Myfyriwr o Brifysgol Abertawe'n beicio o Ddenmarc i'r DU i hyrwyddo mudo diogel

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ar 1 Medi 2017, dechreuodd Michael Nyantakyi, sy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, daith 888.5 milltir o hyd o Ddenmarc i Abertawe. Penderfynodd y myfyriwr, sy'n astudio am MA Erasmus Mundus mewn Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Globaleiddio, gychwyn ar y daith i dynnu sylw at sefyllfa druenus mudwyr sy'n cyrraedd Calais, Ffrainc, ond sydd heb unrhyw arall i fynd.

Treuliodd Michael gyfanswm o 19 diwrnod yn teithio mewn amodau gwlyb ac oer. Fodd bynnag, yn wahanol i lawer o'r mudwyr amddifad yn Calais, roedd Michael yn ddigon ffodus i deithio gyda dau o'i gyd-fyfyrwyr, Stefan Weichart a Sophia Jessen. Gan ddechrau yn Padborg, y dref fawr olaf rhwng Denmarc a'r Almaen, teithiodd y grŵp drwy'r Almaen, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a Ffrainc. O Calais, aethant ar y llong i Dover, gan barhau â'u taith ar hyd yr arfordir i Gymru.

Michael Oti, Stefan Weichart and Sophia Jessen

Cyrhaeddodd y grŵp Abertawe ar 19 Medi ond, misoedd wedi hynny, mae gan Michael deimladau cryf o hyd am y daith. Meddai: "Er fy mod i'n credu ei bod yn bwysig i awdurdodau Ewrop wneud rhywbeth am y sefyllfa, fel Affricanwr, credaf fod rhaid i mi ddweud wrth fudwyr eraill am yr amodau erchyll yn Calais, rhag ofn bod gan eraill gynlluniau i fudo. Mae'n rhaid i eraill fudo'n ddiogel, rhag ofn iddynt ddod i ben eu taith mewn lleoedd fel Calais heb unrhyw le arall i fynd, yn enwedig ar ôl buddsoddi cymaint o amser ac adnoddau i gyrraedd Ewrop."

Michael Oti (Calais Jungle)Mae mudo wedi bod yn bryder cyson i ddynolryw ac i arweinwyr y byd. Er bod llawer yn ymwybodol o'r problemau ynghylch 'jyngl' Calais, nid ydynt yn sylweddoli bod mudwyr yn parhau i gyrraedd hyd heddiw ac yn sgil penderfyniad Llywodraeth Ffrainc i 'gau'r cyfleuster, nid oes ganddynt unrhyw le arall i fynd.

Mae llawer o bobl o'r farn na ddylem hidio dim am fudwyr anghyfreithlon; fodd bynnag, mae'n bwysig cofio bod angen cymorth ar bobl, waeth pa amgylchiadau a achosodd iddynt fudo.

 

Mae Michael yn awyddus i bobl ddeall bod angen cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r peryglon sy'n wynebu ffoaduriaid a mudwyr wrth wneud y teithiau hyn. Meddai: "Dwi ddim yn siarad yn erbyn mudo o gwbl, ond beth dwi yn ei ddweud yw bod rhaid i bobl o Affrica a'r Dwyrain Canol, a phawb sy'n bwriadu mudo, ystyried y risgiau sydd ynghlwm".

"Mae'r daith hon wedi dangos i mi bod rhaid i ni drafod Calais. Dwi'n meddwl ei fod yn staen ar gydwybod pobl os ydym yn caniatáu i'n cyd-ddyn fyw dan y fath amodau yn Calais. Mae angen i ni gael y sgwrs honno."