Hillary Rodham Clinton yn derbyn doethuriaeth anrhydeddus gan Brifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw, dydd Sadwrn 14 Hydref, dyfarnodd Brifysgol Abertawe ddoethuriaeth anrhydeddus i gyn-ysgrifennydd gwladol UDA, Hillary Rodham Clinton.

Dyfarnwyd yr anrhydedd i Mrs Clinton am ei hymrwymiad wrth hyrwyddo hawliau teuluoedd a phlant ledled y byd, ymrwymiad a rennir gan Arsyllfa Prifysgol Abertawe ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc.

Cyflwynodd yr Athro Richard B. Davies, is-ganghellor y brifysgol, y wobr i Mrs Clinton mewn seremoni yn Neuadd Fawr y Brifysgol ar Gampws y Bae.

Yn ystod y cynulliad, siaradodd Mrs Clinton am le arbennig Cymru yn ei chalon oherwydd ei chysylltiadau teuluol â'r wlad, a dywedodd na allai gadarnhau na gwadu bod slogan ei hymgyrch arlywyddol, Stronger Together, yn deyrnged gyfrinachol i slogan tîm pêl-droed Cymru, "Gyda'n Gilydd Yn Gryfach" (Together Stronger).

Yn ddiweddarach traddododd Mrs Clinton araith Children’s Rights Are Human Rights, a siaradodd am y cysylltiad arbennig mae'n ei deimlo ag Arsyllfa Cymru ar Hawliau Plant, a'i fod yn golygu'r byd iddi fod Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton wedi'i henwi ar ei hôl. Yn hwyrach nododd Mrs Clinton y byddai'n dychwelyd i Gampws y Bae yn y dyfodol, ac y byddai'n ysgogi cenhadaeth Ysgol y Gyfraith am genedlaethau i ddod; bod hawliau plant yn hawliau dynol.

Yn dilyn yr arwisgiad, dadorchuddiodd Mrs Clinton garreg goffaol i nodi ailenwi Coleg y Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton.

Hillary Rodham Clinton receives her honorary doctorate

Meddai'r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Heb amheuaeth, mae Mrs Clinton yn un o fenywod mwyaf pwerus a phwysig yr oes. Mae ei dylanwad ar bolisi cenedlaethol diweddar a chyfredol yr Unol Daleithiau ac ar faterion byd-eang wedi bod yn anferth. Heddiw, wrth ddyfarnu'r radd hon ac ailenwi ein Hysgol y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, rydym yn amlygu ein cefnogaeth ar gyfer yr un gwerthoedd cyfiawnder a hawliau y mae hi'n adnabyddus amdanynt.

"Mae'n arbennig o arwyddocaol bod Mrs Clinton wedi dewis Prifysgol Abertawe i wneud cyhoeddiad pwysig am sut bydd hi'n sianelu ei hegni diamheuol ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus i waith rhyngwladol ym maes hawliau dynol.

"Mae heddiw hefyd yn nodi dechrau perthynas ystyrlon rhwng Prifysgol Abertawe a Mrs Clinton, sy'n seiliedig ar ein cred gyffredin bod gennym i gyd gyfrifoldeb i gyflawni newid yn y byd cymdeithasol a'r byd economaidd. Mae'n bleser mawr gennym weithio mewn partneriaeth â hi, i wneud ein rhan mewn ymgyrch fyd-eang dros hawliau plant yn y blynyddoedd i ddod”.

Ychwanegodd yr Athro Elwen Evans CF, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton: "Mae'n bleser mawr gennym gael cefnogaeth Mrs Clinton fel hyrwyddwr hawliau dynol plant a phobl ifanc. Mae Ysgol y Gyfraith Abertawe yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei gwaith arloesol yn y maes hwn, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Mrs Clinton i hyrwyddo a diogelu'r hawliau hyn ledled y byd drwy bolisi, ymarfer, eiriolaeth a diwygio'r gyfraith”. 

Gwyliwch Mrs Clinton yn cyflwyno'i haraith, Children's Rights Are Human Rights