Gwneud y morlyn llanw’n gartref i greaduriaid y môr: gwaith gwyddonydd gyda phlant yn cipio gwobr Ymchwil fel Celf 2017

Mae 15 o ddelweddau trawiadol, a'r straeon diddorol y tu ôl iddynt - megis sut mae pelenni tylluanod wen yn datgelu pa ysglyfaeth sydd wedi cael ei bwyta, sut y gall data achub bywydau, a sut mae Barbie yn torri’n rhydd - i gyd wedi cael eu cyhoeddi’n enillwyr cystadleuaeth Ymchwil fel Celf 2017.

Enillydd y gystadleuaeth yw Dr Ruth Callaway, swyddog ymchwil o’r Coleg Gwyddoniaeth. Mae’r ddelwedd fuddugol Bioblocks: building for nature, yn dangos sut mae ymchwilwyr a phlant wedi bod yn archwilio ffyrdd sut y gallai cynllun Morlyn Llanw Bae Abertawe ddod yn gartref i greaduriaid y môr.

Cliciwch yma i weld yr holl enillwyr

600 x 400

Mewn gweithdy a gynhaliwyd gan y Brifysgol, defnyddiodd dros 200 blant giwbiau o glai i gerflunio cynefinoedd ecolegol deniadol i greaduriaid arfordirol. Y gobaith yw y bydd y cynefin amryfal a chymhleth hwn yn galluogi mwy o rywogaethau i ddefnyddio'r deunydd newydd fel man byw: bydd holltau a thyllau yn darparu cysgod, a bydd gweadau amrywiol a gordoeau yn caniatáu i anifeiliaid a gwymon lynu at y deunydd.

Roedd y gweithdy yn un o’r ffyrdd y mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe ar brosiect SEACAMS wedi cydweithio â Morlyn Llanw Bae Abertawe Plc er mwyn archwilio’r cyfleoedd i wella gwerth ecolegol y morlyn llanw cyntaf yn y byd ym Mae Abertawe.

Ymchwil fel Celf yw’r unig gystadleuaeth o’i fath ac mae’n agored i ymchwilwyr ym mhob pwnc, gyda phwyslais ar adrodd stori’r ymchwil yn ogystal â chyflwyno delwedd drawiadol.

Mae’r gystadleuaeth yn dathlu amrywiaeth a harddwch ymchwil Prifysgol Abertawe – sydd yn 30 uchaf o brifysgolion ymchwil y Deyrnas Unedig – yn ogystal â chreadigrwydd ac effaith yr ymchwilwyr.

Derbyniwyd 86 o geisiadau eleni gan ymchwilwyr o Golegau’r Brifysgol.

Eleni, roedd y panel beirniadu yn cynnwys uwch swyddogion o’r Sefydliad Brenhinol, NewScientist, a Nature, a dewiswyd cyfanswm o bymtheg o enillwyr. Ynghyd â'r enillydd cyffredinol, mae gwobrau’r beirniaid mewn pedwar categori yn ymwneud ag ymgysylltu, dychymyg, ysbrydoliaeth, goleuad, ymgysylltu â’r byd naturiol - yn ogystal â gwaith 10 arall a gafodd ganmoliaeth uchel gan y beirniaid.

Disgrifiodd yr enillydd cyffredinol, Dr Ruth Callaway, ei delwedd fuddugol:

Defnyddion dros 200 o blant giwbiau o glai i gerflunio cynefinoedd ecolegol deniadol i greaduriaid arfordirol. Mae'r Bioflociau yn dangos sut y gall strwythurau artiffisial gynnal bywyd morol, yn ogystal â dangos bod plant a theuluoedd wedi gwella eu dealltwriaeth o wydnwch unigryw creaduriaid y môr.

Y gobaith yw y bydd y cynefin amryfal a chymhleth hwn yn galluogi mwy o rywogaethau i ddefnyddio'r deunydd newydd fel man byw: bydd holltau a thyllau yn darparu cysgod, a bydd gweadau amrywiol a gordoeau yn caniatáu i anifeiliaid a gwymon lynu at y deunydd.

Ychwanegodd Dr Ruth Callaway:

“Mae prosiectau arloesol megis Morlyn Llanw Bae Abertawe yn ysbrydoledig, ond maent hefyd yn codi cwestiynau am y newidiadau cymhleth i’r amgylchedd.

I wyddonwyr morol, mae'r prosiect yn creu cyfleoedd ymchwil digynsail i archwilio sut y gallai'r broses adeiladu leihau’r effaith negyddol ar yr amgylchedd arfordirol.

Mae prosiect SEACAMS, a ariennir gan yr UE, a chwmni Tidal Lagoon Power yn cydweithio er mwyn archwilio ffyrdd newydd o wella bioamrywiaeth. Mae trafod syniadau hyn gyda'r cyhoedd yn rhoi gwybod i'r gymuned ehangach am ein gwaith ac yn ysgogi syniadau ymchwil newydd”.

Meddai Sylfaenydd a Chyfarwyddwr y Gystadleuaeth, Dr Richard Johnston o Brifysgol Abertawe:

"Mae Ymchwil fel Celf yn gyfle i ymchwilwyr ddatgelu agweddau cudd o'u hymchwil i gynulleidfaoedd na fyddent fel arfer yn ymgysylltu â hwy. Gall hyn ddatgelu eu hanes personol, eu dynoliaeth, eu hysbrydoliaeth, ac emosiwn.

Gall hefyd fod yn ffordd o gyflwyno eu proses ymchwil, a'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn ymchwilydd; meithrin deialog, a diddymu rhwystrau rhwng prifysgolion a'r byd ehangach”.