Genynnau’n datgelu sut y cafodd y morfarch ei drwyn a sut y daeth yn dad gwych

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cafodd yr erthygl hon a ysgrifennwyd gan Dr Richard Unsworth ei chyhoeddi’n wreiddiol gan The Conversation.

Mae morfeirch yn parhau i fod yn enigma. Ymddengys fod y creaduriaid rhyfeddol hyn yn nofio o gwmpas ardaloedd morol mewn modd graslon gyda lefel o berffeithrwydd sy’n denu arsyllwyr ac edmygwyr o bob rhan o gymdeithas. Yn yr oesoedd Groegaidd a Rhufeinig hynafol, roedd morfeirch yn uchel eu parch. Ar un adeg fe’u hystyriwyd yn symbolau o bŵer ac awdurdod. Mae’r enw teuluol tacsonomig Lladinaidd hyd yn oed yn procio’r meddwl, gan fod Hippocampus yn cyfieithu i “march anferth y môr”.

Y realiti yw bod morfeirch yn rhan o’r grŵp esgyrnog – y math mwyaf cyffredin o bysgod – ac felly maent yn perthyn yn agosach fyth i benfras yr Iwerydd nag i unrhyw geffylau, angenfilod neu greaduriaid dychmygol. Ond hefyd mae gan forfeirch rai nodweddion anghyffredin iawn, o’u golwg ceffylaidd a’u harfwisg i’r ffaith mai’r gwrywod sy’n cario’r plant ac yn rhoi genedigaeth iddynt. Mae bellach yn bosib y gallai dadansoddiad newydd o'r holl enynnau yn DNA’r morfarch (a adnabyddir fel y genom) ein helpu i ddeall yn llawn y nodweddion prin hyn a datgelu rhai o ddirgelion y creadur hwn.

Mae morfeirch yn perthyn i’r teulu o bysgod a adwaenir fel syngnathids sy’n cynnwys oddeutu 300 o rywogaethau. Trwy ddadansoddi genynnau’r morfarch, cadarnhawyd ei fod mewn chwaer-grŵp o bysgod i’r grothell. Yr hyn sy’n gwneud y grŵp penodol hwn, sy’n cynnwys morfeirch, yn unigryw ymhlith fertebriaid, fodd bynnag, yw eu “beichiogrwydd gwrywaidd”. Mae’r gwrywod yn meithrin embryonau sy’n datblygu mewn cwd deor nes y byddant yn deor ac yn cael eu geni. Y gwryw sy’n darparu’r holl ofal rhieni ac felly maent wedi addasu i ddarparu’r holl embryonau â’r cydbwysedd cywir o hylifau, ocsigen a maeth.  

Credwn fod yr hynodrwydd esblygol hwn wedi digwydd er mwyn i forfeirch sicrhau mai nhw oedd tadau plant eu partner. Mewn rhai rhywogaethau o forfeirch, mae’r ffenomen hon o “feichiogrwydd” gwrywaidd yn gwrthdroi rolau arferol denu partner, gyda benywod yn cystadlu am sylw’r gwrywod ac yn esblygu eu nodweddion rhywiol eilaidd eu hunain i wneud hynny.  

Mae’r ymchwil newydd, gan Sefydliad ASTAR yn Singapôr ac a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature, yn dangos bod y nodwedd unigryw hon wedi’i chodio’n glir yng ngenom gwrywaidd morfeirch. Canfu’r ymchwilwyr fod pump o’r genynnau sy’n gyfrifol am ddeor embryonau sydd fel arfer yn weithredol yn y rhan fwyaf o bysgod benywaidd yn weithredol iawn mewn morfeirch gwrywaidd a gallant fod yn gysylltiedig â beichiogrwydd gwrywaidd. 

Symbolau o Obaith

Yn ogystal â rôl y tad ymhlith morfeirch, mae arsylwyr hefyd yn ymddiddori yn nhrwyn y morfarch. Mae gan forfeirch strwythur trwyn arbennig sy’n arwain i lawer o bobl eu cymharu ag anifeiliaid mwy eraill. Mewn gwirionedd, datblygodd y trwyn ar ôl i’r morfeirch golli dannedd wedi’u mwyneiddio ac o ganlyniad i hyn, ymgyfunodd genau’r morfeirch mewn strwythur sy’n debyg i diwb gyda cheg fach.

Mae’r tiwb unigryw hwn yn hynod effeithlon wrth sugno eitemau bwyd bach sydd ar gael yn helaeth yn y dŵr uwchben gwely’r môr. Mae’r addasiad yn hanfodol er mwyn sicrhau bod morfeirch yn uchafu eu cyfleoedd i ddal a chasglu bwyd. Mae’r ymchwil newydd yn taflu goleuni ar darddiadau genetig yr ymasiad hwn o’r dannedd. Yn benodol, mae’r dadansoddiad yn awgrymu y gallai ymasiad y genau fod wedi digwydd yn sgil colli’r genynnau sy’n gyfrifol am y proteinau mewn enamel dannedd. 

Tra bod y math hwn o ymchwil yn helpu i gadarnhau ein diddordeb mewn morfeirch, yn anffodus maent mewn perygl oherwydd bod pobl yn gor-ddefnyddio’r cefnfor. Wrth i’r moroedd gael eu haddasu’n fwyfwy gan weithgareddau dynol, mae angen bywyd anifeiliaid unigryw a newydd megis morfeirch arnom yn fwy nag erioed i helpu i gyfleu i’r byd bwysigrwydd a gwerth yr amgylchedd dyfrol hwn. 

Yn benodol, mae sawl rhywogaeth o forfeirch yn byw mewn dolydd morwellt sydd dan fygythiad dros y byd i gyd. Mae cyfleu gwerth y cynefinoedd hyn o ran rhywogaethau llai enigmatig, megis Penfras yr Iwerydd yn heriol iawn, felly mae morfeirch yn cynnig arwydd o obaith ar gyfer esbonio i’r byd pam y mae angen morwellt arnom. Byddai gallu deall y sylfaen enetig yn llawn ar gyfer llawer o’r nodweddion diddorol sydd gan forfeirch yn ein helpu i esbonio’n well hanes y morfarch.

Cyhoeddwyd yr erthygl yn wreiddiol ar wefan The Conversation. I ddarllen yr erthygl wreiddiol, cliciwch yma.