Cyllid i ariannu Uned Ymchwil Diabetes Cymru am ddwy flynedd arall

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

I gyd-fynd â Diwrnod Diabetes y Byd (heddiw, 14 Tachwedd), mae'r Uned Ymchwil Diabetes Cymru sydd wedi ei lleoli yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe yn falch o gyhoeddi cyllid am ddwy flynedd arall i barhau â'i hymchwil bwysig.

Dyfarnwyd £999,426 gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar ran Llywodraeth Cymru i’r Uned sy’n weithredol ym maes ymchwil sylfaenol, clinigol, epidemiolegol, gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd ledled Cymru.

Diabetes

  • Mae gan dros 7% o’r boblogaeth ddiabetes, a bydd y ffigur hwn yn cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd i ddod.
  • Y farn gyffredinol yw bod diabetes yn gyfrifol am fwy na 10% o wariant y GIG.
  • Mae gan dros 20% o gleifion mewnol ysbytai yng Nghymru ddiabetes.
  • Mae dros hanner yr oedolion yng Nghymru dros bwysau neu’n ordew.
  • Mae diabetes Math 1 yn gyfrifol am oddeutu 10% o’r holl gleifion â diabetes, ac mae’n faich mawr ar gleifion a theuluoedd, gyda thros 1,000 o blant yng Nghymru’n cael eu heffeithio.

DiabetesSefydlwyd Uned Ymchwil Diabetes Cymru yn 2015, a nod yr Uned yw mynd i’r afael ag anghenion gofal iechyd pwysig hyn trwy gynnal a chefnogi rhaglen ymchwil drawsfudol gynhwysfawr ac integredig a gynlluniwyd i feithrin sut y caiff strategaethau therapiwtig ar gyfer atal a diabetes eu datblygu a’u gweithredu. Mae ymchwilio i ffyrdd o atal ac ymdopi â'r epidemig diabetes yn flaenoriaeth.

I ddysgu mwy am waith Uned Ymchwil Diabetes Cymru, cliciwch yma.