Gwyddonwyr yn darganfod cynnydd yng nghyfradd curiad y galon a phwysau gwaed ar ôl defnyddio'r rhyngrwyd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae gwyddonwyr a chlinigwyr o Abertawe a Milan wedi darganfod bod rhai pobl sy'n defnyddio'r rhyngrwyd yn helaeth yn profi newidiadau ffisiolegol sylweddol, megis cynnydd yng nghyfradd curiad y galon a phwysau gwaed, ar ôl defnyddio'r rhyngrwyd.

Yn yr astudiaeth, mesurwyd cyfradd curiad y galon a phwysau gwaed 144 o gyfranogwyr rhwng 18 a 33 oed cyn ac ar ôl sesiwn fer ar y rhyngrwyd. Aseswyd eu pryder hefyd a chofnodwyd eu hunanasesiad o'u caethiwed i'r rhyngrwyd. Dangosodd y canlyniadau gynnydd o ran cynnwrf ffisiolegol ar ddiwedd sesiwn ar y rhyngrwyd yn y rhai y mae eu lefelau uchel o ddefnyddio'r rhyngrwyd yn achosi problemau. Adlewyrchwyd y cynnydd hwn yng nghyfradd curiad y galon a phwysau gwaed gan gynnydd o ran teimladau o bryder. Fodd bynnag, ni chofnodwyd unrhyw newidiadau o'r fath mewn cyfranogwyr a noddodd nad oedd eu defnydd o'r rhyngrwyd yn broblem.

Yr astudiaeth hon, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn rhyngwladol a adolygir gan gymheiriaid, PLOS ONE, yw'r arbrawf cyntaf dan reolaeth i ddangos newidiadau ffisiolegol o ganlyniad i ddefnyddio'r rhyngrwyd.

Meddai'r Athro Phil Reed o Brifysgol Abertawe, arweinydd yr astudiaeth, "Rydym wedi gwybod ers peth amser bod pobl sy'n or-ddibynnol ar ddyfeisiau digidol yn nodi teimladau o bryder pan gânt eu rhwystro rhag eu defnyddio. Fodd bynnag, gallwn weld nawr bod newidiadau ffisiolegol yn cyd-fynd â'r effeithiau seicolegol hyn.

Nodwyd cynnydd cyfartalog o 3-4% yng nghyfradd curiad y galon a phwysau gwaed (dwywaith hynny mewn rhai achosion) yn syth ar ôl gorffen defnyddio'r rhyngrwyd, o'u cymharu â'r cyfraddau cyn ei ddefnyddio, ymysg y rhai mae eu hymddygiad digidol yn achosi problem. Er nad yw'r cynnydd hwn yn ddigon i beryglu bywyd, gall newidiadau o'r fath fod yn gysylltiedig â theimladau o bryder ac â newidiadau yn y system hormonaidd sy'n gallu lleihau ymateb y system imiwnedd. Awgrymodd yr astudiaeth hefyd fod y newidiadau ffisiolegol hyn a'r cynnydd mewn pryder yn nodi cyflwr yn debyg i symptomau diddyfnu a welir gyda llawer o gyffuriau 'llonyddol' megis alcohol, canabis a heroin. Mae'n bosib mai'r cyflwr hwn sy'n gyfrifol am angen pobl i ailgydio yn eu dyfeisiau digidol er mwyn lleihau'r teimladau annifyr hyn.

Yr Athro Phil Reed ‌Yr Athro Phil Reed 

Meddai Dr Lisa Osborne, ymchwilydd clinigol a chydawdur yr astudiaeth, "Un o'r problemau sy'n gysylltiedig â newidiadau ffisiolegol, megis cynnydd yng nghyfradd curiad y galon, yw y gellir eu dehongli fel symptomau sy'n fwy o berygl corffol, yn enwedig ymhlith y rhai sydd â lefelau uchel o bryder; gall hyn achosi mwy o bryder, a'r angen i'w leddfu.

Mae'r awduron yn awgrymu bod defnydd o'r rhyngrwyd yn cael ei sbarduno gan fwy na chyffro neu lawenydd tymor byr y dechnoleg, ond bod gorddefnydd yn gallu creu newidiadau ffisiolegol a seicolegol negyddol a allai ysgogi pobl i ailgydio yn y rhyngrwyd, hyd yn oed pan nad ydynt yn dymuno ei ddefnyddio.

Meddai'r Athro Reed, "Roedd yr unigolion yn ein hastudiaeth yn defnyddio'r rhyngrwyd mewn modd eithaf nodweddiadol, felly, rydym yn hyderus y gallai llawer o bobl sy'n gorddefnyddio'r rhyngrwyd gael profiadau tebyg. Fodd bynnag, ceir grwpiau sy'n defnyddio'r rhyngrwyd at ddibenion eraill, megis chwarae gemau, efallai i greu teimladau o gynnwrf, a gallai'r effeithiau ar eu ffisioleg o atal eu defnydd fod yn wahanol - nid yw hyn wedi'i brofi eto."

Ychwanegodd yr Athro Roberto Truzoli o Brifysgol Milan, cydawdur yr astudiaeth, "A yw defnydd problemus o'r rhyngrwyd yn gaethiwed - sy'n arwain at effeithiau diddyfnu ffisiolegol a seicolegol - neu a oes mathau eraill o orfodaeth nad ydynt yn creu'r fath effeithiau diddyfnu ynghlwm - mae hynny heb ei ddangos eto ond, yn ôl y canlyniadau hyn, ymddengys y gall fod yn gaethiwed i rai pobl."

Canfu'r astudiaeth hefyd fod y cyfranogwyr yn treulio pum awr y dydd, ar gyfartaledd, ar y rhyngrwyd a bod 20% yn treulio dros chwe awr y dydd yn defnyddio'r rhyngrwyd. Yn ogystal, soniodd dros 40% o'r sampl fod ganddynt broblem ar ryw lefel o ganlyniad i'w defnydd o'r rhyngrwyd - gan gydnabod eu bod yn treulio gormod o amser ar-lein. Nid oedd unrhyw wahaniaeth rhwng dynion a menywod o ran tueddfryd i fod yn gaeth i'r rhyngrwyd. Y rhesymau mwyaf cyffredin, o lawer, dros ddefnyddio dyfeisiau digidol oedd y cyfryngau cyfathrebu digidol ('cyfryngau cymdeithasol') a siopa.

Mae astudiaethau blaenorol gan y grŵp hwn, a llawer eraill, wedi dangos cynnydd tymor byr o ran hunanasesiad o bryder pan gaiff pobl sy'n ddibynnol ar ddyfeisiau digidol eu rhwystro rhag eu defnyddio; a gwelir cynnydd tymor hwy o ran iselder ysbryd ac unigrwydd, yn ogystal â newidiadau yn strwythur yr ymennydd a gallu i wrthsefyll heintiau mewn rhai.

Meddai'r Athro Phil Reed, "Mae twf y cyfryngau cyfathrebu digidol yn peri cynnydd o ran defnydd o'r 'ryngrwyd' yn enwedig ymhlith menywod. Mae tystiolaeth sylweddol ar gael erbyn hyn sy'n cofnodi effeithiau negyddol gorddefnydd ar seicoleg a niwroleg pobl ac, yn ôl yr astudiaeth hon bellach, effaith negyddol ar eu ffisioleg. O ganlyniad, mae'n rhaid i gwmnïau fabwysiadu agwedd fwy cyfrifol at farchnata'r cynhyrchion hyn - fel sydd wedi digwydd ar gyfer alcohol a gamblo."