Taith ofod Houston i fyfyrwraig o Landeilo

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyrwraig o’r chweched dosbarth yn Ysgol Bro Dinefwr yn Llandeilo yn anelu am Houston, Tecsas, i gymryd rhan mewn Ysgol Ofod gyda NASA, gyda chymorth gan Brifysgol Abertawe, sydd â chysylltiadau cryf â Thecsas.

Bydd Ffion James, 17, yn rhan o grŵp o 50 o fyfyrwyr o dros 20 o wledydd sy’n cymryd rhan yn y rhaglen a redir gan NASA.

Thema’r ysgol haf yw “Taith â Chriw i’r Blaned Mawrth”. Caiff myfyrwyr eu rhoi mewn timau a fydd yn edrych ar wahanol agweddau ar gynllunio taith ofod i’r blaned goch: rheoli’r daith, gweithrediadau, y llwybr, preswylio ac archwilio.

Yn ystod yr ysgol haf, caiff y myfyrwyr eu haddysgu gan arbenigwyr awyrofod. Hefyd bydd ganddynt gyfle i fynd ar daith o Ganolfan Gofod Johnson, Canolfan Gofod Houston a sefydliadau gwyddoniaeth a thechnoleg eraill. Byddant hefyd yn cysylltu â’r Orsaf Ofod Ryngwladol ac yn cymryd rhan mewn telegynhadledd ar wyddorau bywyd, bio-astronoteg a meddygaeth awyrofod mewn prifysgol.  

600 x 488

Llun:  Ffion gyda baner Texas, ym Mhrifysgol Abertawe

Meddai Ffion, sy’n astudio ar hyn o bryd ar gyfer ei chymwysterau uwch gyfrannol yn Ysgol Bro Dinefwr, fod ganddi gariad at y gofod ers nifer o flynyddoedd:

“Mae’r sêr yn rhywbeth sydd wedi fy niddori’n fawr erioed – mae rhywbeth heddychlon ond peryglus amdanynt. 

Cefais fy nghariad at Star Trek oddi wrth fy nhad!   Rwyf bob amser wedi bod wrth fy modd gyda datrys problemau a phosau ac roeddwn i’n arfer cynilo fy arian Nadolig a phen-blwydd i brynu telesgopau.

Rwyf eisoes wedi ymweld â safle lansio NASA ym Mhenrhyn Kennedy 3 gwaith.  Rwyf wedi siarad â phobl oedd yn ymwneud â’r teithiau, sydd wir wedi fy ysbrydoli.”

Dechreuodd y gwaith i Ffion ymhell cyn dechrau’r ysgol haf.  Fel rhan o’i pharatoadau, bu’n rhaid iddi wneud profion ac arholiadau a osodwyd gan NASA.

Mae Ffion a’i chyd-fyfyrwyr eisoes mewn cysylltiad ar y cyfryngau cymdeithasol, cyn y byddant i gyd yn teithio i Houston. Unwaith y byddant yn Nhecsas, byddant yn aros gyda theuluoedd lletyol ac mae llawer ohonynt yn gweithio gyda NASA a’r diwydiant awyrofod.  

Esboniodd Ffion y math o heriau y bydd yn eu hwynebu’n rhan o’r cwricwlwm:

“Mae NASA am fod yn rhyngwladol, gyda chysylltiadau agos er enghraifft rhwng UDA a Rwsia ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol. Felly mae mynd i’r afael â gwahaniaethau ieithyddol a diwylliannol ymhlith eu prif heriau.

Bydd angen i ni wynebu hyn yn yr ysgol haf. Mae angen i ni weithio mewn timau, a bydd angen i ni sefydlu ffordd o gyfathrebu rhwng pobl nad ydynt yn rhannu’r un iaith.”

Ychwanegodd Ffion mai ei swydd ddelfrydol fyddai gweithio yn y diwydiant gofod, gan ddatrys problemau ar lefel y ddaear.

“Rwyf wastad wedi bod yn un sy’n hoff o ddatrys problemau, felly byddwn â diddordeb mawr mewn canfod y llwybrau hedfan mwyaf effeithlon.

Ar hyn o bryd rwyf yn astudio moeseg felly mae gennyf ddiddordeb mawr hefyd mewn cwestiynau moesegol yn ymwneud â theithio’r gofod. A yw’n iawn i gyflwyno teithwyr i’r Blaned Mawrth i lefelau uchel o ymbelydredd ar siwrne fyddai’n para tair blynedd? A fyddai bodau dynol yn fodau dynol o hyd pe baent yn addasu i fywyd ar y Blaned Mawrth? Beth yw moeseg pobl yn heneiddio ar raddfa wahanol, fel y byddai’n digwydd pe baent ar y Blaned Mawrth?” 

600 x 389Llun:  Mae FFion yn derbyn crys T o Dr Caroline Colman Davies o Brifysgol Abertawe

Yn ogystal â mynd i’r afael â’r cwestiynau moesegol pwysig hyn, meddai Ffion ei bod yn edrych ymlaen at brofi bywyd yn UDA a dysgu am ddiwylliannau eraill, gan ychwanegu mai’r prif beth ar ei rhestr o swfenîrs fydd un o hetiau cowboi enwog Tecsas!  

Mae gan Brifysgol Abertawe bartneriaeth strategol â sawl prifysgol uchel ei pharch yn Nhecsas, gan gynnwys Houston. Mae’r cysylltiadau hyn eisoes yn dod â buddion megis cynlluniau cyfnewid myfyrwyr a chydweithrediadau ymchwil ar y cyd, mewn meysydd yn amrywio o’r celfyddydau a’r dyniaethau i nanotechnoleg. 

Meddai Dr Caroline Coleman-Davies, sy’n rheoli Partneriaeth Tecsas Prifysgol Abertawe:

“Mae cysylltiadau’r Brifysgol â Thecsas yn mynd o nerth i nerth, gyda myfyrwyr ac ymchwil yn gweld y budd. Mae hi bob amser yn wych gweld myfyrwyr lleol yn ceisio ehangu eu gorwelion, felly mae’n bleser mawr gennym gefnogi llwyddiant Ffion mewn ennill lle yn Ysgol Haf NASA.”