Coleri data’n datgelu’r tactegau mae cyrchau babŵns yn defnyddio er mwyn dwyn bwyd

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe'n rhan o dîm rhyngwladol sydd wedi dangos sut mae babŵns cyfrwys sy'n byw ar gyrion Cape Town, De Affrica, yn defnyddio tacteg eistedd ac aros cyn ymosod ar dai pobl er mwyn dwyn bwyd.

"Mae cyrchoedd babŵns yn her ddifrifol ym mhenrhyn y Cape, De Affrica", meddai'r Athro Justin O'Riain o Brifysgol Cape Town, un o awduron astudiaeth a gyhoeddwyd gan y cyfnodolyn Scientific Reports, sydd wedi bod yn astudio babŵns yn y rhanbarth ers dros ddegawd.

Mewn astudiaeth flaenorol, dangosodd y tîm fod y strategaeth rheoli'n rhwystro'r babŵns rhag dod i mewn i ardaloedd trefol ond bod rhai gwrywod yn dyfeisio ffyrdd o ddod i mewn er gwaethaf hyn. Roedd y tîm yn awyddus i ddeall sut roedd y babŵns yn llwyddo i wneud hyn, ac felly cynhyrchwyd coleri pwrpasol ar gyfer y babŵns a fyddai'n galluogi’r tîm i ddilyn symudiadau 10 babŵn yn fanwl gywir.

Baboon

Meddai Dr Gaëlle Fehlmann, prif awdur yr astudiaeth a wnaeth y gwaith maes yn Ne Affrica: "Mae pobl yn tybio nad oes gan y babŵns ddigon o fwyd yn eu cynefinoedd naturiol ac felly nid oes ganddynt ddewis ond porthi yn y dref. Mewn gwirionedd, mae ein hymchwil yn dangos bod digon o fwyd yn yr amgylchedd naturiol lle nad oes llawer o risg o gael eu styrbio gan bobl. Mewn gwrthgyferbyniad, mae’r tebygolrwydd o wrthdaro rhwng pobl a babŵns mewn ardaloedd trefol yn uchel, ond yno ceir mwy o fwyd, ac mae’r budd caloriol yno 10 gwaith yn well”. 

Datgelodd data o'r coleri fod babŵns gwrywaidd yn aros ger ymylon y ddinas, gan gymryd rhan mewn cyrchoedd byr ond dwys i'r amgylchedd trefol pan fyddai cyfle'n codi, yn debyg i strategaeth eistedd ac aros.

Meddai Dr Andrew King, pennaeth SHOALgroup Prifysgol Abertawe ac uwch-awdur yr astudiaeth: “Roeddem yn amau bod y babŵns yn gwneud rhywbeth clyfar i'w galluogi i leihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â fforio mewn ardaloedd trefol, a chadarnhaodd y data a gasglwyd o'r coleri hyn”.

Dengys y data, o ganlyniad i'w tactegau cyrchu, mai dim ond am tua 10% o'u hamser oedd y babŵns a astudiwyd yn treulio’n fforio am fwyd. Mae hynny llawer llai na’r amser y mae babŵns sydd ddim yn cyrchu yn treulio yn fforio am fwyd, sef tua hanner eu hamser. 

Meddai Dr Fehlmann: “Mae ein canlyniadau'n cyflwyno tystiolaeth ddigamsyniol o hyblygrwydd eithafol yn ymddygiad y babŵns hyn. Ystyriwyd ers amser hir bod hyblygrwydd ymddygiad yn gydran ganolog o allu rhywogaeth i ymdopi â newidiadau amgylcheddol o ganlyniad i ymddygiad dynol, ond mae wedi bod yn anodd, neu'n amhosib, mesur hyn mewn grwpiau o anifeiliaid gwyllt. Mae'r technolegau llwybro newydd a ddefnyddir gan yr ymchwilwyr yn newid hyn”.

Nawr fod yn ymchwilwyr wedi datgelu tactegau’r babŵns cyfrwys, bydd strategaethau'n cael eu mireinio i wella’r strategaeth rheoli babŵns llwyddiannus yn Cape Town.

Gellir gweld copi llawn o'r papur “Extreme behavioural shifts by baboons exploiting risky, resource-rich, human-modified environments", yn y cyfnodolyn Scientific Reports, yma.