Myfyrwyr Abertawe a Chaerdydd yn mynd benben â’i gilydd yn ugain mlwyddiant Varsity Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae digwyddiad chwaraeon fwyaf i fyfyrwyr yng Nghymru yn cyrraedd ei uchafbwynt ddydd Mercher (20 Ebrill, 2016) wrth i fyfyrwyr o Brifysgolion Abertawe a Chaerdydd gystadlu yn yr ugeinfed Varsity Cymru.

Mae’r Varisty eleni yn fwy nag erioed. Mae mwy na 40 o glybiau chwaraeon yn cystadlu dros bum diwrnod, cyn i’r gystadleuaeth gyrraedd ei benllanw gyda’r gêm rygbi fawr yn Stadiwm Liberty, Abertawe.

Welsh Varsity 2016 logo Bydd dros 1,400 o fyfyrwyr yn cystadlu mewn lleoliadau ar draws Abertawe, a chaiff Tarian Varsity ei gyflwyno i’r brifysgol fydd â’r mwyaf o bwyntiau ar ddiwedd y cystadlu. Mae’r campau yn cynnwys rhwyfo, seiclo, criced, polo, tenis, pêl-rwyd a Frisbee Eithafol. Cyflwynwyd pum camp newydd i’r here eleni, athletau, polo-dŵr, bocsio cic a saethyddiaeth.

Denodd Varsity 2015 y gynulleidfa fwyaf erioed, gyda 20,000 yn teithio i Abertawe i wylio’r cystadlu, a thorf o dros 16,000 yn gwylio’r gêm rygbi yn Stadiwm Liberty.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cipio Cwpan Varsity ar 12 o’r 19 achlysur, ond Caerdydd sydd â hi ar hyn o bryd.

Meddai Richard Lancaster, cyfarwyddwr Varsity Cymru, a phennaeth digwyddiadau corfforaethol prifysgol Abertawe: “Rydym yn falch dros ben o fod yn cynnal yr ugeinfed Varsity yma yn Abertawe. Mae Varsity bellach yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr y brifysgol, ac yn uchafbwynt i’r athletwyr a’r cefnogwyr. Mae'n gystadleuaeth gyfeillgar rhwng y myfyrwyr, ac mae'n wych i weld cynifer ohonynt yn cymryd rhan yn y digwyddiad unigryw hwn, gyda miloedd mwy yn teithio i Abertawe i ddangos eu cefnogaeth. "

Mae croeso i wylwyr yn y Pentref Chwaraeon ar Lôn Sgeti. Mae’r cystadlu’n cychwyn am 10am.

Mae tocynnau i’r gêm rygbi ar gael o swyddfa docynnau Stadiwm Liberty. Mae’r gêm yn cychwyn am 7pm.