Varsity Cymru yn dychwelyd i Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mi fydd Varsity Cymru yn cael ei gynnal yn Abertawe eleni, gyda’r gêm rygbi fawreddog yn cael ei chwarae yn Stadiwm Liberty ar nos Fercher 25 Ebrill.

Welsh Varsity 2018 logo Yn ystod y twrnamaint sydd bellach yn ei 22ain flwyddyn, bydd myfyrwyr o dimau chwaraeon Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd yn mynd benben â’i gilydd yn y digwyddiad mwyaf o’i fath i fyfyrwyr yng Nghymru, a’r digwyddiad aml-chwaraeon fwyaf yn y DU.

Mae Varsity Cymru yn ŵyl chwaraeon wythnos o hyd fydd yn cael ei chynnal rhwng 18 - 25 Ebrill. Trwy gydol yr wythnos, bydd myfyrwyr yn cystadlu mewn dros 40 o gampau gwahanol er mwyn ennill Tarian Varsity, gan gynnwys: Frisbee Eithafol, nofio, golff, cleddyfaeth, sboncen, pêl-fasged a hoci.

Cynhelir y rhan fwyaf o’r gemau ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Prifysgol Abertawe ar Lôn Sgeti ar 25 Ebrill, a daw’r twrnamaint i’w benllanw y noson honno gyda’r gêm rygbi yn Stadiwm Liberty am 7pm.

Gobaith Abertawe yw cipio Tarian Varsity unwaith eto eleni, a hynny ar ôl cipio’r Darian am y tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth y llynedd. Bydd tîm rygbi Caerdydd yn awyddus i ailadrodd eu perfformiad yn Stadiwm Principality y llynedd, a chipio Cwpan Varsity.

Afon Tawe bydd y lleoliad ar gyfer y ras gychod rhwng Timau Rhwyfo Prifysgolion Abertawe a Chaerdydd ar ddydd Sadwrn 21 Ebrill.

Welsh Varsity players Meddai Gwyn Aled Rennolf, Swyddog Chwaraeon Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: “Rydym yn falch iawn o fod yn croesawu Varsity nôl i Abertawe eleni. Mae ein cefnogwyr bob tro’n calonogi’n chwaraewyr, ond mae rhywbeth arbennig iawn am chwarae o flaen cefnogwyr cartref. Mae’n chwaraewyr wedi bod yn hyfforddi’n galed dros y misoedd diwethaf, felly rydym yn hyderus y byddwn yn cadw’r Darian yn Abertawe”.

Dywedodd Tom Kelly, Is-lywydd Llywydd yr Undeb Chwaraeon ac Athletau: “Varsity Cymru yw un o uchafbwyntiau calendr ein myfyrwyr. Mae lot o waith paratoi yn cael ei wneud cyn y twrnamaint, y tu ôl i’r llenni ac ar y meysydd chwarae. Rwy’n edrych ymlaen at fynd yn ôl i Abertawe ym mis Ebrill, a dathlu buddugoliaeth i Gaerdydd, gobeithio!”

Mae tocynnau’n mynd ar werth am 1pm ddydd Mercher 31 Ionawr.