Lansio Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru’n swyddogol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Gwelwyd lansio Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru’n swyddogol heddiw (14 Chwefror, 2017) yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd. Mae Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru’n gweithio ledled Cymru o hyb ym Mhrifysgol Abertawe, gyda staff hefyd â’u swyddfeydd ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor.

Wales School for Social Care ResearchWedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, fe grëwyd yr ysgol i wella a chynyddu ymchwil gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Fe fydd ei chysylltiadau agos â darparwyr gwasanaethau cymdeithasol yn sicrhau bod gofal a chymorth i blant, pobl ifanc ac oedolion yng Nghymru wedi’i seilio ar dystiolaeth gadarn o’r hyn sy’n gweithio.

Meddai Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fu’n siarad yn y lansiad: “Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i ofal cymdeithasol fel sector sydd o bwys strategol cenedlaethol.

“Rhaid i ofal cymdeithasol fod yn effeithiol ac o ansawdd uchel, ac fe fydd y gwaith a wneir yn Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru’n helpu i sicrhau ein bod ni’n datblygu polisïau a gwasanaethau ar sail tystiolaeth, sy’n diwallu anghenion pobl yng Nghymru. Ymchwil heddiw yw gofal yfory.”

Mae’r Athro Fiona Verity, Cyfarwyddwr Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru, yn esbonio: “Yn ganolog i’r Ysgol fe fyddwn ni’n mynd ati o ddifrif i gydweithio; rhannu a chynhyrchu gwybodaeth newydd sy’n gallu gwneud gwahaniaeth. Rydyn ni o’r farn bod yr Ysgol yn gam hanfodol wrth wella ymchwil gofal cymdeithasol ledled Cymru, mewn ffyrdd sy’n cryfhau ac yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn digwydd ar draws y wlad.

“Mae ymchwil yn hanfodol i wella’r hyn sy’n digwydd nawr mewn gwasanaethau cymdeithasol, ac mae hefyd yn gallu dweud wrthon ni sut i wella llesiant unigolion, teuluoedd a chymunedau.”

Launch of the Wales School for Social Care ResearchGan ganolbwyntio ar gydweithredu a phartneriaeth, fe fydd yr Ysgol yn gweithio’n agos â phrifysgolion, y rheini sy’n llunio polisi, gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru a mudiadau cymunedol, yn ogystal â Gofal Cymdeithasol Cymru, a ddaw i rym ym mis Ebrill eleni. Fe fydd yna bwyslais hefyd ar gynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd ym maes ymchwil gofal cymdeithasol, gan helpu i ddiwallu anghenion unigolion, eu teuluoedd a’u gofalwyr yn well.

Fe fydd yr Ysgol yn gweithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol i helpu i wella gofal ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion yn unol â’r amlinelliad yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae’r Ddeddf yn rhoi llais cryfach i bobl, a mwy o reolaeth ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, yn ogystal â sicrhau bod gwasanaethau’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd yn addo cryfhau pwerau i ddiogelu pobl agored i niwed a rhoi hawliau mwy helaeth i ofalwyr.

I gael gwybod mwy am Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru, neu i chwarae rhan, cysylltwch â Richenda Leonard, ebostiwch: r.c.m.leonard@swansea.ac.uk, neu Ffon: 01792 604922. 

Facebook:www.facebook.com/WSSCR

Twitter: @WSSCR