Varsity Cymru yn dychwelyd i Gaerdydd yn 2017

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Eleni, bydd y twrnamaint Varsity Cymru poblogaidd yn dychwelyd i brifddinas Cymru unwaith eto ar ôl dwy flynedd lwyddiannus yn Abertawe.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher 5 Ebrill a chaiff ei gefnogi gan filoedd o fyfyrwyr o Gaerdydd ac Abertawe. 

‌Mae Varsity Cymru yn ŵyl chwaraeon sy'n cael ei chynnal o ddydd Sadwrn 1 Ebrill tan ddydd Mercher 5 Ebrill. Yn ystod y twrnamaint bydd myfyrwyr o 30 o gampau yn cystadlu i ennill Tarian y Prifysgolion mewn lleoliadau ar draws y ddinas gan gynnwys Athrofa Chwaraeon Cymru, stadiwm SSE Swalec a Pharc yr Arfau, Caerdydd.

Bydd Caerdydd yn gobeithio cadw'r darian am flwyddyn arall ar ôl ei chipio bob blwyddyn ers iddi gael ei chyflwyno. Daw'r digwyddiad i ben trwy gynnal gemau rygbi'r timau Menywod a'r Dynion gerbron torf o filoedd yn Stadiwm y Principality ar nos Fercher 5 Ebrill. Bydd tîm merched Prifysgol Abertawe’n gobeithio cael dial am golli gêm y llynedd tra bydd y dynion yn gobeithio ailadrodd perfformiad y llynedd a mynd â chwpan Varsity Cymru adref gyda nhw. 

Varsity victory shot 2016

Llun: Tîm rygbi Abertawe'n dathlu ar ôl cipio Cwpan Varsity y llynedd. 

Mae Elin Harding, Is-ganghellor Chwaraeon a Llywydd AU Prifysgol Caerdydd, yn frwd dros y twrnamaint yn dychwelyd i dir cartref eleni: "Mae'n beth cyffrous iawn i mi bod Varsity Cymru yn dychwelyd i Gaerdydd eleni ac mae'n argoeli bod yn uchafbwynt yn ein calendrau chwaraeon. Mae'n beth gwych i weld a chefnogi cynifer o fyfyrwyr yn cystadlu mewn stadia cenedlaethol a gobeithiaf y bydd modd i'n record o beidio â cholli yng nghystadleuaeth Tarian y Prifysgolion yn parhau. Mae'n beth cyffrous ein bod yn cyflwyno nifer o leoliadau newydd ac rydym wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau y bydd cystadleuaeth eleni yr un orau hyd yma."

‌Ychwanegodd Robyn Lock, Swyddog Chwaraeon yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: "Mae Varsity bob amser yn hoff adeg y flwyddyn i mi. Fel myfyriwr byddwn yn mwynhau'r gwaith paratoi, yr hyfforddi, y dwysedd a'r nerfau a'r gystadleuaeth. Mae'n ddiwrnod sy'n llawn cyffro, angerdd a pherfformiad. Mae'r arddangos athletwyr fyfyrwyr Abertawe a Chaerdydd gan adael i bawb fwynhau chwaraeon. Mae gan chwaraeon y gallu i ddod â phobl ynghyd ac er bod cystadleuaeth gyfeillgar naturiol, mae gan Varsity y gallu i uno chwaraeon Cymru. Rwy'n llawn cyffro am Varsity eleni ac ni allaf aros i'r diwrnod llawn angerdd amrwd Cymreig amlygu."

Bydd y twrnamaint yn cychwyn trwy gynnal cystadleuaeth rhwyfo ar ddydd Sadwrn 1 Ebrill a bydd carfannau Dechreuwyr ac Uwch y Dynion a'r Menywod yn cystadlu. 

Mae prynu un tocyn yn rhoi mynediad i bob digwyddiad a bydd y tocynnau ar werth o ddydd Mercher 1 Chwefror.