Athro Daearyddiaeth yn cyflwyno cyfres newydd Her yr Hinsawdd ar S4C

Yn y gyfres newydd o Her yr Hinsawdd, bydd yr Athro Siwan Davies o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe yn ymweld â gwledydd ledled y byd sy’n ymateb i effeithiau difrifol y newid yn yr hinsawdd.

Mi fydd yr Athro Davies yn teithio i wres crasboeth Califfornia ac yn profi llifogydd trwm yn Uganda, yn ymweld â thraethau bregus Costa Rica a rhewlifoedd dramatig Norwy, sy’n brysur ddiflannu. Yn ystod y gyfres bydd yn cwrdd â chymunedau sy’n gorfod addasu eu ffordd o fyw wrth i’r newid byd-eang yn yr hinsawdd achosi newidiadau dirfawr yn eu milltir sgwâr.

Mbale yn Uganda, Dwyrain Affrica fydd ymweliad cyntaf yr Athro Davies yn y gyfres, sy'n dechrau nos Fercher 13 Medi. Yno bydd yn cwrdd â chymunedau sy’n cael eu haddysgu am yr amgylchedd ac yn addasu eu ffordd o fyw er mwyn amddiffyn eu cymuned a’u bywoliaeth a hynny yn rhannol drwy gymorth elusennau o Gymru.  

Her yr Hinsawdd

Yr Athro Siwan Davies yn cwrdd â rhai o drigolion Mbale yn Uganda. 

“Mae Uganda yn un o’r gwledydd sy’n dioddef fwyaf o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd, ac er mai bach iawn yw cyfraniad y wlad at nwyon tŷ gwydr, mae effaith y cynhesu byd eang yn achosi problemau mawr i’r wlad. Sychder a phatrwm y glaw yw’r prif broblemau, ond maen nhw hefyd yn dioddef o ganlyniad i golli coedwigoedd,” meddai’r Athro Davies.

Mae poblogaeth Uganda yn debygol o ddyblu pob ugain mlynedd ac mae’r angen am dir i dyfu cnydau i fwydo’r boblogaeth yn angenrheidiol. Serch hynny mae torri’r coed i greu mwy o le i’w tyfu wedi creu problemau, fel eglura’r Athro Davies;

“Mae angen dail y coed i amddiffyn y cnydau ac mae'r gwreiddiau yn amsugno dŵr pan fydd glaw trwm. Mae’r diffyg yma yn achosi tirlithriadau peryglus sy’n golchi’r cnydau i ffwrdd, yn gallu dinistrio pentrefi, a lladd pobl mewn rhai achosion. Amaeth yw prif incwm Uganda, os yw hwnnw yn methu, does dim bwyd nag incwm. Mae’r dynion yn gadael am y dinasoedd i chwilio am waith ac yn aml dydyn nhw ddim yn dod yn ôl.”

Serch hynny, drwy addysgu’r cymunedau am bwysigrwydd tyfu coed ac addasu i’w hamgylchedd, mae newidiadau amlwg er gwell, ac mae’r diolch yn rhannol i Gymru.

Yn sgil elusennau o Gymru megis Pont o Bontypridd, Hub Cymru Africa a Maint Cymru mae bywydau trigolion Mbale yn newid er gwell. Mae'r prosiect ‘Plant’ gan Maint Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio yn Uganda ers 2014 a hynny drwy roi coeden i'w phlannu  am bob plentyn sy’n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru. Y nod yw plannu 10 miliwn o goed ym Mblae ac ers sefydlu’r ymgyrch mae hanner o'r rheini wedi’u plannu.

Mae Mbale hefyd yn cael cymorth gan Lywodraeth Cymru i addysgu’r plant a’r gymuned ar sut i  blannu a gofalu am y coed ac am eu cyfraniad at gydbwysedd y blaned. Ar eu hymweliad ag ysgol leol yn Mbale, cafodd yr Athro Davies groeso cynnes iawn gan y disgyblion a pherfformiad arbennig am yr hyn yr oeddynt wedi’i ddysgu am bwysigrwydd coed i’r amgylchedd.

“Roedd plant Mbale yn fy nhrin i fel Brenhines, am fod Cymru wedi eu helpu drwy dalu am y coed a'u haddysg,” meddai’r Athro Davies sy’n wreiddiol o Drefdraeth yn Sir Benfro ond sydd ar hyn o bryd yn byw gyda’i theulu yn Maine yn yr Unol Daleithiau wrth wneud gwaith ymchwil dan Ysgoloriaeth Fulbright.

Tra yn Uganda bu’r Athro Davies yn ymweld â Grŵp Merched Sunno sydd hefyd wedi cael cymorth o Gymru. Mae’r gymuned glos o wragedd wedi cael hyfforddiant i blannu a meithrin coed a chadw cychod gwenyn. Maen nhw'n falch iawn o allu cyfrannu at wella eu hamgylchedd yn ogystal â gwerthu cynnyrch mêl yn y farchnad leol. Cafodd yr Athro Davies groeso arbennig ar ei hymweliad â nhw ac fe gafodd eu hymdrechion i wella eu bywydau argraff fawr arni.

Meddai: “Y ffaith yw mai gwledydd tlawd fel Uganda sy’n mynd i ddioddef fwyaf, ond o beth welais i maen nhw yn ymdrechu yn eu cymunedau ar raddfa leol. Doedd ganddyn nhw ddim eiddo, tai moethus na hyd yn oed toiled preifat, ond roedd ganddyn nhw gariad at natur, at ei gilydd ac at Gymru”.


Her yr Hinsawdd, nos Fercher 13 Medi 9.30pm ar S4C. 

Ar alw: s4c.cymru; BBC iPlayer a llwyfannau eraill.

Cynhyrchiad Telesgop ar gyfer S4C.