Adran Gemeg newydd yn agor ym Mhrifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Llywydd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, yr Athro Syr John Holman, wedi agor Adran Gemeg newydd Prifysgol Abertawe yn swyddogol.

Heddiw (15 Tachwedd 2017), ymwelodd yr Athro Holman â'r labordai o'r radd flaenaf newydd yn Adeilad Grove ar Gampws Parc Singleton i ail-lansio Cemeg yn swyddogol yn y Brifysgol yn dilyn cyfnod o 12 mlynedd heb adran Gemeg.

Dywedodd yr Athro John Holman: “Mae’n fraint arbennig bod yma heddiw yn Abertawe ar gyfer ailagor yr Adran Gemeg. Mae’n bleser bod yma a gweld y cyfleusterau newydd rhagorol y llwyddoch i’w creu ar gyfer dysgu Cemeg ac i weld carfan mor frwdfrydig o bobl. Llongyfarchiadau i bawb ohonoch yn Abertawe.”

Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, Yr Athro Richard B Davies: "Mae'n anrhydedd gennym groesawu'r Athro Syr John Holman yma ar y diwrnod mawreddog hwn i agor ein Hadran Gemeg newydd o'r radd flaenaf. 

Mae'n amser perffaith i ailgyflwyno Cemeg yn Abertawe; mae'r galw am raddau Cemeg yn cynyddu: gwelwyd cynnydd o 4% yn nifer y myfyrwyr israddedig a gofrestrodd i astudio'r pwnc yn genedlaethol yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Mae ail-lansio Cemeg yn Abertawe'n arwydd o'n cynnydd, ein huchelgais a'n hyder ar ôl i'r Brifysgol ymuno â rhengoedd y 25 o brifysgolion gorau'r DU am ymchwil.

 Mae hanes disglair o Gemeg yn Abertawe, ac roedd y penderfyniad i gau'r adran yn 2004 yn un anodd, ar adeg pan oedd poblogrwydd pynciau gwyddoniaeth a thechnoleg yn gostwng. Mae gan Brifysgol Abertawe arbenigedd helaeth yn y pwnc eisoes, gyda chemegwyr mewn rolau allweddol yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni, prosiect SPECIFIC, sy'n dylunio deunyddiau ynni adnewyddadwy, y Ganolfan NanoIechyd, Adran Biocemeg yr Ysgol Feddygaeth, Peirianneg Biocemeg a'r Sefydliad Sbectrometreg Màs.  Mae'r rhaglenni BSc ac MChem Cemeg newydd wedi'u sefydlu i ganolbwyntio ar ragoriaeth addysgu, profiad y myfyrwyr a chyflogadwyedd.

Rydym wrth ein boddau bod amgylchiadau wedi caniatáu i ni gynnwys Cemeg yng nghwricwlwm Prifysgol Abertawe unwaith eto, ac mae'n bleser mawr gennym fod ein cyrsiau wedi cael eu hachredu gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, sy'n gydnabyddiaeth o'r safon uchaf.

Mae heddiw'n nodi uchafbwynt ymdrech wych gan staff ym Mhrifysgol Abertawe dros y pedair blynedd diwethaf.  Edrychwn ymlaen at barhau i atgyfnerthu'n henw fel ffynhonnell bwysig o addysg gemeg, ac i sefydlu arbenigedd sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang mewn Cemeg, gan gyfoethogi ein gweithgarwch ymchwil presennol."

http://www.swansea.ac.uk/chemistry/