Prifysgol Abertawe’n cefnogi un o brif atyniadau Eisteddfod yr Urdd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd arbrofion DNA, gwersi ar sut i ‘ganu’ cytgan Hei, Mistar Urdd trwy gyfrwng Iaith Arwyddo Brydeinig, a sioeau nitrogen hylifol ymhlith rhai o’r gweithgareddau fydd yn cael eu cynnal ym mhabell y GwyddonLe, a noddir gan Brifysgol Abertawe unwaith eto eleni

Logo GwyddonLe bach Yn dilyn llwyddiant parhaus y GwyddonLe 2018mewn blynyddoedd diweddar, mae’r brifysgol wedi ymrwymo i ymestyn y bartneriaeth gyda'r Urdd am dair blynedd arall.

Datblygiadau cyffrous

Meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: “Rydym yn hynod falch fod Prifysgol Abertawe wedi cadarnhau eu nawdd am dair blynedd arall. Mae'r bartneriaeth hon yn hynod werthfawr i ni a’r mewnbwn maent yn ei roi yn flynyddol i’r GwyddonLe yn profi yn boblogaidd iawn. Rwy’n siŵr y bydd datblygiadau cyffrous ganddynt ar gyfer ein pabell wyddoniaeth dros y tair blynedd nesaf.”

‌Yn ystod yr Ŵyl yn Sir y Fflint, bydd gwyddonwyr o Abertawe’n arwain rhaglen sy’n llawn gweithgareddau i’r teulu, a gweithdai difyr i bobl o bob oed  ar thema ‘Y Corff’. Caiff ymwelwyr gymryd rhan mewn digwyddiadau rhyngweithiol megis argraffu 3D, arbrofion DNA a gweithdai codio.

GwyddonLe DNA Bydd S4C yn gyfrifol am gornel ‘Creu’ o fewn GwyddonLe eto eleni, gyda gweithgareddau yn cynnwys sesiynau Minecraft, creu gêm ‘gofod’ gyda Kodu a sialensiau adeiladu gyda Lego.

Bydd cynrychiolwyr o Golegau ac Ysgolion y brifysgol wrth law drwy gydol yr wythnos i ateb cwestiynau ymwelwyr am feysydd astudiaeth a’r cyfleoedd sydd ar gael ym Mhrifysgol Abertawe.

Dod â gwyddoniaeth yn fyw 

Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B. Davies, “Mae gan Brifysgol Abertawe enw da drwy’r byd am ymchwil a dysg ac yn enwedig ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Trwy’r GwyddonLe bydd modd i’n staff a’n myfyrwyr ôl-radd ddod â gwyddoniaeth yn fyw mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol i’r miloedd o bobl ifanc fydd yn heidio i’r Maes, gan eu hannog i ddilyn gyrfa mewn meysydd o dwf strategol allweddol sy'n sail i dwf economaidd a ffyniant.”

Tudur Phillips Un o gyflwynwyr S4C, Tudur Phillips (chwith), fydd yn agor y GwyddonLe yn swyddogol am 10.30am bore dydd Llun, 30 Mai. Yn ystod yr agoriad, caiff Tudur flas ar weithgareddau’r GwyddonLe trwy gymryd rhan mewn cyfres o arbrofion cyffrous.