Car uwchsonig BLOODHOUND SSC yn cael ei yrru am y tro cyntaf

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cafodd y car rasio llinell syth fwyaf datblygedig y byd, BLOODHOUND SSC, ei yrru am y tro cyntaf ym maes awyr Cernyw ar 26 Hydref.

Gyrrodd yr Asgell-gomander Andy Green BLOODHOUND SSC ar hyd y rhedffordd 1.7 milltir (2.7km) o hyd ddwywaith, gan fynd o 0 i 210 mya mewn wyth eiliad. Ei nod yw cyrraedd 1,000 mya yn Hakskeen Pan yn Ne Affrica flwyddyn nesaf, a thorri record cyflymder y byd a osodwyd gan Andy Green yn 1997.

Bloodhound test run

Yn ogystal â bod yn un o noddwyr cyntaf BLOODHOUND SSC, mae Prifysgol Abertawe wedi chwarae rôl hollbwysig yn llwyddiant y prosiect hyd yn hyn, gan ddarparu technoleg allweddol ers y diwrnod cyntaf yn nyddiau cynnar y cysyniad yn ôl yn 2007.

Prif gyfraniad Prifysgol Abertawe at y fenter i adeiladu car rasio ar dir a fydd yn cyrraedd 1,000myh (1,609km/yr awr) fu ei harbenigedd ym maes ymchwil Deinameg Hylifau Gyfrifiadurol, a bu ymchwilwyr o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe’n gweithio fel rhan o dîm dylunio aerodynameg y car uwchsonig.

Ar ôl gyrru’r car uwchsonig, meddai Andy Green: “Mae'r tîm dylunio a pheirianneg wedi gwneud gwaith anhygoel gyda BLOODHOUND SSC. Mae gwaith datblygu i'w wneud o hyd, wrth gwrs, ond roedd y car yn ymatebol, yn sefydlog ac yn aruthrol o gyflym. Bydd data o brofion heddiw, gan gynnwys perfformiad yr injan jet, sefydlogrwydd aerodynameg a'r pellteroedd brecio, yn ein cynorthwyo i gynllunio’r ymgyrch i dorri record cyflymder y byd yn 2018".

Meddai Dr Ben Evans, Athro Cyswllt ym Mheirianneg Awyrofod sydd hefyd yn aelod o dîm cynllunio BLOODHOUND: “Mae Prifysgol Abertawe wedi chwarae rôl hollbwysig ym Mhrosiect BLOODHOUND ers y cychwyn cyntaf nôl yn 2007. Dros y ddeng mlynedd diwethaf rydym wedi dylunio ffurf aerodynameg y car, a dyna sy’n gyfrifol am ei siâp presennol. Ar ôl bod yn gweithio ar y car am ddegawd, roedd hi’n brofiad emosiynol i weld y car yn cael ei yrru am y tro cyntaf yng Nghernyw - bron fel breuddwyd! Dyma’r cam nesaf yn ein siwrne i gyrraedd 1,000 mya yn Ne Affrica flwyddyn nesaf a thorri record cyflymder y byd, a ‘dwi methu aros!”.