Darlithydd Abertawe yn ymddangos ar Who Do You Think You Are?

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mi fydd yr hanesydd Dr Aled Eirug, uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Reolaeth, ac aelod o Academi Morgan y Brifysgol, yn ymddangos mewn pennod o’r rhaglen boblogaidd Who Do You Think You Are ar BBC One ar nos Iau 24 Awst.

Fearne CottonYn y rhaglen, mi fydd y gyflwynwraig radio a theledu Fearne Cotton yn archwilio hanes ei hen dadcu, Evan Meredith, a oedd yn löwr o Abertyleri. Mi fydd Dr Eirug, sydd yn arbenigwr ar wrthwynebwyr cydwybodol y Rhyfel Mawr yng Nghymru yn bwrw goleuni ar stori Evan Meredith o’i wrthwynebiad i'r Rhyfel, i'w garchariad yn 1918.

Meddai Dr Eirug: “Roedd Evan Meredith yn un o lawer o gannoedd o lowyr yn ne Cymru a oedd yn gwrthwynebu'r Rhyfel, ac yn 1917, roedd yn un o'r rhai a rhwystrodd cyflwyno consgripsiwn i'r diwydiant cloddio am bron i flwyddyn.

“Mae’r stori hon nas adroddwyd yn adlewyrchu sut y mae barn tuag at y Rhyfel Mawr wedi creu gwrthdaro yn ardaloedd glofaol de Cymru yn arbennig.

“Tra bod llawer iawn o’r coffâd presennol ar ganmlwyddiant y Rhyfel Mawr yn naturiol ddigon wedi canolbwyntio ar drasiedïau dynol y brwydrau a’r byddinoedd, mae'r stori hon yn ein hatgoffa bod lleiafrif o ddynion dewr yn gwrthwynebu'r Rhyfel”.

Gwyliwch y bennod ar iPlayer.