Morio i Oes Newydd o Fioleg y Môr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi buddsoddi £1.3 miliwn mewn adeiladu llong arolygu pwrpasol dosbarth catamarán 18m o hyd i'w defnyddio gan fiolegwyr y môr i deithio o aberoedd i ysgafell y môr i astudio bywyd gwyllt a chynefinoedd amrywiol morlin aruthrol Cymru.

New research vesselMae Prifysgol Abertawe wedi bod yn arweinwyr ym maes Bioleg y Môr ers amser maith, gan gynnal ymchwil effaith uchel a chynorthwyo â chadwraeth a datblygiad cynaliadwy adnoddau morol ac arfordirol yng Nghymru.

 

 

Caiff y llong ei defnyddio i:

  • arolygu'r morlin;
  • mapio cynefinoedd pwysig;
  • astudio ansawdd y dŵr;
  • arsylwi bywyd gwyllt morol;
  • gosod cyfarpar morol;
  • cefnogi addysgu, ymchwil a chymorth busnes.

New research vessel 2

Bwriedir lansio'r llong newydd ym mis Rhagfyr 2017. Gall ddal 26 o bobl, ei chyflymder uchaf yw 23 not ac mae'n criwsio oddeutu 16 not, a bydd yn cynnwys cyfarpar arolygu ac ymchwil o'r radd flaenaf.