Rheolwr Gyfarwyddwr GE Aviation Cymru i arwain digwyddiad yn y Brifysgol i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ar ddydd Mercher, Mehefin 21, bydd Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe’n cynnal diwrnod o ddigwyddiadau i gefnogi Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg, a gynhelir bob blwyddyn ar y 23ain o Fehefin.

Cynhelir y dathliadau o 10:30am tan 2:30pm yng Nghampws y Bae a byddant yn cynnwys araith gyweirnod gan La-Chun Lindsay, Rheolwr Gyfarwyddwr GE Aviation Cymru, a leolir yn Nantgarw ger Caerdydd. 

La-Chun LindsayMae GE Aviation yn ddarparwr blaenllaw o beiriannau a chyfansoddion jet a thyrbo-brop masnachol, milwrol a busnes ac i awyrennau cyffredinol yn ogystal ag afioneg, pŵer trydanol a systemau mecanyddol ar gyfer awyrennau.

Daeth La‐Chun Lindsay yn Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni gweithgynhyrchu mwyaf Cymru oedd ag incwm gwerth US$3B ac 1.4mil o gyflogeion ym mis Ebrill 2015, ar ôl bod yn arweinydd y safle adeiladu, profi ac atgyweirio yn safle Lynn GE Aviation ym Massachusetts, UDA.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, meddai Ms Lindsay: “Rwyf wir yn edrych ymlaen at fod yn rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg Prifysgol Abertawe. Hyd yn oed fel merch fach yn tyfu lan yn Ne Carolina, roeddwn i wastad wedi breuddwydio am fod yn beiriannydd. Byddaf bob amser yn falch o’r radd Baglor mewn Gwyddoniaeth dderbyniais i ar ôl cwblhau rhaglen anodd Prifysgol Clemson mewn Peirianneg. Rwyf hyd yn oed yn fwy balch o’r amryw fentrau STEM yr ydym yn eu llywio yn GE Aviation Cymru, gan amlygu’r ffaith y dylai pob merch fach gael y cyfle i ddilyn ei breuddwydion am fod yn beiriannydd, yn union fel y gwnes i.”

Mae siaradwyr eraill yn cynnwys un o gyn-fyfyrwyr y Coleg Peirianneg, Christina Kio, Peiriannydd Dylunio Graddedig a leolir ym Mhencoed gyda Skanska, un o gontractwyr mwyaf blaenllaw’r DU.  Hefyd, bydd Dr Carol Glover, Cymrawd Trosglwyddo Technoleg sy’n gweithio ar brosiect SPECIFIC  yn y Coleg Peirianneg, hefyd yn rhoi’r araith arobryn a roddodd pan ddaeth yn enillydd FameLab Cymru 2017 ac yna’n ail yng nghystadleuaeth FameLab y DU.  Noddir cystadleuaeth FameLab flynyddol gan y Cyngor Prydeinig ac fe’i cynhelir yn rhan o Wyliau Cheltenham, lle mae gan ymgeiswyr dri munud i esbonio cysyniad gwyddonol mewn ffordd unigryw a difyr.

Bydd y Coleg Peirianneg hefyd yn arddangos gwaith sy’n torri tir newydd gan 10 o fenywod sy’n ymchwilwyr ac yn fyfyrwyr ôl-raddedig.

Meddai trefnydd y digwyddiad Elaine Richards, Swyddog Cynhwysedd a Datblygu Staff yn y Coleg Peirianneg: “I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg 2017, sydd ag is-thema ‘Dynion fel Cynghreiriaid’ (#MenAsAllies) eleni, byddwn yn dathlu ein gwaith cydraddoldeb sy’n cael ei wneud ar draws y Coleg Peirianneg, gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd gweithlu amrywiol a chan wrando ar brofiadau menywod sy’n gweithio mewn diwydiant sydd wedi’i ddominyddu’n draddodiadol gan ddynion. 

“Rydym yn annog dynion a menywod i fynychu’r digwyddiad hwn, sy’n gyfle gwych i ddathlu cyflawniadau gwych menywod yn y maes hwn a’r gwaith ardderchog sydd wrthi’n cael ei wneud gan y menywod sy’n gweithio fel ymchwilwyr, staff addysgu a myfyrwyr yma yn y Coleg Peirianneg.”

Meddai’r Athro Hilary Lappin-Scott, Uwch-ddirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe: “Rydym yn falch iawn o gael croesawu siaradwr cyweirnod mor ysbrydoledig â La-Chun Lindsay i arwain ein dathliadau Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg ar yr 21ain o Fehefin, a gobeithiwn y daw’r digwyddiad hwn yn uchafbwynt bob blwyddyn yn rhaglen dreigl y Coleg Peirianneg o ddigwyddiadau a gweithgareddau i staff a myfyrwyr i wella, cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau. 

“Fis Hydref diwethaf, llwyddodd y Coleg i ennill gwobr Efydd Athena SWAN yn yr Uned Her Cydraddoldeb sy’n golygu bod y Coleg yn ‘cydnabod sylfaen gadarn ar gyfer dileu rhagfarn ar sail rhyw a’i fod yn datblygu diwylliant cynhwysol sy’n gwerthfawrogi’r holl staff’, yn ôl canllawiau’r wobr. Bellach mae’r Coleg yn gweithio tuag at wobr Arian Athena SWAN yn 2019.

“Hefyd fis Hydref diwethaf ymunodd y Coleg Peirianneg â Chymdeithas Peirianneg y Menywod; partneriaeth sy’n amlygu’r ffaith bod y Brifysgol yn cefnogi’n frwd gynnydd yn nifer y menywod a gaiff eu recriwtio ac sy’n aros mewn rolau peirianneg a thechnegol.

“Byddwn hefyd yn lansio ymgyrch Wicipedia-thon, a gynhelir ym mis Medi, i godi proffil menywod o Brifysgol Abertawe.”

Yn unol ag is-thema eleni, Dynion fel Cynghreiriaid, meddai’r Athro Steve Brown, Pennaeth Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe: “Mae tystiolaeth dda o anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y gweithle, prinder menywod yn y diwydiant peirianneg, mewn ymchwil peirianneg, mewn academia peirianneg yn ogystal â thystiolaeth o golli menywod ar gamau penodol o’r biblinell. Nid yw’n ffenomen newydd. Mae digon o bobl yn ymwybodol ohono, mae digon o bobl yn siarad amdano ac yn tynnu sylw ato.  Ac ni ddylai’r siarad hwnnw ddod i ben.   

“Ond mae angen i bobl wneud mwy na bod yn ymwybodol o anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a’i gydnabod yn unig. Mae angen iddynt ddod yn ymwybodol ohono a’i gydnabod ac yna cymryd camau gweithredu priodol.

“Dyna pam yr wyf yn hynod falch o’r gwaith sy’n cael ei wneud yn y Coleg Peirianneg a’n hymrwymiad i gydraddoldeb rhwng y rhywiau a’n gwaith parhaus i wneud yr egwyddorion hyn yn rhan annatod o ddiwylliant y Coleg a’r gwaith o redeg y Coleg o ddydd i ddydd.”

Mae gan y Coleg raglen dreigl i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac mae eisoes wedi cynnal Diwrnod Hwyl i’r Teulu i’r holl staff; gweithdai ‘Rhagfarn Anymwybodol’ i staff; gweithdai ‘Barod am Ddyrchafiad’ i fenywod, wedi’u cynnal gan Bennaeth y Coleg; gweithdai cynhwysedd ar bolisïau’r Brifysgol sy’n ystyriol o deuluoedd; cyfres o ddigwyddiadau ‘Lleisiau Menywod mewn Peirianneg’ i fyfyrwyr a staff; sefydlu Cymdeithas Menywod mewn Peirianneg Myfyrwyr Abertawe; sefydlu Rhwydwaith Menywod Staff; a sefydlu bwrsariaethau Menywod mewn Peirianneg a Gwyddor Chwaraeon i fyfyrwyr Blwyddyn Un.

Sefydlwyd Diwrnod Rhyngwladol i Fenywod mewn Peirianneg, dan nawdd UNESCO, ym 2014 gan Gymdeithas Peirianneg y Menywod (WES) i ddathlu ei phen-blwydd yn 95 oed ac mae’n canolbwyntio ar y gyrfaoedd gwych mewn peirianneg a rolau technegol i ferched, ac yn caniatáu i ni ddathlu cyflawniadau’n peirianwyr benywaidd.

Am ragor o wybodaeth ewch i http://www.inwed.org.uk/.