A all treulio amser yn ein parciau, ein coetiroedd a’n traethau wella iechyd meddwl pobl Cymru?

Bydd astudiaeth newydd gan gydweithrediad dan arweiniad Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe’n archwilio a all treulio amser mewn mannau gwyrdd a glas, megis parciau a thraethau, gael effaith gadarnhaol ar ein lles a’n hiechyd meddwl hirdymor.

Green and blue spaces generic

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae problemau iechyd meddwl a lles yn destun pryder cyhoeddus cynyddol. Bydd un ym mhob pedwar ohonom yn profi cyflwr iechyd meddwl megis gorbryder neu iselder rywbryd yn ystod ein bywydau. Mae problemau iechyd meddwl yn costio economi’r DU dros £100 biliwn y flwyddyn.

Mae corff cynyddol o dystiolaeth yn dangos y gallai treulio amser mewn mannau gwyrdd a glas fod o fudd i iechyd meddwl a lles. Bellach mae’r NIHR yn buddsoddi mewn cydweithrediad a fydd yn archwilio a all mannau gwyrdd a glas, megis traethau a pharciau, gael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd a’n lles hirdymor.

Mae’r cydweithrediad yn cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Caerdydd a Sefydliad Iechyd Byd-eang Barcelona. Bydd y cyllid newydd hwn yn galluogi ymchwilwyr i edrych ar y boblogaeth ar raddfa fawr, gan ystyried y rhan fwyaf o’r boblogaeth a’r amgylchedd yng Nghymru, a newidiadau dros amser.   

Bydd y tîm o academyddion yn gweithio gyda phartneriaid o Gyfoeth Naturiol Cymru, Cadwch Gymru’n Daclus, Chwaraeon Cymru, Dinas a Sir Abertawe a Llywodraeth Cymru. Bydd ymchwilwyr yn casglu data am iechyd a’r amgylchedd ac yn cysylltu’r data hwnnw mewn banc data a leolir ym Mhrifysgol Abertawe (saildatabank.com). Mae’r Banc Data Diogel ar gyfer Cysylltu Gwybodaeth Ddienw (SAIL), yn system o safon fyd-eang sy’n dod â data ynghyd mewn ffordd ddiogel, ddibynadwy a chyfrinachol. Bydd y tîm yn ystyried sut y mae hygyrchedd a digonedd o fathau gwahanol o fannau gwyrdd a glas yn gysylltiedig â buddion iechyd meddwl a lles i wahanol bobl.

Bydd ymchwilwyr yn edrych ar ddata ar gyfer 1.7 miliwn o bobl yng Nghymru i archwilio sut y mae pobl yn newid y ffordd y maent yn defnyddio gwasanaethau iechyd, megis eu meddyg teulu, wrth i’r amgylchedd o’u cwmpas newid. Gan ei bod yn cymryd amser i effeithiau mannau gwyrdd a glas newid iechyd, bydd y tîm yn defnyddio data hanesyddol ynghyd â dulliau ystadegol i asesu effeithiau dros y degawd diwethaf.

Mae Dr Sarah Rodgers, Athro Cyswllt yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe’n arwain y tîm. Meddai: “Mae’r 24,000 o bobl sy’n ymateb yn flynyddol i Arolwg Cenedlaethol Cymru’n aml yn dweud wrthym ba mor aml y maent yn ymweld â mannau gwyrdd neu las, i ble y maent yn mynd, beth y maent yn ei wneud, ac yn adrodd am eu lles. Byddwn yn profi a yw pobl sy’n ymweld â mannau gwyrdd a glas yn fwy aml yn nodi bod eu lles yn well.  Byddwn yn gallu archwilio, er enghraifft, a yw pobl yn adrodd bod eu lles yn well mewn mannau gwyrddach gan eu bod yn ymweld â mannau gwyrdd a glas yn amlach ac yn gwneud mwy o weithgarwch corfforol o’u cymharu â’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd llai gwyrdd.”

Meddai Dr Ben Wheeler, sy’n arwain tîm Prifysgol Caerwysg “Bydd y dull hwn, gan ddefnyddio ‘arbrawf naturiol’, a chan weithio ar draws cydweithrediad o sefydliadau, yn caniatáu i ni gynhyrchu tystiolaeth gadarn a defnyddiol iawn. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall camau gweithredu i wella a diogelu’r amgylchedd ac iechyd y cyhoedd a allai fod o fudd i bawb.”