Mae'n bosib y bydd astudiaeth gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn esbonio pam mae rhai rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid yn amrywio eu strategaeth paru rhwng hunanffrwythloni a bridio gan ddau riant.

Mangrove Killifish hermaphrodite

Arweinydd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Nhrafodion y Gymdeithas Frenhinol B, oedd Dr Sonia Consuegra yn y Coleg Gwyddoniaeth gan gydweithio ag ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Caerdydd, Adelaide ac Oviedo.  Bu'r ymchwil yn canolbwyntio ar bysgodyn abwyd y mangrof (Kryptoblebias marmoratus), fertebriad unigryw sy'n gallu hunanffrwythloni y mae ei boblogaethau'n cynnwys deurywiaid sy'n hunanffrwythloni yn bennaf ynghyd â chyfran isel o wrywod (1-20%).

Bu'r tîm ymchwil yn astudio newidiadau epigenetig yn y rhywogaeth, sef y ffordd mae ffactorau amgylcheddol yn peri newidiadau mewn mynegiant genynnau yn hytrach na'r côd genetig ei  hun. Canfuwyd y gallai newidiadau epigenetig a berir gan dymheredd esbonio'r pos sydd wedi drysu gwyddonwyr ers amser maith, sef sut mae rhai rhywogaethau sy'n hunanffrwythloni'n amrywio rhwng bridio un rhiant a dau riant.

Bu'r tîm ymchwil yn deori wyau gan ddeurywiaid hunanffrwythloni unigol o blith pysgodyn abwyd y mangrof ar dymereddau gwahanol, gan ddadansoddi cyfran y gwrywod ymhlith yr epil yn ogystal â'r proffiliau epigenetig a mynegiant genynnau sy'n gysylltiedig â rhyw yn ymenyddiau epil o'r ddau ryw.

Canfu'r ymchwilwyr fel a ganlyn:-

  • Cynyddodd canran y gwrywod o 1% i 80% ar y tymheredd isaf.
  • Roedd cysylltiad agos rhwng yr amrywiad hwn mewn rhyw ar sail tymheredd a newidiadau epigenetig a mynegiant genynnau sy'n ymwneud â gwahaniaeth rhyw a oedd i'w gweld yn llai aml mewn gwrywod mewn ymateb i newidiadau epigenetig.
  • Mae hyn yn awgrymu y gall newid amgylcheddol ddylanwadu ar hunanffrwythloni mewn deurywiaid.

Mangrove Killifish male

Meddai Dr Consuegra: "Mae hunanffrwythloni yn sicrhau bod rhywogaeth yn gallu atgenhedlu hyd yn oed yn absenoldeb cymheiriaid, ond mae hefyd yn arwain at epil unwaed ag amrywiaeth geneteg isel. Mewn cyferbyniad, mae bridio gan ddau riant, neu allgroesi, yn gallu bod yn fwy anodd ond mae'n cynnal amrywiaeth genetig ac yn creu epil sy'n gallu addasu'n well.

"Mae rhai planhigion ac anifeiliaid yn gallu manteisio ar y gorau’r ddau ddull atgenhedlu drwy amrywio rhwng y ddau, ond mae mecanwaith y strategaeth paru cymysg hon wedi bod yn bos esblygiadol ers dyddiau Darwin. Datgelodd ein hastudiaeth newydd, am y tro cyntaf, fod newidiadau epigenetig o ganlyniad i amodau amgylcheddol yn rheoli cymhareb rhwng y rhywiau gan esbonio sut rheoleiddir hunanffrwythloni ar sail argaeledd cymheiriaid.  Mae'r canfyddiad hwn yn peri pryder gan ystyried effeithiau posib newid yn hinsawdd ar ddeinameg poblogaeth rhywogaethau lle mae amodau amgylcheddol yn dylanwadu ar ryw."

Mae'r astudiaeth ar gael yma.

Ellison, A., Rodriguez Lopez, C., Moran, P., Breen, J., Swain, M., Megias, M., Hegarty, M., Wilkinson, M., Pawluk, R.  & Consuegra, S.  (2015). Epigenetic regulation of sex-ratios may explain natural variation in self-fertilisation rates. Proceedings of the Royal Society B
Lluniau dyraniad uchel ar gael ar gais gan Amy Ellison
Llun 1: Deurywiad pysgodyn abwyd y mangrof
Llun 2: Gwryw pysgodyn abwyd y mangrof