Rôl newydd i lawfeddyg yn y Brifysgol i helpu dioddefwyr llosgiadau

Bydd llawfeddyg plastig a llosgiadau’n helpu creu’r Ganolfan newydd ar gyfer Polisi ac Ymchwil Fyd-eang ar Anafiadau Llosg, a fydd yn sefydlu Prifysgol Abertawe fel canolfan genedlaethol a rhyngwladol ar gyfer datblygu strategaethau i leihau’r nifer o anafiadau llosg a’u heffeithiau ar lefel fyd-eang.

Bydd yr Athro Tom Potokar, a fydd yn parhau â’i rôl bresennol yng Nghanolfan Llosgiadau a Llawdriniaeth Blastig Cymru yn Ysbyty Treforys, yn dechrau ar ei rôl newydd yn y Brifysgol lle bydd yn canolbwyntio ar gyflawni’r heriau wrth ddarparu triniaethau fforddiadwy sy’n achub bywydau ar draws ystod o systemau iechyd presennol ac amrywiaeth eang o leoliadau ledled y byd.

Bydd ei rôl newydd yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd  yn canolbwyntio ar:-

  • gefnogi ymchwil o safon, addysgu a datblygu strategaethau er mwyn darparu newid go iawn yn y gwaith o drin cleifion llosgiadau yn fyd-eang
  • gweithio ar draws disgyblaethau ac addysgu ac ymchwil drosiadol  
  • dod ag ymchwilwyr, clinigwyr, y llywodraeth, llunwyr polisïau a dinasyddion ynghyd
  • cysylltu a chyfrannu at y strategaethau llosgiadau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n cael eu datblygu gan lywodraethau’r byd

Professor Tom PotokarMae’r Athro Potokar hefyd yn gyfarwyddwr Interburns sef rhwydwaith gwirfoddoli rhyngwladol o weithwyr proffesiynol arbenigol ym maes gofal iechyd sy’n gweithio i drawsnewid gofal llosgiadau ac atal llosgiadau mewn gwledydd incwm isel a chanol. Mae’r sefydliad yn darparu hyfforddiant, addysg ac ymchwil o safon uchel am gost isel ac yn ystod y degawd diwethaf mae wedi hyfforddi dros 3,000 o weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd i ddarparu gofal o ansawdd da i gleifion llosgiadau. 

Meddai’r Athro Potokar: “Mae’n bleser gennyf ymuno â’r Brifysgol i sefydlu’r ganolfan ymchwil newydd hon. Tra bod llosgiadau’n cynrychioli her ryngwladol enfawr, mae cyfle enfawr hefyd i drawsnewid y sefyllfa o ran llosgiadau ar lefel fyd-eang drwy hyfforddiant, ymchwil, atal a meithrin gallu a bydd hyn yn achub bywydau, yn lleihau anabledd ac yn atal dioddefaint enfawr.”

Meddai’r Athro Ceri Phillips, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: “Mae’n bleser gennyf groesawu’r Athro Potokar ac rwyf yn hyderus y bydd ei waith yn helpu wrth fynd i’r afael â’r her allweddol y mae’r gymuned iechyd fyd-eang yn ei hwynebu – hynny yw rhoi gwyddoniaeth ac ymchwil ar waith er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng iechyd hwn yn y byd go iawn.”

Llosgiadau – ffeithiau allweddol

  • Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi disgrifio llosgiadau fel argyfwng iechyd cyhoeddus angof y byd 
  • Yn fyd-eang mae bron 11 miliwn o bobl bob blwyddyn yn dioddef llosgiadau sy’n ddigon difrifol i olygu bod angen triniaeth feddygol arnynt, ond mae diffyg adnoddau ar gael ar gyfer rhaglenni hyfforddiant atal llosgiadau a gwasanaethau gofal llosgiadau
  • Mae bron 95% o losgiadau’n digwydd mewn gwledydd incwm isel a chanol ac mae 70% o’r llosgiadau hyn yn effeithio ar blant (WHO 2011)
  • Gall y canolfannau llosgiadau gorau mewn gwledydd incwm uchel achub cleifion a chanddynt losgiadau ar dros 90% o arwynebedd y corff, ond mewn gwledydd incwm isel a chanol mae llosgiadau dyfnach o dros 40% bron bob amser yn angheuol.
  • Caiff bron 4 miliwn o fenywod mewn gwledydd incwm isel eu llosgi’n ddifrifol bob blwyddyn, nifer debyg i’r rhai sy’n cael eu diagnosio â HIV ac AIDS.
  • Uwchganolbwynt llosgiadau’r byd yw De-ddwyrain Asia; yn yr ardal hon caiff bron i deirgwaith y nifer o fenywod sy’n dal HIV ac AIDS eu llosgi. Yn India mae llosgiadau ymhlith y prif achosion marwolaeth mwyaf cyffredin ymhlith menywod rhwng 15-30 oed (The Lancet 2009).
  • Llosgiadau’n gysylltiedig â thân yw’r chweched prif achos marwolaeth ymhlith plant 5-14 oed. Mae llosgiadau ymhlith y 5 prif achos anafiadau sy’n effeithio ar farwolaeth ac afiachusrwydd ar ôl 5 mlwydd oed, ac anafiadau yw’r bygythiad mwyaf i oroesiad plentyn (WHO / UNICEF 2008).