Ariannu newydd i helpu trin a chynnal ymchwil i anafiadau llosgi yn fyd-eang

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill grant ymchwil gwerth £2 filiwn a fydd yn cefnogi astudiaethau i iechyd pobl mewn gwledydd incwm isel neu ganolig ar draws y byd i helpu i wella polisi ac ymchwil ar gyfer trin anafiadau llosgi.

Professor Tom PotokarArweiniwyd y cais am arian Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd gan yr Athro Tom Potokar o Ganolfan Polisi ac Ymchwil Anafiadau Llosgi Byd-eang (CGBIPR) yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd.

Bydd yr ariannu'n galluogi CGBIPR i greu datrysiadau ar sail tystiolaeth i wella'r polisi a'r ymchwil ar gyfer anafiadau llosgi yn rhyngwladol mewn cydweithrediad agos â Rhwydwaith Rhyngwladol ar gyfer Hyfforddiant, Addysg ac Ymchwil Anafiadau Llosgi (Interburns) sydd â phartneriaid rhyngwladol mewn nifer o wledydd datblygol.

Meddai'r Athro Potokar: "Yr uchelgais yw y bydd y Ganolfan yn dod yn ganolbwynt rhyngwladol i ddatblygu polisi ac ymchwil fyd-eang ar gyfer anafiadau llosgi. Mae angen hyn arnom am fod anafiadau llosgi yn effeithio'n anghyfartal ar bobl mewn gwledydd a rhanbarthau tlawd lle y ceir gwrthdaro cronig neu aciwt. Maent hefyd yn effeithio ar fenywod a phlant yn anghyfartal.

"Yn anffodus mae cael mynediad i driniaeth yn gyfyng ac mae'r cyfraddau goroesi yn llawer is nag ydynt mewn gwledydd cyfoethog. Golyga hyn hefyd y ceir llawer mwy o gymhlethdodau gan arwain at bwysau mawr a achosir gan farwolaeth a dioddefaint gan anffurfiad corfforol, anabledd a chanlyniadau seicolegol a chymdeithasol yr anafiadau trawmatig hyn.

"Nod y dyfarniad ariannu yw mynd i'r afael â'r anghyfartaledd hwn trwy greu sylfaen dystiolaeth am yr hyn sy'n effeithiol a’r hyn gellid ei gyflawni o ran trin ac atal anafiadau llosgi."

Anafiadau llosg - ffeithiau allweddol

  • Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi disgrifio anafiadau llosgi fel yr argyfwng iechyd cyhoeddus byd-eang anghofiedig
  • Bob blwyddyn mae bron 11 miliwn o bobl ar draws y byd yn dioddef o anafiadau llosgi sy'n ddigon difrifol i dderbyn sylw meddygol ond mae rhaglenni hyfforddiant ar gyfer atal anafiadau llosgi a gwasanaethau gofalu am anafiadau llosgi heb adnoddau digonol.
  • Mae 95% o anafiadau llosgi'n digwydd mewn gwledydd incwm isel neu ganolig ac mae 70% o'r anafiadau hyn yn effeithio ar blant (WHO 2011)
  • Gall y canolfannau anafiadau llosgi gorau mewn gwledydd incwm uchel achub cleifion sydd ag anafiadau llosgi dros 90% o wyneb eu cyrff ond mewn gwledydd incwm isel a chanolig mae anafiadau llosgi dwfn o 40% ac uwch heb os yn achosi marwolaeth.
  • Caiff bron pedwar miliwn o fenywod mewn gwledydd incwm isel eu llosgi'n ddifrifol bob blwyddyn sef swm tebyg i'r nifer sy'n cael eu diagnosio gyda HIV ac AIDS.
  • De-ddwyrain Asia yw'r canolbwynt byd-eang ar gyfer anafiadau llosgi; yn y rhanbarth hwn caiff dair gwaith mwy o fenywod eu llosgi nag sy'n dal HIV ac AIDS. Yn India, anafiadau llosgi yw'r achos mwyaf cyffredin o angau ymhlith menywod rhwng 15 a 30 oed (The Lancet  2009).
  • Anafiadau llosgi sy'n gysylltiedig â thân yw'r chweched prif achos o angau ymhlith plant 5 i 14 oed. Mae anafiadau llosgi ymhlith y pum prif achos o anafiadau sy'n achosi marwolaeth ymysg plant ac ar ôl 5 oed anafiadau llosgi yw'r bygythiad mwyaf i oroesiad plentyn (WHO / UNICEF 2008).