Nifer y bobl sy'n colli eu golwg oherwydd diabetes wedi'i haneru yng Nghymru, yn ôl ymchwil newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae nifer y bobl yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis o fod yn ddall neu sydd wedi colli eu golwg o ganlyniad i ddiabetes bron wedi'i haneru ers cyflwyno rhaglen sgrinio retinopathi diabetig genedlaethol yn 2003, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn y British Medical Journal.

Roedd yr ymchwil, a gynhaliwyd gan yr uned ymchwil i ddiabetes ym Mhrifysgol Abertawe, wedi dadansoddi’r tystysgrifau newydd a roddwyd rhwng 2007 a 2015 i bobl yng Nghymru a oedd wedi colli eu golwg neu a oedd wedi mynd yn ddall oherwydd clefyd y llygaid a achoswyd gan ddiabetes. 

Mae'r gwaith ymchwil yn dangos y canlynol:

  • Rhoddwyd 339 yn llai o dystysgrifau newydd ar gyfer pob lefel o nam ar y golwg oherwydd cyfuniad o achosion yn 2014-15, o gymharu â 2007-08;
  • Roedd 22 yn llai o bobl y gwyddys bod diabetes arnynt a oedd wedi colli golwg oherwydd eu diabetes yn benodol. Roedd gostyngiad o 49% mewn tystysgrifau newydd ar gyfer nam difrifol ar y golwg, o 31.3 i 15.8 ym mhob 100,000 o bobl.
  • Yn ystod y cyfnod arsylwi hwn, cafodd 52,229 (40%) yn rhagor o bobl yng Nghymru ddiagnosis bod diabetes arnynt.

Wrth groesawu'r ymchwil, dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans: “Diolch i'n rhaglen sgrinio retinopathi diabetig genedlaethol, rydyn ni bellach yn gallu ymyrryd yn gynnar er mwyn atal pobl sydd â diabetes rhag colli eu golwg.

“Mae'r ymchwil yn dangos bod y gallu i gynnig diagnosis cynharach o retinopathi diabetig, a retinopathi diabetig sy'n fygythiad i'r golwg, wedi chwarae rhan sylweddol ers cyflwyno'r gwasanaeth sgrinio, ochr yn ochr â mesurau eraill, megis dulliau gwell o reoli diabetes, atgyfeirio ymlaen yn amserol, a thriniaethau mwy newydd.

Diabetes Research Unit Cymru“Hoffwn dalu teyrnged i bawb yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru sydd wedi gweithio mor galed i wneud hyn yn bosibl. Dyma enghraifft wych arall o wasanaeth iechyd Cymru yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.”

Dywedodd Dr Quentin Sandifer, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd a Chyfarwyddwr Meddygol Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydyn ni wrth ein bodd o weld bod yr astudiaeth hon yn dangos bod yna fudd amlwg iawn i'r bobl hynny yng Nghymru sy'n byw gyda diabetes pan fyddan nhw'n manteisio ar y gwasanaeth sgrinio llygaid hwn.

“Mae Gwasanaeth Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru yn gwahodd cleifion sydd wedi cofrestru fel unigolion sy'n dioddef o ddiabetes, ac sydd yn 12 oed neu'n hŷn, i gael apwyntiad sgrinio llygaid blynyddol. Hoffem annog y bobl hyn i fachu ar y cyfle pan fyddan nhw'n cael eu gwahodd i apwyntiad.

“Mae hon yn enghraifft wych o'n gwasanaeth iechyd yn cydweithio i wella canlyniadau i bobl, a rhaid canmol yr hyn sydd wedi ei gyflawni yn enwedig o ystyried y bu gostyngiad yn nifer y bobl sydd wedi colli eu golwg neu rywfaint ohono, er bod nifer y bobl yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes wedi cynyddu yn ystod yr un cyfnod.”

Dywedodd yr Athro David Owens o Uned Ymchwil i Ddiabetes Cymru a Phrifysgol Abertawe“Mae'n galonogol iawn gweld hyn yn digwydd wedi'r holl flynyddoedd o ymroi i ymchwil i gael hyd i'r ffordd orau o sgrinio ar gyfer presenoldeb clefyd diabetig y llygaid (retinopathi diabetig). Mae'r prif nod o haneru nifer y bobl sy'n cael tystysgrifau newydd ar gyfer colli golwg difrifol (dallineb) wedi ei gyrraedd.

“Mae'n glir bod y gallu i nodi'n gynnar retinopathi diabetig sy'n bygwth y golwg  wedi bod yn elfen hanfodol o'r llwyddiant hwn, gan gadarnhau unwaith yn rhagor yr angen i bawb sy'n 12 oed ac yn hŷn, ac sy'n dioddef o ddiabetes, gael apwyntiadau sgrinio rheolaidd.” 


Cyhoeddwyd yr eitem hon gan Lywodraeth Cymru.