffwdan. Honnodd - yn ddigon cywir - mai arolwg yn unig oedd hwn a bod yr arolygon wedi bod yn anghywir iawn yn y gorffennol diweddar. Rhybuddiodd arweinydd yr astudiaeth, yr Athro Roger Scully, hefyd fod angen bod yn ofalus: "....mae dros chwe wythnos o ymgyrchu cenedlaethol a lleol ar ôl", ysgrifennodd.

Yn ôl y sylwebwyr a'r cyfryngau, pe bai'r arolwg hwn yn cael ei wireddu gan roi 21 sedd i'r Ceidwadwyr yn yr etholiad go iawn, byddai "daeargryn" wedi digwydd. Nid ydynt yn orliwio'r darlun. Byddai disodli Llafur fel y grym gwleidyddol pennaf i'r gorllewin i Glawdd Offa yn chwalu traddodiad sydd wedi bodoli ers canrif. Y tu hwnt i Twitter, bydd hyn wedi rhoi hwb pendant i obeithion y Torïaid yng Nghymru.

Ond i'r rhai sy’n meddu ar rywfaint o graffter hanesyddol a sensitifrwydd gwleidyddol, ni ddylai hyn o angenrheidrwydd beri syndod mawr. Ac ni ddylai neb gael ei dwyllo i feddwl bod y gefnogaeth i'r Ceidwadwyr - a chefnogwyr newydd y blaid - rywsut wedi dod o 'nunlle.

Herio stereoteipiau

Os bydd yr arolwg hwn yn gywir (ac mae gennyf amheuon am hyn), byddai'n wir bod y Ceidwadwyr wedi annog mwy o etholwyr Cymru i ymuno â nhw. Ond, wrth wneud hyn, byddai'r blaid yn adeiladu ar sylfeini cymharol gadarn a sefydlog.

Y ddelwedd boblogaeth o'r Blaid Geidwadol yng Nghymru yw eu bod ar y tu allan ac ar yr ymylon. Mae'r canfyddiad hwn wedi'i atgyfnerthu gan atgofion o lwyddiannau ysgubol gan y Blaid Lafur fel yn etholiad cyffredinol 1997 pan gollodd y Blaid Geidwadol bob sedd. Roedd y canlyniad mor ddramatig y defnyddiodd Tony Blair ei gwestiynau cyntaf fel Prif Weinidog yn erbyn arweinydd newydd yr wrthblaid, William Hague, i'w watwar am nad oedd gan ei blaid yr un cynrychiolydd ar ôl yng Nghymru nac yn yr Alban.

Ychydig dros ddegawd cyn hynny, roedd rhagolygon y Ceidwadwyr yn llawer mwy addawol. Ym 1983, cafwyd 'tirlithriad' o bleidleisiau ar gyfer arweinydd gwahanol: Margaret Thatcher. Enillodd y Torïaid 14 sedd - un yn brin o'r Tîm Rygbi o Aelodau Seneddol Cymreig yr oedd y prif weinidog ar y pryd wedi gobeithio ei gyflawni. Ar y pryd, enillodd seddau ymylol megis Pen-y-bont ar Ogwr a Gorllewin Casnewydd yr oedd y Blaid Lafur yn disgwyl eu hennill yn naturiol. Bellach, mae'r rhain o fewn cyrraedd y Ceidwadwyr, os oes modd barnu ar sail lle mae arweinydd plaid yn dewis ymgyrchu.

Theresa May

Apêl y Ceidwadwyr

Mae cyfnodau eraill mewn hanes diweddar yn dangos ymhellach nad yw'r llwyddiant posib hwn yn hollol annisgwyl. Edrychwn, er enghraifft, ar bob etholiad cyffredinol ers yr Ail Ryfel Byd: mae'n amlwg na fu'r Ceidwadwyr byth mor boblogaidd yng Nghymru ag yr oeddent yn Lloegr ond, serch hynny, daeth y blaid bron bob amser yn ail, o ran cyfran y bleidlais a nifer y seddu seneddol a enillwyd ganddynt. Mae digon o'r math hwn o etholwyr dosbarth canol yng Nghymru sy'n uniaethu â Phrydain, a oedd yn agored, ac sy'n dal i fod yn agored, i neges Geidwadol.

Yn wir, mae'r grwpiau hyn yn tueddu i fod yn fwy agored i neges Geidwadol nag i wleidyddiaeth y blaid genedlaethol Gymreig, Plaid Cymru, sydd bron bob amser yn dod yn drydydd neu'n bedwerydd yn genedlaethol. Yn is-etholiad Mynwy ym 1991, cafodd rhagor o bleidleisiau eu bwrw dros y Monster Raving Loony Party hyd yn oed.

Ac eto, rwy'n clywed newyddiadurwyr yn cyfeirio'n aml at "y prif bleidiau yng Nghymru: Llafur a Phlaid Cymru", er ei bod yn amlwg nad yw hyn yn wir. O leiaf ei bod yn ddealladwy. Mae Plaid yn ffenomen sy'n gyfyngedig i Gymru, ac mae hyn yn rhoi mwy o sylw iddynt nag y maent yn eu haeddu efallai ar sail eu sylfaen gefnogaeth gymharol gul. Mae cyfryngau a phrifysgolion, sydd, yn gyffredinol, yn tueddu i ffafrio gwleidyddiaeth y chwith a/neu genedlaetholdeb yn golygu bod astudiaethau o wleidyddiaeth hanesyddol neu gyfoes yng Nghymru'n tueddu i ddiystyried (neu hyd yn oed anwybyddu) Ceidwadaeth.

Dyna pam, efallai, mae'r arolwg YouGov wedi bod yn gymaint o syndod i lawer o bobl, ac efallai bydd y canlyniad ei hun yn cael yr un effaith.

Ond, a fydd y 'ddaeargryn' yn digwydd mewn gwirionedd? Mae gan y Ceidwadwyr ychydig o seddau hynod ymylol i'w dal megis Gŵyr a Bro Clwyd lle nad yw'r canlyniad yn warantedig. Gallai patrymau pleidleisio, a hyd yn oed tactegau yn y lleoedd hyn, olygu eu bod yn colli rhai o'r seddau sydd ganddynt ar hyn o bryd cyn ennill eraill. Mae arolygon megis YouGov yn dibynnu ar y rhagdybiaeth y bydd "tro'r pendil yn unffurf" rhywbeth na fydd byth yn digwydd. Nid oes amheuaeth na fydd rhai seddau yng Nghymru'n dilyn eu patrymau unigryw eu hunain sy'n amhosib eu rhagweld, gan ddibynnu ar bob math o amgylchiadau lleol, personol, neu hyd yn oed rhai sy'n gysylltiedig â Brexit.

Pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd? Efallai dylai haneswyr fel fi gadw at y gorffennol a pheidio â syllu mor eiddgar i mewn i'n peli crisial. Am wn i, os yw'r rhyfeddol yn digwydd, ni ddylai fod yn ormod o syndod i ni.


Cafodd yr erthygl hon ei hysgrifennu gan Sam Blaxland, Cymrawd Ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Abertawe, ar gyfer The Conversation yn wreiddiol. Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl wreiddiol.