Lleisiau o'r Meysydd Glo yn Ysbrydoli Albwm Newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cafodd rhyddhad yr albwm Every Valley gan Public Service Broadcasting's ar 7fed Gorffennaf yr un ganmoliaeth feirniadol â'u halbymau blaenorol.

Mae'r band o Lundain yn cyfuno cerddoriaeth offerynnol, recordiau archifol a samplau i greu sain unigryw sy’n trosglwyddo categorïau . Ar ôl cefnogi'r Manic Street Preachers ac erbyn hyn yn teithio ar draws y byd yn rheolaidd, mae poblogrwydd a chlod y grŵp yn dal i dyfu.

Y cysyniad ar gyfer yr albwm newydd, sydd ymhell o'u halbwm diweddaf ‘The Race for Space’ (2015), yw cymunedau diwydiannol. Mewn cyfweliad diweddar gyda The Independent, mae blaenwr Mr J. Willgoose Esq yn egluro: "Mae'r albwm hwn yn ymwneud â mwyngloddio mewn un ffordd, ond mae hefyd yn ymwneud â chymuned a cholled ac yn delio â diflaniad rhywbeth a oedd, yn flaenorol, yn diffinio chi”.Cysylltodd Willgose â Llyfrgell Glowyr De Cymru er mwyn canfod deunydd posibl ar gyfer y cysyniad newydd hwn, a gyfeiriwyd at ein casgliad hanes llafar. Ymwelodd ar sawl achlysur, gan ddefnyddio trawsgrifiadau a recordiadau er mwyn dod o hyd i'r darnau mwyaf perthnasol.

Gellir clywed deunydd o gasgliad hanes llafar LGDC mewn tri o’r caneuon – They Gave me a Lamp, Mother of the Village a All Out. Mae They Gave me a Lamp yn tynnu sylw at y rôl hollbwysig wnaeth menywod chwarae yn ystod streic y glowyr trwy ddefnyddio geiriau ein cyfweleion hanes llafar. Maent yn trafod dadleuon gwleidyddol, herio stereoteipiau a brwydro yn erbyn bygythiad. Mae’r band Haiku Salut yn darparu cyfeiliant cerddorol. Mae'r fideo cerddoriaeth yn cynnwys y ffilm Smiling and Splendid Women, rhaglen sy’n dogfennu’r streic a wnaeth canolbwyntio'n benodol ar grwpiau menywod yn Ne Cymru.

Perfformiodd y band y sengl, ymhlith eraill o'r albwm, mewn dwy sioe (a wnaeth gwerthu allan) yng Nglynebwy ym mis Mehefin. Wedyn, dechreuon nhw daith ryngwladol sy’n cychwyn y rhan Prydeinig mewn Neuadd Fawr Caerdydd ar Ddydd Gwener, 13eg o Hydref. Fe wnaeth Llyfrgellydd LGDC, Sian Williams, sgwrsio a BBC Radio Wales a The Independet am berthynas y grŵp a’r Llyfrgell.  Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.publicservicebroadcasting.net, SWML neu edrychwch ar lluniau o'n harddangosfa Public Service Broadcasting ar ein tudalen Twitter @swminerslibrary.