Y Brifysgol yn cynnal Antur Croeso Cymru mewn Data Mawr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Daeth ymarferwyr blaenllaw mewn Twristiaeth Ddigidol o ar draws Ewrop ynghyd yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe heddiw (dydd Iau, 28 Ionawr) ar gyfer cynhadledd Antur mewn Data Mawr Croeso Cymru.

Visit Wales - An Adventure in Big DataRoedd y digwyddiad, a gynhaliwyd ar Gampws Gwyddoniaeth ac Arloesi’r Bae, yn edrych ar sut y mae’r chwyldro digidol hefyd yn chwyldroi’r wybodaeth sydd ar gael i’r busnes twristiaeth.  

Gall y wybodaeth hon helpu busnesau i ddeall ymddygiad cwsmeriaid sy’n gallu arwain at ddewisiadau busnes cytbwys gwell a mwy o broffidioldeb.

Roedd y siaradwyr rhyngwladol o Sbaen, Gwlad Belg, Denmarc, Slofenia, Gogledd Iwerddon ac wrth gwrs Cymru, yn cyflwyno enghreifftiau ymarferol o sut y gellir defnyddio Data Mawr ym maes twristiaeth, ynghyd â sesiynau gweithdy yn y prynhawn.

Daeth dros 120 o weithwyr proffesiynol o fyd diwydiant i’r gynhadledd, a gynhaliwyd yn ystod Blwyddyn Antur Cymru. Y nod oedd ystyried sut y mae data Digidol yn cynnig persbectifau a dulliau posib newydd i fusnesau twristiaeth ac i rannu arfer gorau.

Agorwyd y digwyddiad gan Ken Skates, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Meddai: “Mae gwybodaeth yn hanfodol ar gyfer ein diwydiant yng Nghymru er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf, er mwyn bod yn wybodus iawn ac er mwyn cystadlu mewn amgylchedd sy’n newid yn gyflym.

“Wrth edrych ar berfformiad yn ystod  y tair blynedd ddiwethaf, mae’r diwydiant Twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa dda iawn. Rydym wedi gweld cynnydd blynyddol yn olynol mewn niferoedd ymwelwyr a gwariant, ym marchnad y DU ac yn y marchnadoedd rhyngwladol.

“Cafwyd y nifer uchaf erioed o ymwelwyr o’r DU yn aros dros nos ym 2014 gyda ffigwr o 10 miliwn ac mae’r ffigyrau diweddaraf – ar gyfer tri chwarter cyntaf 2015 – yn dangos cynnydd pellach – 2% yn uwch o ran tripiau a 12% o ran gwariant – o’i gymharu â’r un cyfnod yn ystod y flwyddyn eithriadol, 2014.

“Yn galonogol iawn, ar ôl amodau economaidd anodd iawn yn ein prif farchnadoedd rhyngwladol, mae ymweliadau dramor wedi cynyddu gan 9% yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.

Visit Wales - An Adventure in Big Data - general“Er gwaethaf y llwyddiannau hyn, nid oes unrhyw le o gwbl i fod yn hunananfodlon a’n cenhadaeth yw parhau i fod yn gystadleuol mewn marchnad fyd-eang sy’n newid yn gyflym iawn. I gyflawni hynny, mae gwybodaeth yn allweddol. Mae hyn yn wir ar gyfer y sefydliadau twristiaeth cenedlaethol ac ar gyfer busnesau unigol ym mhob sector o’r diwydiant, waeth beth fo’u maint.

“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu gweithio gydag Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe i gynnal y gynhadledd hon sy’n procio’r meddwl ac mae’n bleser croesawu’r criw o arbenigwyr yn y maes hwn i roi persbectif byd-eang ar sut y gallwn ddefnyddio gwybodaeth a hysbysrwydd fel offer i lwyddo.”

Meddai’r Athro Iwan Davies, Uwch-Ddirprwy-Is-ganghellor Prifysgol Abertawe (Ystadau a Rhyngwladoli): “Mae’r Brifysgol, trwy’n Hysgol Reolaeth, yn falch ein bod wedi gallu gweithio mewn partneriaeth â Chroeso Cymru ar gyfer y digwyddiad diwydiannol cyffrous hwn ar ddechrau Blwyddyn Antur Cymru, ac i groesawu  Ken Skates, Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, i’n campws ysblennydd ar y bae i agor y gynhadledd.

“Mae’r gynhadledd wedi denu cynulleidfa unigryw o ymarferwyr rhyngwladol sydd ar flaen y gad o ran defnyddio Data Mawr, sydd wedi dod â’u sgiliau arbenigol i Abertawe i hysbysu ac ysbrydoli cynrychiolwyr ynghylch sut y gall yr economi ymwelwyr elwa o’r ffordd y gall Data Mawr hysbysu marchnata a datblygu ym maes twristiaeth.

“Mae ein harbenigeddau sy’n parhau i gynyddu ym maes Data Mawr – gyda phartneriaethau cyffrous newydd eraill a datblygiadau gyda phartner diwydiannol byd-eang sydd i’w cyhoeddi’n fuan – yn dangos bod Abertawe’n prysur yn dod yn gyrchfan i’w ddewis fel canolfan arbenigedd yn y sector pwysig hwn, gan gyfrannu at ddatblygiad a llwyddiant economaidd y rhanbarth.”

Mae rhagor o wybodaeth am Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe ar gael yma http://www.swansea.ac.uk/som/, ac ar wefan Croeso Cymru yma http://www.visitwales.com/.