Teyrnged i uwch gaplan y Brifysgol, y Parchedig Nigel John

Gyda thristwch mawr, mae’r Brifysgol wedi dysgu am farwolaeth ein cyfaill a chydweithiwr annwyl, uwch gaplan y Brifysgol, y Parchedig Nigel John.

Reverend Nigel John Ganed y Tad Nigel (neu Nigel fel yr oedd pawb yn ei adnabod) yn Abertawe, ond roedd yn mynnu taw brodor o Lanelli oedd ef, gan mai dyna lle cafodd ei fagu. Cafodd ei addysg yn Ysgol Old Road ac Ysgol Ramadeg y Bechgyn Llanelli, cyn treulio rhyw bum mlynedd yn glerc yn Adran Trysorydd Cyngor Bwrdeistref Llanelli.

Wedyn, ymroddodd i flwyddyn o waith gwirfoddol, yn gweithio mewn Canolfan Breswyl i bobl ag anabledd difrifol yng ngogledd-orllewin Llundain; ar ôl hynny, bu'n gweithio mewn Cysgod Nos i Alcoholigion Digartref a phobl oedd yn gaeth i gyffuriau yn Stoke on Trent; cyn gwasanaethu mewn ysbyty i'r Henoed yn ei dref enedigol yn ne Cymru.

Wedyn, bu'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, lle raddiodd mewn Astudiaethau Crefyddol. Cafodd swydd yn Uwch Swyddog Prosiect mewn Canolfan Adfer i Alcoholigion Digartref yn nwyrain Llundain, cyn cael ei dderbyn i'w hyfforddi'n weinidog yn yr Eglwys yng Nghymru. Cafodd ei hyfforddi yn Nhŷ Westcott yng Nghaergrawnt, gan aros yno am dair blynedd. Tra'r oedd yng Nghaergrawnt, bu'n astudio hefyd ar gyfer MPhil mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt (Coleg Selwyn). Cafodd ei ordeinio yn Eglwys Gadeiriol Dewi Sant, ac aeth ymlaen i weithio mewn plwyfi ac yn y byd academaidd. Yn ystod ei Guradiaeth ym Mhlwyf San Pedr yng Nghaerfyrddin, roedd hefyd yn darlithio mewn 'Athroniaeth Crefydd' yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.

Yn 2002, fe'i hapwyntiwyd yn Gaplan Anglicanaidd ac yn Uwch Gaplan ym Mhrifysgol Abertawe. Gweithiodd Nigel yn ddiflino yn ei rôl, ac yn ei wasanaeth i'r Brifysgol. Mi fydd hefyd yn cael ei gofio am sefydlu'r Rhaglen Darlithoedd Cyhoeddus mewn Diwinyddiaeth yn y Brifysgol, sydd wedi cynnwys arweinwyr yr Eglwys ac academyddion rhyngwladol o fri. Fe fydd colled mawr ar ei ôl. Danfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei wraig Trish a'u teulu ar yr adeg trist hwn. 

Mi fydd llyfrau cydymdeimlad yn cael eu gosod yn nerbynfeydd Abaty Singleton a’r Neuadd Fawr yfory (13 Hydref).