Mynydd iâ triliwn o dunellau: Ysgafell Iâ Larsen C yn hollti o'r diwedd

Mae mynydd iâ sy'n pwyso triliwn o dunellau - un o'r rhai mwyaf a gofnodwyd erioed - wedi torri'n rhydd o Ysgafell Iâ Larsen C yn yr Antarctig, ar ôl i hollt yn yr iâ a oedd yn cael ei fonitro gan brosiect MIDAS dan arweiniad Prifysgol Abertawe, ehangu'n gyflym.

Cwblhawyd y broses ymrannu rhwng dydd Llun 10 Gorffennaf a dydd Mercher 12 Gorffennaf  pan dorrodd darn 5,800 o km sgwâr yn rhydd o Larsen C.

Mae'r mynydd iâ, sy'n debygol o gael ei enwi'n A68, yn pwyso mwy na thriliwn o dunellau. Mae ei gyfaint ddwywaith cyfaint Llyn Erie, sef un o'r Llynnoedd Mawrion.

Wrth i'r mynydd iâ hwn dorri'n rhydd, mae Ysgafell Iâ Larsen C wedi colli mwy nag 12% o'i harwyneb, gan newid tirwedd Penrhyn yr Antarctig am byth.

Er y bydd yr ysgafell iâ sy'n weddill yn parhau i dyfu, mae ymchwilwyr o Abertawe wedi dangos o'r blaen y gallai'r ffurfwedd newydd fod yn llai sefydlog nag yr oedd cyn yr hollt. Maen nhw'n credu y gall Larsen C, yn y pen draw, ddilyn enghraifft ei chymydog, Larsen B, a chwalodd yn llwyr yn 2002 yn dilyn digwyddiad ymrannu tebyg o ganlyniad i hollt ym 1995.

Map - July 2017

Meddai Pennaeth prosiect MIDAS, yr Athro Adrian Luckman o Brifysgol Abertawe: "Rydym wedi bod yn disgwyl y digwyddiad hwn ers misoedd, ond roedd cyflymder yr hollt terfynol yn syndod o hyd. Byddwn yn parhau i fonitro effaith y digwyddiad ymrannu hwn ar Ysgafell Iâ Larsen a hynt y mynydd iâ enfawr hwn.

Mae'r mynydd iâ yn un o'r rhai mwyaf a gofnodwyd erioed ac mae'n anodd rhagweld  ei hynt. Gall aros yn un darn neu dorri'n ddarnau llai. Os yw'r mynydd iâ cyfan, neu rannau ohono'n aros yn yr ardal, gallant fod yno am ddegawdau, gan erydu'n raddol. Os ydynt yn symud tua'r gogledd, gan ddilyn y prifwyntoedd a'r prif gerrynt, gallant gyrraedd cefnforoedd twymach lle byddant yn toddi'n gyflymach."

Mae Larsen C rhwng 200m a 600m o drwch ac mae'n arnofio ar y moroedd ar ymyl Penrhyn yr Antarctig, gan ddal llif y rhewlifoedd sy'n ei bwydo yn ôl.

Mae ymchwilwyr MIDAS wedi bod yn monitro'r hollt yn Larsen C am lawer o flynyddoedd, ar ôl i ysgafell iâ Larsen A chwalu ym 1995 ac ar ôl i Larsen B chwalu'n sydyn yn 2002.

Larsen C ice rift - aerial view‌Yr hollt yn Larsen C.

Wrth siarad am yr ymrannu diweddar, meddai Dr Martin O'Leary, arbenigwr rhewlifeg o Brifysgol Abertawe ac aelod o dîm prosiect MIDAS:

"Er mai digwyddiad naturiol yw hwn, ac nid ydym yn ymwybodol o unrhyw gysylltiad â newid yn yr hinsawdd, mae'r ysgafell iâ mewn sefyllfa fregus iawn o ganlyniad. Dyma'r pellaf yn ôl mae'r iâ wedi cilio yn ôl cofnodion hanesyddol. Byddwn yn gwylio'n ofalus iawn am arwyddion bod gweddill yr ysgafell wedi dod yn ansefydlog."

Ychwanegodd yr Athro Adrian Luckman o Brifysgol Abertawe: "Yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, mae'n bosib y bydd yr ysgafell iâ yn tyfu'n ôl yn raddol, neu gallem weld rhagor o ymrannu a allai achosi iddi chwalu yn y pen draw - mae'n anodd rhagweld y sefyllfa. Mae ein modelau'n dweud y bydd yn llai sefydlog, ond na fydd yn chwalu ar unwaith"

Er na fydd y mynydd iâ newydd hwn yn achosi cynnydd yn lefelau'r môr ar unwaith, pe bai'r ysgafell yn torri ymhellach, gallai achosi i rewlifoedd sy'n llifo o'r tir y tu ôl iddi, gyflymu eu taith i'r cefnfor. Byddai'r iâ hwn nad yw'n arnofio'n cael effaith ar lefelau'r môr ond byddai hyn yn digwydd yn raddol.