Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall yn gosod Prifysgol Abertawe yn yr ail safle o brifysgolion y Deyrnas Gyfunol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei rhestru fel yr ail brifysgol orau yn y Deyrnas Gyfunol am gynhwysiant, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol, yn rhestr flynyddol Stonewall o'r 100 o leoedd mwyaf cynhwysol i weithio ynddynt.

400 x 433Eleni, derbyniodd Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall geisiadau gan dros 430 o fusnesau a sefydliadau yn y Deyrnas Gyfunol, gyda dros 90,000 o weithwyr yn cwblhau arolwg staff yn genedlaethol.

Mae’r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yn ffordd effeithiol o fesur ymdrechion sefydliadau i daclo gwahaniaethu a chreu gweithle cynhwysol ar gyfer gweithwyr lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT).

Ers 2005, mae mwy nag 800 o gyflogwyr mawr wedi cymryd rhan yn y Mynegai ac wedi defnyddio meini prawf Stonewall fel model o arfer da.

Meddai Cath Elms, cyd-gadeirydd Rhwydwaith Staff LGBT+ Prifysgol Abertawe:

“Mae Prifysgol Abertawe yn parhau i wella’i pherfformiad ym Mynegai 100 Cyflogwyr Gorau Stonewall, gan symud o safle 36 y llynedd, i safle 31 eleni.

Ers i’r brifysgol gymryd rhan yn y Mynegai am y tro cyntaf, rydym wedi neidio 308 safle, ac wedi cynnal cynnydd yn ystod y chwe blynedd diwethaf sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd gwaith a phrofiadau ein cymuned LHDT+.

Rydym yn falch iawn o'n henw da fel sefydliad sy'n dathlu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cynhwysiant. Eleni, derbyniodd Rhwydwaith Staff LGBT+ y brifysgol wobr 'Grŵp Rhwydwaith Cymeradwyaeth Uchel' Stonewall ac rydym yn anelu at adeiladu ar y llwyddiant hwn ar gyfer y dyfodol”.