Darganfod digwyddiad difodiant newydd

Dros ddau filiwn o flynyddoedd yn ôl, diflannodd traean o’r anifeiliaid morol mwyaf, gan gynnwys y siarc mwyaf a fu erioed, sef y Megalodon, a morfilod, adar môr a chrwbanod môr.

Yn ogystal â chael effaith sylweddol ar fioamrywiaeth hanesyddol y ddaear, cafodd y difodiant hwn nad oeddem yn gwybod amdano gynt, effaith sylweddol ar y modd y mae ecosystemau’n gweithredu. Dangoswyd hyn gan dîm o ymchwilwyr, gan gynnwys y cyd-awdur Dr John Griffin o Adran Biowyddoniaeth Prifysgol Abertawe. 

Mae diflaniad rhan fawr o’r megaffawna daearol megis y gath ysgithrog a’r mamoth yn ystod yr oes iâ yn adnabyddus iawn. Bellach mae’r tîm o ymchwilwyr dan arweiniad Prifysgol Zurich, ac Amgueddfa Natukunde ym Merlin, wedi dangos bod digwyddiad difodiant tebyg wedi digwydd yn gynharach, yn y cefnforoedd.

Darganfod digwyddiad difodiant newydd

Gwnaeth y tîm rhyngwladol archwilio ffosilau megaffawna morol o’r cyfnod Plïosenaidd a’r cyfnod Pleistosenaidd (5.3 miliwn i oddeutu 9,700 o flynyddoedd C.C.).  “Bu modd i ni ddangos i oddeutu traean o fegaffawna morol ddiflannu oddeutu dri i ddau filiwn o flynyddoedd yn ôl. Felly, roedd y cymunedau megaffawna morol a etifeddwyd gan bobl eisoes wedi’u newid ac roeddent yn gweithredu gyda llai o amrywiaeth”, esbonia’r prif awdur, Dr Catalina Pimiento, a gynhaliodd yr astudiaeth yn Amgueddfa a Sefydliad Paleontologel Prifysgol Zurich.

Megalodon tooth

Dant Megalodon, y siarc mwyaf a fu erioed, a ddiflannodd dros ddau filiwn o flynyddoedd yn ôl.

Ychwanegodd awdur cyfrannol Dr John Griffin o Brifysgol Abertawe:  “Mae’n rhyfeddol nad oedd neb yn ymwybodol o ddigwyddiad difodiant fel hwn, ymhlith yr anifeiliaid mwyaf yn y cefnforoedd, tan nawr. Mae’n dymchwel y dybiaeth fod bioamrywiaeth y cefnforoedd yn gwrthwynebu newid amgylcheddol yn hanes diweddar y Ddaear”.  

Yn anad dim, effeithiodd y digwyddiad difodiant a ddarganfuwyd yn ddiweddar ar famaliaid morol, a gollodd 55 y cant o’u hamrywiaeth. Collwyd cymaint â 43 y cant o rywogaethau crwbanod môr, yn ogystal â 35 y cant o adar môr a 9 y cant o siarcod. Ar y llaw arall, datblygodd y ffurfiau bywyd newydd canlynol yn ystod y cyfnod Pleistosenaidd dilynol: Nid oedd oddeutu chwarter o'r rhywogaethau o anifeiliaid, gan gynnwys yr arth wen Ursus, yr aderyn drycin Oceanodroma a'r pengwin Megadyptes, yn bodoli yn ystod y cyfnod Plïosenaidd.  Ar y cyfan, fodd bynnag, nid oedd modd cyrraedd y lefelau amrywiaeth a fu gynt eto.

Effeithiau ar amrywiaeth swyddogaethol

Er mwyn pennu canlyniadau'r difodiant hwn, canolbwyntiodd y tîm ymchwil ar barthau arfordirol bas, gan archwilio effeithiau colli endidau swyddogaethol cyfan ar ecosystemau arfordirol. Mae endidau swyddogaethol yn grwpiau o anifeiliaid nad ydynt o reidrwydd yn perthyn i'w gilydd, ond sy'n rhannu nodweddion tebyg yn nhermau'r rolau ecolegol y maent yn eu chwarae mewn ecosystemau. Y canfyddiad: Collwyd saith o endidau swyddogaethol mewn dyfroedd arfordirol yn ystod y cyfnod Plïosenaidd. 

Megalodon teeth credit Catalina Pimiento

Er bod colli saith endid swyddogaethol a thraean o'r rhywogaethau’n ffigwr cymharol fach, arweiniodd hyn at erydiad pwysig o ran amrywiaeth swyddogaethol: diflannodd 17 y cant o'r cyfanswm amrywiaeth mewn swyddogaethau ecolegol yn yr ecosystem.  Diflannodd ysglyfaethwyr a oedd yn gyffredin o'r blaen a daeth cystadleuwyr newydd yn eu lle a gorfodwyd anifeiliaid morol i addasu.

"Mae ein dadansoddiadau'n darparu persbectif newydd ar gyfer cadwraeth fodern" esbonia Dr Griffin. "Nid yw anifeiliaid morol mawr yn dangos eu bod yn colli llawer o swyddogaeth o gwbl a golyga hyn felly nad oes llawer iawn o rywogaethau, os o gwbl, sy'n aros i gymryd drosodd a chyflawni rôl ecolegol rhywogaeth goll. Gallai colli rhywogaeth unigol o fegaffawna morol olygu colli swyddogaeth ecolegol gyfan". Yn ogystal, canfu'r ymchwilwyr fod cynefinoedd arfordirol wedi'u lleihau'n sylweddol adeg y difodiant o ganlyniad i amrywiadau gwyllt yn lefel y môr.

Mae anifeiliaid morol gwaed cynnes yn fwy agored i newidiadau amgylcheddol byd-eang

Mae'r ymchwilwyr yn cynnig bod colli'r cynefinoedd arfordirol cynhyrchiol mor sydyn, ynghyd â ffactorau cefnforol megis ceryntau môr gwahanol, wedi cyfrannu'n sylweddol at yr achosion hyn o ddifodiant.   "Mae ein modelau wedi dangos bod anifeiliaid gwaed cynnes yn benodol yn fwy tebygol o drengi. Er enghraifft, diflannodd rhywogaethau o fuchod môr a morfilod walbon, yn ogystal â'r siarc enfawr Carcharocles megalodon", esbonia Dr Pimiento. "Dengys yr astudiaeth hon fod megaffawna morol yn llawer mwy agored i newidiadau amgylcheddol byd-eang yn y gorffennol daearegol diweddar nag y tybiwyd gynt”. Mae'r ymchwilydd hefyd yn tynnu sylw at debygrwydd yn yr oes sydd ohoni: Y dyddiau hyn, mae rhywogaethau morol mawr megis morfilod neu forloi hefyd yn agored iawn i ddylanwadau dynol.

Darllenwch yr ymchwil ar Nature.com