Dirymu arian yn India - un cam yn unig ar y daith i economi heb arian parod.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon gan yr Athro Yogesh Dwivedi gan The Conversation yn wreiddiol.

Roedd yn ddatblygiad a allai fod wedi peri i economi India sefyll yn yr unfan yn sydyn. Yn wir, o edrych ar y ciwiau diderfyn i bob golwg y tu allan i fanciau, ac anawsterau wrth wario arian mewn siopau a stondinau, byddai'n hawdd credu mai hynny a ddigwyddodd. Ond roedd y penderfyniad i ddirymu'r papurau 500 rwpî a 1000 rwpî yn un yn unig o gyfres o ddatblygiadau a fydd yn gwthio India i gyfeiriad economi ddigidol

Y nod wrth ddirymu'r papurau hyn oedd cael gwared ar lygredd mewn cymdeithas ac arian ffug. Ond cyflwynwyd y  newid yn sydyn, dros nos. Roedd y ddau bapur yn cynrychioli 86% o'r papurau arian a oedd yn cylchredeg yn India, a gorfodwyd manwerthwyr a chwsmeriaid i chwilio am opsiynau eraill ar unwaith. Gwnaeth llawer droi at systemau talu digidol.

Mae'r strategaeth arian digidol wedi cael ei hamlinellu gan lywodraeth Prif Weinidog Modi, o'r dyddiau cynnar ar ôl iddi ddod i rym, drwy gyfres o benderfyniadau pwysig. Er enghraifft, o ganlyniad i gynllun Jan Dhan, agorwyd dros 220 o gyfrifon banc newydd ar gyfer y tlotaf mewn cymdeithas. Yn ogystal, mae Reserve Bank India wedi dirymu'r holl bapurau arian a ddosbarthwyd cyn 2005.

Tan yn ddiweddar, roedd arian parod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dros ddau draean o drafodion yn India. Fodd bynnag, mis yn unig ar ôl dechrau'r broses ddirymu, roedd y wlad eisoes yn gwerthfawrogi manteision trafodion digidol. Mae ffigurau'r Llywodraeth yn dangos cynnydd o 268% mewn casgliadau treth o 47 dinas yn India ar gyfer mis Tachwedd 2016, o'i gymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.

Ond a fydd India yn gallu troi'n gymdeithas heb arian parod mewn gwirionedd? Mae'r datblygiadau hyn yn gwthio'r economi yn y cyfeiriad cywir, ond a oes gan y wlad ddigon o graffter digidol i ymdopi?

Arian digidol

Ers dileu'r papurau, mae'r llywodraeth wedi bod yn gweithio'n galed i hyrwyddo systemau digidol o dalu i ddefnyddwyr, gan gynnig gwahanol gymhellion a gwobrau. Hyd yn hyn, ymddengys fod yr ymgyrch yn llwyddiannus: yn ôl y llywodraeth, cafwyd cynnydd 400-1000% mewn trafodion digidol ers dechrau'r broses ddirymu.

Mae'r newidiadau hyn wedi creu amodau perffaith yn y farchnad ar gyfer systemau digidol o dalu, yn ogystal â chyfrifon e-dalu a chardiau debyd/credyd sydd eisoes ar gael. Ac nid apiau bancio na gwefannau sylfaenol mo'r rhain chwaith. Mae Corfforaeth Taliadau Cenedlaethol India, ynghyd ag RBI, wedi lansio 'rhyngwyneb talu unedig' sy'n pweru cyfrifon lluosog gan y banciau sy'n rhan o'r cynllun ac yn cynnig nifer o wasanaethau bancio i gyd drwy un ap ffôn symudol.

Cam yn y cyfeiriad cywir yn sicr, ond nid yw heb ei broblemau. Er bod tua 220m o ddefnyddwyr ffôn clyfar yn India yn ôl ffigurau mis Chwefror 2016, mae llawer i'w wneud nes bod mynediad i'r rhyngrwyd gan 100% o'r boblogaeth.

Serch hynny, mae'r banciau wedi sicrhau nad yw diffyg ffôn clyfar yn rhwystr i fanteisio ar dalu drwy ffôn symudol, gan ddarparu opsiwn USSD ar ffonau hŷn nad ydynt yn rhai clyfar lle mae defnyddwyr yn ffonio i dderbyn yr opsiwn hwn. Yn ogystal, sefydlwyd "Menter Ddigidol India" i ddarparu mynediad i'r rhyngrwyd a mynediad cynhwysfawr i wasanaethau ffonau symudol ledled India, gan helpu mwy na biliwn o bobl i fynd ar-lein a defnyddio technegau talu digidol.

Ar ben hyn, mae RBI wedi bod yn hyrwyddo system dilysu biometrig ar gyfer bancio. Gellir defnyddio System Galluogi Talu Aadhar i agor cyfrif banc, tynnu arian allan neu ei adneuo ac i drosglwyddo arian gan ddefnyddio rhif adnabod ac ôl bys yn unig.

Crëwyd y system hon ar gyfer trefi a phentrefi anghysbell lle nad oes modd darparu peiriannau arian. Mae ganddi botensial i fod yn gonglfaen gweledigaeth y llywodraeth o greu cymdeithas ddigidol heb arian parod - os gall dreiddio'n ddigon dwfn i India wledig.

Parodrwydd pobl India

Pobl India yw'r rhwystr mwyaf i roi'r strategaeth dim arian parod ar waith. Ar y cyfan, maent wedi croesawu'r camau cyntaf tuag at gymdeithas heb arian parod er y gwelwyd rhywfaint o wrthwynebiad i'r broses ddirymu. Mae llawer yn gallu gweld manteision troi'n gymdeithas heb arian parod eisoes - er enghraifft, y gallu i roi'r union newid mewn siopau bach a chadw golwg ar wariant - ac maent yn barod i fabwysiadu'r drefn newydd.

Mae'r cyfle yno, ac mae awdurdodau India yn sicr yn awyddus i fanteisio arno. Mae ymagwedd ryngadrannol y llywodraeth, gan weithio ar strategaethau cyllid, treiddiad y rhyngrwyd a chysylltiadau cyhoeddus i gyd ar yr un pryd, yn hanfodol i sicrhau bod y cynllun dim arian parod yn llwyddo. Dan oruchwyliaeth Niti Ayog (Comisiwn Cynllunio) y llywodraeth, y cynllun yw rhoi'r systemau hyn ar waith yn y cyfnod byrraf posib.

Ond mae'n rhaid bod dinasyddion yn teimlo'n hyderus am y broses, yn enwedig y rhai sydd â phryderon ynghylch diogelwch ar-lein. Yn ogystal, mae angen codi ymwybyddiaeth ledled India o'r fenter dim arian parod, yn enwedig yn yr ardaloedd mwy gwledig. Bydd cyfranogiad banciau gwledig a chydweithredol, swyddfeydd post a sefydliadau ariannol eraill i greu ymwybyddiaeth ynghyd â rhaglenni addysg, yn y pen draw, yn paratoi'r ffordd ar gyfer economi heb arian parod.

Bydd angen hyfforddiant mewn rhannau gwledig o'r wlad hefyd. Mae ymwybyddiaeth yn ddechrau da, ond bydd angen cymorth o hyd ar rai i ddeall sut i osod a defnyddio systemau talu digidol.

Er y byddai'n amhosib i India droi'n economi heb arian parod yn ystod y cyfnod byr ers dechrau dirymu, yn ddiau mae’n rhywbeth y gall y wlad edrych ymlaen ato. Mae troi India'n gymdeithas heb arian parod yn debyg i drin nifer o glefydau cymdeithasol cronig gan ddefnyddio un driniaeth yn unig. Cam cyntaf yn unig oedd dirymu ac mae llawer mwy i'w wneud nawr - ond gall y wlad fynd â'r maen i'r wal.

Yogesh K Dwivedi Athro Personol a Chyfarwyddwr Ymchwil, Prifysgol Abertawe

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar The Conversation. Gellir darllen yr erthygl wreiddiol yma.