Rhwydwaith Peirianneg yn sicrhau buddsoddiad i waith ymchwil fydd yn datblygu technoleg gofal iechyd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae rhwydwaith peirianneg, a sefydlwyd fel rhan o fenter 'Gwyddoniaeth i Gymru' Llywodraeth Cymru, wedi darparu cymorth sylweddol i wyddonwyr er mwyn sicrhau buddsoddiadau cystadleuol yr UE ar gyfer prifysgolion yng Nghymru.

Wrth i Gymru gyflawni ei nod o sicrhau €50 miliwn mewn cyllid ymchwil ac arloesi gan yr UE ar gyfer prifysgolion a busnesau fis Hydref diwethaf, mae dau brosiect, a ariannwyd fel rhan o'r Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol  mewn Peirianneg a Deunyddiau Uwch, wedi cyflawni llwyddiant yn ddiweddar gan sicrhau £1,090,000 drwy raglen ymchwil ac arloesi fwyaf yr UE, Horizon 2020.

Owen Guy

Mae'r Athro Owen Guy, Cyfarwyddwr y Ganolfan Nanodechnoleg ym Mhrifysgol Abertawe, yn bennaeth un o ddau brosiect y Rhwydwaith a fydd yn elwa o'r llwyddiant hwn. Fel un o'r 11 sefydliad sy’n bartneriaid mewn Rhwydwaith Hyfforddiant Marie Curie dan arweiniad Prifysgol Plymouth a dderbyniodd €3.5 miliwn gan Horizon 2020, dyfarnwyd £470,000 i ymchwil yng Nghymru ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae'r ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu technoleg gofal iechyd i alluogi darparu diagnosis cynnar gyda’r pwyslais ar glefyd Alzheimer ar hyn o bryd, felly mae grantiau cystadleuol fel hwn yn ffynhonnell bwysig o gyfleoedd i ddarparu atebion gwyddonol ar lwyfan rhyngwladol.  Mae hyrwyddo cydweithio â grwpiau ymchwil rhyngwladol, megis Rhwydwaith Hyfforddiant Marie Curie, yn hollbwysig wrth ddenu ymchwilwyr o safon uchel a'u cynorthwyo i ddatblygu eu hymchwil - rhywbeth y bydd y grant hwn yn ei gyflawni.

"Mae'r grant hwn yn gyfle unigryw i gydweithio â grwpiau ymchwil Ewropeaidd blaenllaw a phartneriaid mewn diwydiant i ddatblygu technoleg ddiagnosteg mewn perthynas â chlefyd Alzheimer."

"Bydd rhaglen Rhwydwaith Hyfforddiant Marie Curie hefyd yn cynhyrchu cenhedlaeth o 13 Cymrawd medrus, creadigol a mentergar iawn ar draws y rhwydwaith, gan eu rhoi ar y trywydd i yrfaoedd llwyddiannus yn y byd academaidd neu ddiwydiant" - yr Athro Owen Guy, Prifysgol Abertawe

Mae sicrhau cyllid fel hwn yn hanfodol wrth ddatblygu diagnosis a thriniaeth clefydau o'r fath.  Ar hyn o bryd, mae clefyd Alzheimer yn effeithio ar 850,000 o bobl yn y DU yn unig a rhagwelir y bydd y nifer yn cynyddu i filiwn erbyn 2025, felly mae'r ymchwil sylfaenol hwn yn hollbwysig i greu datblygiadau a fydd o fudd i wyddoniaeth a chymdeithas yn y pen draw, wrth gefnogi a datblygu technoleg gofal iechyd.

"Mae wedi ein galluogi i ddatblygu technoleg platfform y gellir ei defnyddio i ddatblygu amrywiaeth o gymwysiadau synhwyro. Bydd grant y rhwydwaith yn mynd â'n hymchwil i'r lefel nesaf, gan greu buddion i ddiwydiant a chymdeithas wrth i'r dechnoleg synhwyro sy'n cael ei datblygu arwain at gynhyrchion masnachol ." - Yr Athro Owen Guy.

I wyddonwyr mewn prifysgolion, mae perthyn i rwydwaith megis y Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol mewn Peirianneg a Deunyddiau Uwch yn darparu sylfaen hollbwysig i ariannu eu hymchwil ac i lwyddiant eu ceisiadau am grantiau. Bydd y rhwydwaith Cymru gyfan hwn, dan arweiniad Prifysgol Abertawe ar y cyd â Chaerdydd a Bangor a'r arweinydd diwydiannol, TWI Ltd, yn gweithio i hyrwyddo rhagoriaeth ymchwil ar draws ystod eang o heriau peirianneg yng Nghymru. Y rhwydwaith yw'r platfform iawn i sicrhau bod gwyddonwyr Cymru a'u meysydd ymchwil amrywiol ar flaen y gad yn yr amgylchedd ymchwil ledled y byd.

"Mae ein hymchwil drwy'r Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol wedi darparu'r sylfaen ar gyfer ein cyfranogiad yn y prosiect pwysig hwn. Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol wedi datblygu ymchwilydd PhD rhagorol, Ryan Bigham, sy'n gwneud gwaith cyffrous ar ddyfeisiau synhwyro graffîn, gan arloesi elfennau o'r dechnoleg hollbwysig a gaiff ei datblygu gan Bartneriaeth Marie Curie." - yr Athro Owen Guy, Prifysgol Abertawe.

Cristiano Palego

Mae Dr Cristiano Palego o Brifysgol Bangor hefyd yn arwain prosiect a fydd yn elwa o'r llwyddiant hwn. Gan gydweithio â Phrifysgolion Limogues a Padova yn Ffrainc a'r Eidal, yn ogystal â chyd-academyddion ym Mangor a'r fenter Gymreig, Creo Medical Ltd i sicrhau cyfanswm o €4 miliwn o gronfeydd yr UE, mae'r swm o £620,261  a sicrhawyd gan Dr Palego ar gyfer Prifysgol Bangor yn adlewyrchiad cadarnhaol o statws Cymru ar y llwyfan ymchwil gwyddonol rhyngwladol. Bydd hefyd yn caniatáu datblygiadau arloesol yn ei faes penodol, sef peirianneg feddygol, a defnyddir y buddsoddiad mewn cyfarpar technoleg uwch i greu triniaethau ar gyfer canser a'u rhoi ar waith.

"Gobeithio y bydd hyn yn agor y drws i gyfleoedd yn y dyfodol. Rwyf fi, fy Ysgol ac, yn y pen draw, Cymru yn debygol o elwa o'r potensial i ddenu ymchwilwyr dawnus a chynyddu ein gallu i gystadlu.

Bydd yn fy ngalluogi i sicrhau cyfarpar ac arbenigedd i sefydlu fy labordy bio-drydanol fy hun, rhywbeth a fydd yn unigryw yng Nghymru" - Dr Cristiano Palego, Prifysgol Bangor.

Gydag ymchwil Dr Palego yn canolbwyntio ar ddatblygu dyfeisiau meddygol i gynorthwyo meddygon wrth ganfod pathogenau a chelloedd adwythig drwy ddulliau nad ydynt yn ymwthiol, mae nodi meysydd arbenigol megis hwn yn allweddol wrth ysgogi ymchwil peirianneg a denu cyllid gan y cronfeydd cystadleuol hyn ar gyfer Cymru.

Fodd bynnag, gyda chyfradd lwyddiant o 4% o ran sicrhau'r grantiau hyn, mae ennill cyllid o'r fath yn dalcen caled. Mae angen amser sylweddol ynghyd â lefelau uchel o gydweithio ac arbenigedd ar y gwaith hwn, felly mae rhwydweithiau megis y Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol yn darparu cyswllt cadarnhaol rhwng academyddion a darparwyr cyllid wrth sicrhau grantiau i ddatblygu ymchwil.

"Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol mewn Peirianneg a Deunyddiau Uwch wedi bod yn gefnogol iawn, yn enwedig drwy ariannu rhai gwasanaethau ymgynghori sydd wedi bod o gymorth pendant gyda'r llwyddiant hwn. 

Ar ben hyn, mae'r Rhwydwaith wedi creu'r amodau i mi ymestyn allan i bartneriaid rhyngwladol. Mae cefnogaeth y Rhwydwaith wedi caniatáu i mi gynnal rhai profion cychwynnol, sydd wedi helpu i ddenu partner newydd i'r consortiwm."  - Dr Cristiano Palego, Prifysgol Bangor

Drwy ariannu prosiectau ar amrywiaeth eang o bynciau, o wyddoniaeth sylfaenol i brosesau gweithgynhyrchu a datblygu cynnyrch mewn meysydd megis Microsystemau Meddygol, Systemau Ynni a Deunyddiau Clyfar i enwi ychydig yn unig, nod y Rhwydwaith yw parthau i dargedu buddsoddiad cystadleuol megis Horizon 2020 er mwyn cynorthwyo isadeiledd yng Nghymru â'r nod o roi Cymru ar flaen y gad ym maes dyfeisgarwch peirianneg.

Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol, a sefydlwyd yn 2013, yn rhwydwaith cydweithredol a arweinir gan Brifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd a TWI. Ei nod yw dod ag academyddion ac arweinwyr diwydiant ym meysydd allweddol peirianneg a deunyddiau uwch, y gwyddorau bywyd, ynni carbon isel a'r amgylchedd ynghyd. Ei brif ddiben yw cefnogi dyheadau Strategaeth Gwyddoniaeth Cymru Llywodraeth Cymru, sef creu platfform effeithiol ar gyfer ymchwil blaengar yn y meysydd hyn. Dyfarnwyd £7M o gyllid i'r Rhwydwaith gan Lywodraeth Cymru a CCAUC fel rhan o fenter Sêr Cymru. 

Llun 1: Owen Guy 

Llun2: Cristiano Palego