Gwelliannau Effeithlonrwydd Ynni Cartref yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd

Am y tro cyntaf mae ymchwil newydd yn dangos sut mae gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi'u hanelu at gartrefi ag incwm isel yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd.

Mae canfyddiadau a gyhoeddwyd heddiw yn adroddiad Cysylltu Data Tlodi Tanwydd ac Iechyd  yn dangos bod pobl sydd wedi cael budd o gynllun Cartrefi Cynnes NEST Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r gwasanaeth iechyd yn llai. 

Defnyddiodd yr astudiaeth ddata gan y GIG i gymharu pa mor aml y defnyddir y gwasanaeth iechyd gan bobl sydd wedi cael budd o welliannau ynni cartref NEST gyda grŵp a reolir a oedd yn gymwys i dderbyn y gwelliannau ond roeddent yn aros iddynt gael eu cwblhau.

Canfu'r ymchwil bod ymweliadau Meddyg Teulu ar gyfer salwch resbiradol wedi gostwng gan bron 4% ar gyfer y rhai sydd wedi cael budd o welliannau NEST. Cododd y rhain gan bron 10% yn y grŵp a reolir dros yr un cyfnod amser.

Cafwyd patrwm tebyg yn achos achosion o asthma gan brofi gostyngiad o 6.5% yn y grŵp a dderbyniodd y gwelliannau a chynnydd o 12.5% yn y grŵp a reolir dros yr un cyfnod amser.

Meddai'r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:"Mae'r canfyddiadau hyn yn dangos nid yn unig bod ein cynllun Cartrefi Cynnes NEST yn helpu i ostwng biliau ynni tra ar yr un pryd yn gostwng allyriadau ond ei fod hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles rhai o gartrefi Cymru sydd fwyaf agored i niwed.

"Dyma pam fy mod yn falch ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref ar gyfer cartrefi sydd ag incwm isel a'n bod wedi ymrwymo £104 miliwn dros y pedair blynedd nesaf i wella hyd at 25,000 o gartrefi eraill trwy Raglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru." 

Ychwanegodd y Gweinidog dros Iechyd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans; "Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn gofyn i gyrff cyhoeddus gydweithio i wella lles ac i greu Cymru iachach. Mae'r ymchwil hwn yn galonogol wrth i ni weithio i gydweithredu gyda chymunedau i wella iechyd a lles ac i feddwl mewn ffordd wahanol am y ffordd rydym yn cyflenwi gwasanaethau. Mae atal iechyd gwael yn hytrach na'i drin yn llawer gwell i'r unigolyn."

Meddai'r Athro Ronan Lyons, Cyfarwyddwr Cysylltiol Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol  Cymru  (ADRC-W), a leolwyd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: "Rydym yn hynod falch bod ADRC-W unwaith eto wedi llwyddo i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddadansoddi sut mae'r cynllun Cartrefi Cynnes NEST wedi effeithio ar gartrefi Cymru ac ar iechyd y bobl sy'n byw ynddynt."

Mae'r canfyddiadau ymchwil sy'n dod i'r amlwg wedi cael eu defnyddio i ddatblygu'r cynllun Cartrefi Cynnes NEST newydd ac o ganlyniad mae'r meini prawf cymhwysedd i dderbyn pecyn o fesurau effeithlonrwydd ynni cartref wedi'u hehangu i gynnwys cartrefi ag incwm isel sydd ag aelodau sy'n dioddef o gyflyrau resbiradol a chylchredol. 

Ychwanegodd Prif Weithredwr y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yr Athro Jane Elliott: 'Mae canfyddiadau'r prosiect yn dangos y nerth sydd ynghlwm â data gweinyddol cysylltiedig at ddibenion ymchwil a gwerthuso polisi ac maent yn rhoi tystiolaeth gadarn i hysbysu cyflenwi rhaglenni a gwasanaethau sy'n fwy cost effeithiol i wella iechyd ac ansawdd bywyd pobl yng Nghymru. Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Data Gweinyddol a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn cefnogi nifer o brosiectau ymchwil pwysig ar draws y DU sy'n rhoi tystiolaeth am ystod o faterion cymdeithasol a materion polisi y gellir eu hateb trwy gysylltu data gweinyddol y llywodraeth yn unig.'