Yn union fel bodau dynol, mae pysgod yn cyd-reoleiddio eu lefelau straen mewn sefyllfaoedd heriol

Mae ymchwil newydd a arweiniwyd gan Dr Ines Fürtbauer o Adran y Biowyddorau, Prifysgol Abertawe a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth 26 Gorffennaf) yn y cyfnodolyn Scientific Reports, wedi datgelu bod pysgod yn cyd-reoleiddio eu lefelau straen wrth brofi amgylchedd newydd heriol.

Stickleback fishMae'r hormon steroid cortisol yn rheoleiddio nifer o swyddogaethau pwysig y corff ac mae'n chwarae rôl hanfodol yn ymateb ymaddasol i straen ac felly cyfeirir ato yn aml fel yr "hormon straen".

Gwyddom fod pobl sydd â rhwymau cryf, fel cwplau rhamantus, neu rieni a'u plant, yn cyd-reoleiddio eu lefelau cortisol. Mae hyn yn golygu bod ymatebion cortisol mewn partneriaid neu rieni a phlant, yn aml, yn cydweddu ei gilydd, sydd yn debygol o fod yn bwysig ar gyfer gweithredu iechyd a pherthynas.

Nid oedd yn hysbys a oedd cyd-reoleiddio cortisol hefyd yn bodoli mewn anifeiliaid nad ydynt yn fodau dynol sydd â diffyg rhwymau cryf.  Ond, tybiodd Dr Fürtbauer, sydd wedi'i leoli yng Ngholeg Gwyddoniaeth, y Brifysgol efallai nad yw cyd-reoleiddio cortisol yn beth unigryw i fodau dynol, ond yn hytrach ei fod yn rhywbeth a all ddigwydd mewn fertebriaid cymdeithasol yn fwy cyffredinol.

Archwiliodd Dr Fürtbauer gyd-reoleiddio cortisol mewn parau o bysgod crethyll a mabwysiadodd osodiad arbrofol a oedd yn debyg i'r un a ddefnyddir gan seicolegwyr wrth astudio goddrychau dynol. 

Yn gyntaf, cafodd y pysgod eu paru a'u lletya gyda'i gilydd, sy'n cyfateb i fod "gartref" yn yr astudiaethau dynol. Wedyn, rhoddwyd y pysgod i mewn i danc newydd (sefyllfa heriol) nifer o weithiau, naill ai ar eu pen eu hunain (sy'n cyfateb i fod "yn y gwaith" yn yr astudiaethau dynol) neu gyda'u partner (sy'n cyfateb i "rannu gofid" yn yr astudiaethau dynol).

Mesurwyd y lefelau cortisol mewn ffordd nad oedd yn fewnlifol trwy samplau dŵr a gasglwyd gan bob pysgodyn ar ôl pob profiad.

Canfu'r ymchwilwyr nad oedd lefelau cortisol y pysgod yn gysylltiedig pan oeddent yn eu tanciau cartref, ond roedd cydberthyniad cadarnhaol wrth rannu amgylchedd lle yr oedd mwy o straen.

Mae'r canfyddiad hwn yn debyg i'r astudiaethau ar fodau dynol sy'n canfod bod cyd-reoleiddio cortisol yn gryfach mewn sefyllfaoedd o ofid. Mae hefyd yn rhoi'r dystiolaeth gyntaf nad yw cyd-reoleiddio cortisol yn beth unigryw i fodau dynol, fel y tybiodd Fürtbauer.

“Mae ein hastudiaeth yn dangos y gall bodau nad ydynt yn rhai dynol, sy'n byw mewn cymdeithasau sydd yn llai rhwymedig, gyd-reoleiddio ffisioleg straen ei gilydd” meddai Dr Fürtbauer.

“Mae ein canfyddiadau yn awgrymu swyddogaeth ymaddasol o gyd-reoleiddio cortisol yn ystod sefyllfaoedd heriol, a all gynnwys, er enghraifft, liniaru risg.”

Nawr bod Dr Fürtbauer wedi darganfod tystiolaeth am gyd-reoleiddio cortisol mewn pysgod, ar hyn o bryd mae ei thîm yn archwilio sut a thros ba gyfnod o amser y mae hyn yn digwydd, sef dau beth sy'n anodd eu hastudio mewn bodau dynol.

Ceir copi o'r papur llawn – Fürtbauer, I. & Heistermann, M. (2016) Cortisol coregulation in fish. Sci. Rep. 6, 30334; doi: 10.1038/srep30334 – yma.


Delwedd: Llun o bysgod crethyll © Dr Ines Fürtbauer.