Hollt yn iâ'r Antarctig yn ymestyn - cangen newydd wedi'i datgelu yn y data diweddaraf o'r ysgafell iâ

Mae'r hollt yn ysgafell iâ Larsen C yn yr Antarctig bellach wedi ffurfio ail gangen sy'n symud i gyfeiriad blaen yr iâ, yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe sydd wedi bod yn astudio'r data diweddaraf o loerenni.

Ar hyn o bryd, mae'r prif hollt yn Larsen C, sy'n debygol o greu un o'r mynyddoedd iâ mwyaf a gofnodwyd erioed, yn 180 km o hyd. Mae cangen newydd yr hollt yn 15km o hyd.

Y llynedd, dywedodd ymchwilwyr o Brosiect Midas y DU, sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe, fod yr hollt yn tyfu'n gyflym. Erbyn hyn, dim ond 20km o iâ sy'n rhwystro'r darn 5,000 o km sgwâr rhag arnofio i ffwrdd.

Ice rift graphic - 2 May 2017 - branching

Lleoliad yr hollt ar ysgafell iâ Larsen C ar 1 Mai 2017. 

'Newid sylweddol'

Wrth ddisgrifio'r canfyddiadau diweddaraf, meddai'r Athro Adrian Luckman o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, sy'n bennaeth Prosiect Midas: "Er nad yw blaen yr hollt blaenorol wedi symud ymhellach, mae cangen newydd wedi cael ei chreu. Mae hyn tua 10km y tu ôl i'r blaen blaenorol, ac yn symud tuag at flaen yr iâ.

Dyma'r newid sylweddol cyntaf yn yr hollt ers mis Chwefror eleni. Er nad yw hyd yr hollt wedi newid ers sawl mis, mae wedi bod yn ehangu'n gyson fesul mwy na metr bob dydd.

Mae'n aeaf ar hyn o bryd yn yr Antarctig, felly mae arsylwadau gweledol uniongyrchol yn brin ac â chydraniad isel. Mae ein harsylwadau ar yr hollt yn seiliedig ar interferometreg radar agorfa synthetig (SAR) o loerenni Sentinel-1 yr Asiantaeth Gofod Ewropeaidd. Mae interferometreg radar o loerenni yn caniatáu i ni fonitro datblygiad yr hollt yn fanwl gywir."

'Chwarter maint Cymru' 

Dywed ymchwilwyr y bydd colli darn sy'n cyfateb i chwarter maint Cymru'n gadael yr ysgafell gyfan yn agored i chwalu yn y dyfodol. Mae Larsen C tua 350m o drwch ac mae'n arnofio ar y moroedd ar ymyl Gorllewin yr Antarctig, gan ddal llif y rhewlifoedd sy'n ei bwydo yn ôl.

Larsen C ice rift - aerial view‌ Awyrlun o ysgafell iâ Larsen C (llun gan John Sonntag/ NASA)

Meddai'r Athro Adrian Luckman: "Pan fydd yn ymrannu, bydd ysgafell iâ Larsen C, yn colli mwy na 10% o'i harwynebedd a fydd yn gadael blaen yr iâ yn y safle pellaf yn ôl a gofnodwyd erioed. Bydd y digwyddiad hwn yn golygu newid sylfaenol yn nhirwedd Penrhyn yr Antarctig.

Rydym wedi dangos o'r blaen y bydd y ffurfwedd newydd yn llai sefydlog nag yr oedd cyn yr hollt, ac mae'n bosib y bydd Larsen C, yn y pen draw, yn dilyn enghraifft ei chymydog, Larsen B, a chwalodd yn llwyr yn 2002 yn dilyn digwyddiad ymrannu tebyg o ganlyniad  i hollti". 

Mi fydd Prosiect MIDAS yn parhau i fonitro datblygiad yr hollt er mwyn asesu effaith parhaus yr hollt. Bydd diweddariadau cyson yn cael eu rhannu ar ein blog ac ar ein ffrwd Twitter

Ice rift - ice velocity graphic May 2017

Cyflymderau llif iâ Larsen C yn mis Chwefror 2017, gan ESA Sentinel-1 data.