Cwrs arloesol cyntaf o’i fath yn y byd ar gyfer moeseg ac uniondeb chwaraeon

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu ei charfan gyntaf o fyfyrwyr Erasmus Mundus ar ei MA mewn Moeseg ac Uniondeb Chwaraeon (MAiSI), a fydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd lefel uchel mewn gweinyddu a llywodraethu chwaraeon, gan ganolbwyntio ar chwaraeon moesegol, uniondeb a chydymffurfiaeth.

MAiSI1

Croesawyd 21 o fyfyrwyr o wledydd yn cynnwys America, Azerbaijan, Tsieina, Colombia, India, a Mecsico, i’r Coleg Peirianneg yng Nghampws y Bae Prifysgol Abertawe mewn derbyniad arbennig wedi’i gynnal gan yr Athro Gareth Stratton, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Ariennir rhaglen MAiSI arloesol, sy’n ddwy flynedd o hyd ac yn amser llawn, gan Raglen Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd ac mae’n paratoi myfyrwyr i ymateb i’r argyfwng byd-eang mewn uniondeb chwaraeon. Dyma’r rhaglen arloesol gyntaf o’i math ar gyfer gweinyddu a llywodraethu chwaraeon.

Mae’r rhaglen yn gynnyrch cydweithrediad rhyngwladol â Phrifysgol Charles ym Mhrag; Prifysgol Johannes Gutenberg ym Mainz yn yr Almaen; KU Leuven yng Ngwlad Belg; Prifysgol y Peloponnese yng Ngwlad Groeg; a Phrifysgol Pompeu Fabra yn Sbaen.

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar lywodraethu chwaraeon yn fyd-eang e.e. FIFA, IOC; atal dopio ac addysg cyffuriau; materion preifatrwydd a diogelu data; chwarae teg, cyfiawnder a hawliau dynol; Y Gemau Olympaidd Ieuenctid, moeseg ac addysg; cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (yn enwedig materion oedran ac anabledd); gamblo anghyfreithlon ac afreolaidd; trefnu canlyniadau a chamddefnyddio chwaraeon; deddfwriaeth a chodau ymddygiad; cydraddoldeb a gwrthwahaniaethu (materion dosbarth cymdeithasol, hil, ethnigrwydd, crefydd a rhywedd); cynaliadwyedd ac etifeddiaeth digwyddiadau chwaraeon; amddiffyn plant a hawliau plant; Olympiaeth, heddwch a'r Cadoediad Olympaidd.

Meddai Dr Libby Pearson, Cydlynydd Rhaglen MAiSI yn y Coleg Peirianneg: “Abertawe yw’r sefydliad sy’n arwain Rhaglen MAiSI ac mae’n bleser gennym groesawu ein carfan gyntaf o fyfyrwyr Erasmus Mundus ar y rhaglen.”

Meddai’r Athro Mike McNamee, Cyfarwyddwr y Rhaglen: “Mae'r byd chwaraeon yn wynebu mwy a mwy o broblemau moesegol, o lygredd a threfnu canlyniadau gemau i amddiffyn plant, dopio a betio anghyfreithlon.  Mae uniondeb  sefydliadau a chyrff chwaraeon ar bob lefel yn cael ei gwestiynu, gan greu angen brys i ddatblygu ymateb cydlynol a phroffesiynol i'r problemau hyn.

“Ein hymateb yn Abertawe yw sefydlu moeseg ac uniondeb chwaraeon fel proffesiwn newydd, a gydnabyddir yn rhyngwladol, o fewn maes gweinyddu a llywodraethu chwaraeon yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat; i ddatblygu 100 o arbenigwyr ôl-raddedig newydd rhwng 2017 a 21, wedi'u dethol o ledled y byd, a fydd yn cyfoethogi ffederasiynau chwaraeon â'u harbenigedd mewn moeseg ac uniondeb ac yn chwyldroi'r byd chwaraeon.

“Bydd graddedigion MAiSI yn elwa o gyfleoedd i fynd ar leoliadau gwaith ymarferol o fewn rhwydwaith eang y partneriaid o gyrff ymgynghorol, ffederasiynau, gwneuthurwyr polisi a sefydliadau masnachol, yn ogystal â chyfleoedd hyfforddi a chydweithio helaeth yn rhyngwladol.”

“Efallai mai dyma fydd un o'r ychydig gyfleoedd i ymateb yn effeithiol ac yn gyflym i'r argyfwng byd-eang o ran uniondeb chwaraeon.”

Am wybodaeth bellach ar MAiSI ewch i http://www.maisi-project.eu/