Unig ŵyl genedlaethol y DU sy’n dathlu’r Dyniaethau yn dychwelyd i Abertawe am y bedwaredd flwyddyn yn olynol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dewiswyd Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau Prifysgol Abertawe i fod yn un o bum canolfan gweithgareddau Being Human 2017, yr unig ŵyl genedlaethol sy’n dathlu’r Dyniaethau.

Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, arweinir gŵyl Being Human gan yr Ysgol Astudiaethau Uwch, Prifysgol Llundain, mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Academi Brydeinig. Mae'r bartneriaeth hon yn tynnu ynghyd y tri phrif gorff sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo ymchwil i'r dyniaethau yn y DU ac yn rhyngwladol.

Thema'r dathliad eleni yw Lleisiau, Wynebau a Lleoedd a chynhelir gweithgareddau ledled y DU rhwng 17 a 25 Tachwedd 2017, gan gynnwys cyfres o ddigwyddiadau am ddim yn Abertawe.

Ymysg nifer o weithgareddau amrywiol a diddorol, bydd cynulleidfaoedd yn gallu:

  • Ailddarganfod amwledau a demoniaid gwarcheidiol yr Hen Aifft;
  • Gwrando ar ddarlleniadau gan ddau o feirdd mwyaf cyffrous a pherthnasol y DU - Simon Armitage a Bardd Preswyl Radio 4, Daljit Nagra;
  • Mwynhau arddangosfa o gasgliad unigryw o bortreadau o fyd y celfyddydau yng Nghymru a dynnwyd gan Bernard Mitchell;
  • Gwylio dangosiad arbennig o'r ffilm a ganmolwyd gan y beirniaid, Don't Take Me Home, sy'n dilyn taith anhygoel tîm pêl-droed Cymru i rownd gynderfynol Cwpan Ewrop 2016.  Ar ôl y ffilm, bydd sesiwn holi ac ateb gyda chyfarwyddwr arobryn y ffilm a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe, Jonny Owen;
  • Datgelu hanesion teulu sydd â chysylltiad â'r Ymerodraeth Brydeinig;
  • Tynnu wynebau a chreu straeon, tynnu lluniau â negeseuon amlieithog ac ymbincio fel rhywun o'r Canol Oesoedd hyd yn oed!
  • Darganfod lleisiau colledig a newydd yn ein dinas amlieithog.

Being Human 2017Cyflwynir y digwyddiadau hyn gan Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau Prifysgol Abertawe (RIAH) mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o bartneriaid yn ardal Bae Abertawe.

Meddai Dr Elaine Canning, Pennaeth Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'n bleser mawr gennym fod yn ganolfan gweithgareddau Being Human 2017 a hoffem ddiolch i drefnwyr yr ŵyl am roi'r cyfle cyffrous hwn i ni gyflwyno ein hymchwil i'r gymuned unwaith eto."