Sut mae cael gwared ar 'arian du' wedi ysgogi helfa drysor ddigidol yn India

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol gan Yogesh K Dwivedi, Kuttimani Tamilmani a Nripendra Rana gan The Conversation.

Yn yr hyn y gellir ei ddisgrifio orau fel cyfle i gael gwared ar ddrygioni yn economi gysgod y wlad, mae Prif Weinidog India, Narendra Modi, wedi cyhoeddi bod yr holl bapurau 500 a 1,000 rwpî wedi colli eu statws fel arian cyfreithlon wrth i'w blaid ddwysau ei hymosodiad ar 'arian du'.

Mae'r ddau bapur hyn yn cynrychioli tua 86% o holl werth yr arian sy'n cael ei gylchredeg yn India a dyma'r gwerthoedd uchaf a mwyaf poblogaidd. Mae'r penderfyniad i ddirymu'r rhain wedi cael ei ganmol a'i feirniadu yn y cyfryngau rhyngwladol - ac mae barn pobl India yr un mor gymysg.

Felly, pam dirymu'r papurau hyn? Yn ôl Gweinyddiaeth Gyllid India, y diben yw cyfyngu ar ariannu terfysgaeth ac unrhyw weithgareddau tanseiliol eraill drwy enillion o bapurau arian ffug. Nod arall yw ffrwyno'r economi gysgod yn India, sef prif ysgogydd chwyddiant sy'n cael effaith niweidiol ar y tlawd ac yn amddifadu'r llywodraeth o refeniw trethi. Yn ogystal, gobeithir y bydd y datblygiad yn lleihau swm yr arian parod sy'n cael ei gylchredeg yn y wlad oherwydd bod y rhan fwyaf o weithgareddau llwgr a masnachu anghyfreithlon yn dibynnu ar arian parod.

Disgwylir hefyd y bydd hyn yn datgelu incwm go iawn pobl ac yn sicrhau bod y rhai sydd mewn categorïau penodol yn talu eu trethi'n brydlon. Ar hyn o bryd, 1% yn unig o bobl y wlad sy'n talu treth incwm.

Yn y Gorllewin, byddai llawer yn meddwl na fyddai dirymu papurau banc penodol yn achosi unrhyw broblem, er y gall beri rhywfaint o anghyfleustra. Wedi'r cwbl, mae cyfrifon banc a chardiau debyd a chredyd gan y rhan fwyaf o bobl. Ond yn India, mae pethau'n wahanol - mae cyfrifon banc y tu hwnt i'r rhan fwyaf o bobl sy'n byw islaw'r ffin tlodi. Er gwaethaf ymdrechion diweddar y llywodraeth i sicrhau cynhwysiant ariannol, mae llawer yn defnyddio papurau a darnau arian parod o hyd i dalu am nwyddau a gwasanaethau. Yn wir, amcangyfrifir mai arian parod a ddefnyddir ar gyfer 95% o drafodion yn India ac i'r rhai sy'n ceisio cynilo arian, mae'n angenrheidiol i oroesi.

Er i'r cyhoeddiad synnu rhai sectorau'r cyhoedd (a llawer o wleidyddion), mae'r blaid mewn grym wedi bod yn benderfynol o gael gwared ar arian du ers iddi ddod i rym. Sefydlwyd ymchwiliad arbennig yn 2014 i ffrwyno bygythiad arian du - ac mae cyfyngiadau cyfiawnder wedi cael eu tynhau'n raddol drwy ddiwygio cyfres o fesurau megis cytundebau osgoi treth ddwbl.

Bydd rhaid i bobl India gyfnewid neu adneuo eu papurau mewn banciau a swyddfeydd post erbyn diwedd oriau busnes ar 30 Rhagfyr 2016. Mae mesurau eraill wedi cael eu cyflwyno hefyd i sicrhau bod y weithdrefn yn cael ei gweithredu mor ddidrafferth a chyfleus â phosib i'r cyhoedd.

Cymorth Cymdeithasol

Er yr ymddengys ei fod yn seiliedig ar fwriadau cadarnhaol ar gyfer economi'r wlad, nid yw'r bobl gyffredin wedi croesawu'r datblygiad hwn. Mae pobl yn gwylltio ac mae rhai yn rhybuddio y bydd y newid sydyn yn peri terfysgoedd. Mae'r awdurdodau wedi gadael y tlawd - sydd i raddau helaeth yn anghyfarwydd ag ymwneud â banciau - i sefyll mewn ciwiau hir y tu allan i sefydliadau ariannol i holi beth i'w wneud â'u papurau.

Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn byrlymu â sïon - ac mae damcaniaethau ynghylch cynllwyn yn rhemp. Mae'r rhain yn cynnwys y syniad bod y papur 2,000 Rwpî newydd â sglodyn electronig wedi'i ymgorffori ynddo. Ond mae gwirfoddolwyr hefyd yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i sicrhau nad oes neb ar ei golled ac maen nhw'n casglu gwybodaeth ac yn ei lledaenu ynghylch beth i'w wneud a lle i fynd.

Mae cwmnïau bancio digidol wedi ymateb i'r her hefyd, gan agor am fusnes mewn mannau mwy cyfleus i roi cyfle i bobl agor cyfrifon a defnyddio eu harian fel y dymunant. Mae Paytm, cwmni e-dalu, er enghraifft, wedi gweld cynnydd enfawr mewn trafodion - mae hyd yn oed stondin ymyl yr heol wedi dechrau derbyn e-daliadau.

Mae'r penderfyniad i ddileu'r papurau hefyd wedi tynnu sylw at bentref digidol a di-arian cyntaf India, Akodara, sy'n 60 milltir o'r ddinas ogleddol, Ahmedabad. Mae'r rhan fwyaf o'r 1,200 o bobl sy'n byw yn Akodara yn prynu popeth, o flawd gwenith i greision, drwy fancio symudol ac nid yw dirymu arian yn broblem iddyn nhw o gwbl.

Mae'r Reserve Bank of India hefyd wedi bod yn annog dinasyddion i ddefnyddio'r rhyngrwyd a bancio symudol, o leiaf yn y tymor byr, gan fod hyn yn helpu i 'leihau'r pwysau ar yr arian cyfredol'.

Er na ellir gwadu bod dirymu arian wedi arwain at arafu anochel yn yr economi, gallai'r datblygiad fod yn ddechrau economi newydd ar gyfer India - un sy'n llawer mwy cynhwysol ac sy'n helpu i addysgu pobl India am fanteision trafodion mewn byd digidol.

 The Conversation

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar The Conversation. Gellir darllen yr erthygl wreiddiol yma.

Awduron:

Yogesh K Dwivedi Athro Personol a Chyfarwyddwr Ymchwil, Prifysgol Abertawe

Kuttimani Tamilmani Ymchwilydd PhD, Prifysgol Abertawe

Nripendra Rana Athro Cysylltiol Systemau Gwybodaeth, Prifysgol Abertawe.