Nid ysgolion yn unig ddylai fod yn gyfrifol am iechyd a lles plant

Cyhoeddwyd yr erthygl hon gan Emily Marchant gan The Conversation yn wreiddiol.

Mae iechyd a lles plant yn hollbwysig wrth eu helpu i lwyddo yn y dyfodol. Er bod addysg a galluoedd cymdeithasol yn bwysig i gyflawniadau a chyfleoedd cyflogaeth, os nad oes neb yn gofalu am eu hiechyd o'r cychwyn cyntaf, gall hyn effeithio ar unrhyw agwedd, neu bob agwedd, ar fywyd plant nes iddynt gyrraedd oedolaeth.

Fodd bynnag, nid yw monitro a chynnal iechyd a lles yn dasg hawdd. Mae ysgolion mewn sefyllfa ddelfrydol i ysgogi newid a helpu i leihau anghydraddoldeb iechyd, ond maent wedi'u gorlwytho â mentrau gwahanol, a gall fod yn anodd rhoi cynllun ar waith i ddiwallu anghenion disgyblion.

Mewn egwyddor, dylai fod yn eithaf hawdd cynnwys addysgu, dealltwriaeth a monitro iechyd a lles plant mewn polisïau addysg. Ond, o ystyried y pwyslais hanesyddol ar lythrennedd a rhifedd yn yr ystafell ddosbarth, mae llawer o benaethiaid o'r farn nad yw'r maes hwn yn cael sylw a bod ysgolion yn cael eu gadael i fynd i'r afael â'r materion hyn ar eu pennau eu hunain.

Yma yn Abertawe, rydym wedi bod yn ymchwilio i ffordd newydd o helpu ysgolion i ymdrin â lles plant, gan ddod ag amrywiaeth o ymarferwyr proffesiynol ym meysydd iechyd, addysg ac ymchwil ynghyd i'n helpu. Gan sylweddoli nad yw athrawon yn gallu gwneud y gwaith hwn ar eu pennau eu hunain mwyach, rydym wedi canfod ffordd o ofalu am anghenion iechyd plant gan gynnal deilliannau addysgol mewn ysgolion ar yr un pryd.

Cynllun i gyflawni newid

Diben prosiect HAPPEN (Iechyd a Chyflawniad Disgyblion mewn Rhwydwaith Addysg Gynradd) yw gwella dysgu plant, galluogi ysgolion i weld sut maent yn cymharu ag eraill yn y sir, a nodi meysydd angen penodol ar gyfer eu disgyblion - er enghraifft, canrannau uchel o blant nad ydynt yn bwyta brecwast.

Mae athrawon yn gwneud eu gorau ond mae angen cymorth arnynt.www.shutterstock.com

School stock shot courtesy shutterstock

Rydym yn defnyddio data a gasglwyd am blant rhwng naw ac 11 oed sy'n cwblhau asesiadau iechyd a lles drwy brosiect Swan-Link a ddaeth â'r plant ynghyd am ddiwrnod o hwyl, ffitrwydd ac asesiadau. Yna mae'r amrywiaeth enfawr o wybodaeth a gasglwyd - gan gynnwys mynegai màs y corff, ffitrwydd, maeth, gweithgarwch corfforol, cwsg, lles a gallu i ganolbwyntio - yn cael ei chrynhoi mewn adroddiad ysgol. Mae hyn yn galluogi ysgolion i nodi meysydd angen o ran gwella iechyd plant. Mae'r adroddiadau'n cael eu hysgrifennu yn unol â fframwaith y cwricwlwm er mwyn gwella dysgu plant ar bob cam yn ystod eu haddysg. Yn ogystal â gwella iechyd meddwl a/neu gorfforol plant, mae'r ymagwedd hon yn golygu eu bod yn deall sut a pham.

Hyd yn hyn, rydym wedi casglu gwybodaeth gan oddeutu 3,000 o blant yn ardal Abertawe. A thrwy weithio gyda chronfa ddata SAIL - sy'n dileu manylion personol y cyfranogwyr er mwyn diogelu eu preifatrwydd - rydym wedi gallu astudio gwybodaeth ddienw am iechyd plant, eu cofnodion iechyd (gan gynnwys cofnodion meddygon teulu a chofnodion derbyn i'r ysbyty) a'u cyflawniad addysgol.

Pan fydd y data hwn wedi'i ddadansoddi, darperir y canfyddiadau i'r ysgolion a'r sefydliadau perthnasol - dietegwyr, sefydliadau datblygu chwaraeon, elusennau lleol ac ymarferwyr iechyd proffesiynol - sy'n rhan o rwydwaith HAPPEN, gan gefnogi athrawon i lunio cynllun gweithredu.                                                                                                                                         

Canfyddiadau Syrdanol

Yn ôl ein canfyddiadau, er bod rhai ysgolion yn gwneud eu gorau i helpu disgyblion i fod yn iach ac i gadw'n iach ar wahân i dargedau addysgol, gall hyd yn oed y sefydliadau mwyaf profiadol elwa o gymorth allanol.

Er enghraifft, roedd un ysgol gynradd, a gredai ei bod yn rhoi pwyslais cryf ar ffitrwydd - yn syfrdan i ddarganfod bod traean o blant blynyddoedd pump a chwech yn ordrwm. Ar ben hyn, roedd 38% o'u disgyblion wedi dweud nad oeddent yn fodlon ar eu lefelau ffitrwydd. Arweiniodd hyn at ymagwedd newydd yn yr ysgol a chynnydd mewn mentrau iach: mae gwersi addysg gorfforol yn cael eu hailwampio ac mae athrawon yn ychwanegu elfennau mwy gweithgar at wersi eraill. Yn ogystal, mae'r plant yn cael eu hannog i reoli eu ffitrwydd eu hunain ac i bennu nodau iechyd personol.

Hyd yn hyn, rydym wedi canolbwyntio'n bennaf ar iechyd a ffitrwydd corfforol y plant sy'n rhan o'r prosiect. Fodd bynnag, mae lles yn elfen graidd o'n gwaith ac yn y dyfodol, byddwn yn cynnwys asesiad o iechyd meddwl wrth gasglu data, mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan athrawon yngl┼Ěn â darpariaeth ar gyfer iechyd meddwl mewn ysgolion cynradd. Yn y dyfodol, bydd HAPPEN hefyd yn datblygu i asesu cyflyrau cronig a chaiff eu heffaith ar gyflawniad addysgol ei harchwilio.

Mae cymdeithas yn gofyn i ysgolion wneud mwy nag addysgu plant yn unig, ond fel rydym wedi'i brofi, y ffordd orau o wneud hyn yw sicrhau bod iechyd a lles yn ymdrech ar y cyd.

Emily Marchant, Ymchwilydd PhD mewn Astudiaethau Meddygol, Prifysgol Abertawe

The Conversation

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar The Conversation. Gellir darllen yr erthygl wreiddiol yma.