South Africa Today: Betraying or Upholding Mandela's Values?

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae copi llawn o'r ddarlith gyhoeddus, South Africa Today: Betraying or Upholding Mandela's Values? a draddodwyd gan y Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Hain ym Mhrifysgol Abertawe nos Iau, 4 Chwefror, ar gael yma.

The Right Honourable The Lord Hain public lecture

Mae'r ddarlith, a draddodwyd yn Narlithfa Faraday, Adeilad Faraday, yn rhan o gyfres o Ddarlithoedd a Digwyddiadau Cyhoeddus 2016 Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

The Right Honourable The Lord Hain Bu'r Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Hain - a dderbyniodd ddyfarniad cenedlaethol De Affrica, Urdd Cymdeithion OR Tambo, yn ddiweddar am ei gyfraniad at y frwydr yn erbyn apartheid - yn mynegi ei farn yn ystod darlith gyweirnod ar gyfer Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau'r Brifysgol.

Meddai'r Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Hain, "Yn sgil dymchwel apartheid o dan arlywyddiaeth Nelson Mandela, bu 'cenedl yr enfys' newydd De Affrica yn ysbrydoli'r byd.

"Fodd bynnag, heddiw, mae Cyngres Genedlaethol Affrica'r wlad yn derbyn mwy o feirniadaeth nag erioed o'r blaen, peth ohoni gan rai (gan gynnwys hilyddion gwyn) sydd bob amser yn amharod i dderbyn llywodraeth gan y mwyafrif neu'n elyniaethus tuag ati. 

"Mae angen safbwynt gonest a chytbwys sydd hefyd yn ystyried etifeddiaeth erchyll apartheid: lefelau uchel o dlodi, diweithdra torfol a pholisi pendant o rwystro mynediad i addysg ar gyfer y boblogaeth ddu a oedd yn cael ei thrin fel dosbarth gwasaidd."

Mae rhagor o wybodaeth am Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau Prifysgol Abertawe  ar gael yma.