'Spies and Troublemakers - the Anti-War movement in Wales during the Great War’

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

'Spies and Troublemakers - the Anti-War movement in Wales during the Great War’ – darlith gyhoeddus gan Aled Eirug Davies ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Aled Eirug yn adrodd sut gwnaeth asiantaethau gwybodaeth Brydeinig dargedu actifyddion heddwch a llafur De Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn ei ddarlith ‘Spies and Troublemakers’. 

Mae’r ddarlith yn disgrifio cryfder y mudiad protest yn erbyn y rhyfel yng Nghymru ac yn datgelu gweithgareddau’r heddlu ac asiantaethau gwybodaeth i atal ac erlid yr actifyddion yma.

Noddir gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru fel rhan o’i brosiect Astudiaethau Cymru mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Dyddiad/Amser:  Dydd Iau 9 Mawrth 2017 am 6.30pm.

Bydd lluniaeth ysgafn ar gael cyn y ddarlith o 6:00pm.

Lleoliad:  Darlithfa Wallace, Adeilad Wallace, Prifysgol Abertawe, Campws Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP.

Croeso i bawb.  Mynediad am ddim.

Am fanylion pellach ebostiwch riah@abertawe.ac.uk / ffôn 01792 295190.