Myfyrwyr cyfnewid o Decsas yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Fel rhan o raglen gyfnewid israddedig rhwng Prifysgol Abertawe a Texas chafodd ei lansio yn 2012, croesawodd Prifysgol Abertawe 34 o fyfyrwyr o dair prifysgol yn Nhecsas yn ddiweddar; Prifysgol Houston, Prifysgol Texas A&M a Phrifysgol Texas yn Awstin gan roi’r cyfle i gyfoethogi eu profiad academaidd a diwylliannol.

Mae’r cyfnewid yn ffurfio rhan o bartneriaeth lewyrchus rhwng Abertawe a Thecsas, sydd hefyd yn cynnwys cydweithrediad ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth, rhannu seilwaith a chyfnewid staff academaidd.

600 x 364

Llun: myfyrwyr o dair prifysgol yn Nhecsas; Prifysgol Houston, Prifysgol Texas A&M a Phrifysgol Texas yn Awstin

Ar ddydd Gŵyl Dewi cynhaliodd y Swyddfa Ryngwladol ddigwyddiad i groesawu’r myfyrwyr i Abertawe. Dyma beth ddwedodd rhai ohonynt am ei argraffiadau gyntaf o fywyd yng Nghymru:

“Mae gen i deulu ym Mhrydain a dwi wedi bod yma o’r blaen, felly nid oedd yn sioc enfawr i mi. Ond er hynny, dwi dal yn cyfarwyddo ar y ffaith ein bod yn mynychu dosbarthiadau lawer llai yma. Cafodd un o’n gwersi symud i beth roedd pawb yn galw’n ‘theatr darlithio fawr’, ond i mi, mond stafell gyffredin oedd e!”

Tyler Hohle, Prifysgol Texas yn Awstin, Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol

“Mae’r tywydd yn wahanol iawn! Mae wedi bod yn wyntog ac yn glawio’n aml, newid byd i’r tywydd poeth a’r haul braf yn Nhecsas. ’Dych chi gyd yn cerdded llawr yma, rhywbeth ‘dyn ni ddim yn gwneud llawer ohono adre. Mae popeth lawer agosach yma.”

Quinn Woelffer, Texas A&M, Peirianneg

Dwi’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, sy’n anghyffredin iawn. Dwi 'di teithio ar fysiau a threnau ers i mi gyrraedd, ac mae’n ffordd dda o fynd a dod gan fod popeth mor agos yma. Bues i ar drên yn ddiweddar a bu’n rhaid iddo stopio gan fod defaid yn rhwystro’r lein! Dwi’n cymryd y cyfle i deithio tu hwnt I Gymru hefyd – penwythnos diwethaf roeddwn yng Ngwlad yr Iâ lle bu eira mawr!”

Meredith Davies, Texas A&M, Peirianneg

“Dwi mewn cariad a’r lle, mae pawb mor gyfeillgar â phob un gyda gwen ar eu hwyneb. Mae’n brofiad anhygoel, un fyddai’n cofio am byth. Mae’n wyliau pum mis gwych, ac mae’r astudio’n dda hefyd!”

Shreya Shah, Prifysgol Houston, Busnes

Ro’n ni ddim wedi clywed am Gymru’n wreiddiol, ond ar ôl clywed am y bartneriaeth rhwng Prifysgol Houston a Phrifysgol Abertawe, ro’n ni’n gwybod y byddai’n brofiad da i mi. Dwi’n hoff iawn o’r traeth, ar naws pentrefol…byd go wahanol i’r ddinas dwi’n gyfarwydd gyda. Dwi’n astudio Saesneg tra bod i yma, pa le gwell i astudio gwaith Dylan Thomas a Williams Shakespeare nag ar eu stepen ddrws…dwi hyd yn oed yn byw tafliad carreg o gartref enedigol Dylan Thomas! Mae’n brofiad newydd, ond un dwi’n mwynhau’n fawr!”

Lorelee Gonzalez,  Prifysgol Houston, Saesneg

 600 x 450

Llun: Divya a Monica o Brifysgol Tecsas yn Awstin

Meddai Dr Caroline Coleman-Davies, sy'n rheoli'r bartneriaeth rhwng Texas ag Abertawe:

"Rwy'n falch iawn o allu croesawu cynifer o fyfyrwyr o Decsas i Abertawe" . "Rydym yn cydnabod bod treulio amser dramor yn hynod fuddiol i fyfyrwyr o ran eu datblygiad personol a phroffesiynol, ac eleni mae bron 100 o fyfyrwyr wedi gallu elwa o’n rhaglen gyfnewid."