Pennaeth y Coleg Peirianneg yn dod yn Brif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dyfarnwyd yr Athro Steve Brown, pennaeth y Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe, yn Brif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch - sef y corff cenedlaethol sy'n hyrwyddo rhagoriaeth addysgu ac sy'n gweithio gyda llywodraethau, prifysgolion ac academyddion yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.

Mae'r Athro Brown yn un o nifer gyfyngedig o addysgwyr yn unig yn y Deyrnas Unedig i dderbyn gwobr fwyaf neilltuol y sefydliad.

Professor Steve BrownDerbyniodd yr Athro Brown ei Brif Gymrodoriaeth fel cydnabyddiaeth o’i ymrwymiad a’i gyfraniad i addysgu myfyrwyr, yn ogystal â’i ddylanwad positif ar gydweithwyr fel arweinydd strategol ym maes addysgu.

Ers iddo ymuno â’r Brifysgol yn 1986, mae’r Athro Brown wedi ennill nifer o swyddi, gan gynnwys: pennaeth y Ganolfan Ymchwil Deunyddiau, dirprwy-bennaeth y Coleg Peirianneg, pennaeth Dysgu ac Addysgu, a chyfarwyddwr ymchwil. Yn ogystal ag ymgymryd â’r dyletswyddau hyn, mae’r Athro Brown wedi parhau i addysgu, ac yn ddiweddar bu’n dysgu israddedigion ym Mhrifysgol Peirianneg Harbin yn Tsieina.

Meddai’r Athro Brown: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi derbyn Prif Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch. Fel y corff cenedlaethol ar gyfer gwella dysgu ac addysgu ym myd addysg uwch mae'r Academi Addysg Uwch yn sefydliad hynod bwysig. Prif Gymrodoriaeth yw lefel uchaf yr Academi Addysg Uwch ar gyfer cydnabyddiaeth addysgu ac mae'n fraint wirioneddol fy mod wedi derbyn y wobr hon”.