Gwobr Aur i Abertawe yng Ngwobrau'r Sefydliad Cysylltiadau Cyhoeddus Siartredig

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Adran Cysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe wedi ennill teitl Tîm y Flwyddyn yn y Sector Cyhoeddus yng Ngwobrau PRide Cymru'r Sefydliad Cysylltiadau Cyhoeddus Siartredig (CIPR) 2017.

CIPR awardsDyfarnwyd y wobr aur i'r tîm cysylltiadau cyhoeddus i gydnabod amcanion busnes cryf yr adran, canlyniadau rhagorol ymdrechion i gynyddu cysylltiadau â'r cyhoedd, a gwelliant mewn perfformiad bob blwyddyn. Enillodd tîm digidol y Brifysgol wobr arian hefyd am y defnydd gorau o'r cyfryngau cymdeithasol am ymgyrch Gemau'r Prifysgolion 2017.

Meddai Pennaeth yr Adran Cysylltiadau Cyhoeddus, Jacqui Bowen: "Ein nod yw hyrwyddo Prifysgol Abertawe a thynnu sylw ati drwy gysylltiadau cyhoeddus arloesol a chreadigol. Mae'n dda cael cyfle i'n cymharu ein hunain ag ymarferwyr ledled Cymru ac i'n gwaith gael ei gydnabod a'i gymeradwyo gan y CIPR. Rwy'n falch iawn o'm tîm am eu gwaith caled a'u proffesiynoliaeth wrth ennill y wobr hon. ”