Yr Athro Peter Higgs, 'My life as a boson'

DARLLEDIAD BYW: Dydd Iau 12fed Gorffennaf, 4-5pm

Bydd dros 100 o wyddonwyr o ledled y byd yn ymgasglu ym Mhrifysgol Abertawe y mis Gorffennaf hwn, ar gyfer y 10fed Gynhadledd Ryngwladol ar Strong and ElectroWeak Matter (SEWM2012).

Un o’r uchafbwyntiau fydd y prif ddarlith gan yr Athro Peter Higgs o Brifysgol Caeredin, yr enwyd y gronyn anghaffaeladwy enwog Higgs boson ar ei ôl. Mae’r Athro Higgs hefyd yn Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Abertawe.

Mae ymddangosiad Peter Higgs yn Abertawe yn dilyn cyhoeddiadau cyffrous o’r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr (LHC) yn Sefydliad Ewrop ar gyfer Ymchwil Niwclear (CERN) yn Genefa, am ddarganfyddiad yr Higgs boson.

Nid oes unrhyw lefydd ar ôl ar gyfer y gynhadledd, ond bydd Prifysgol Abertawe’n darlledu darlith yr Athro Higgs yn fyw ar ddydd Iau 12fed Gorffennaf 12, 4-5pm.

Bydd manylion a chyswllt i’r darllediad byw ar gael ar y dudalen hon cyn y ddarlith.