Llawysgrifau barddoniaeth Dylan Thomas i gael eu harddangos am y tro cyntaf ym Mhrifysgol Abertawe i nodi Diwrnod Dylan

Mae llawysgrifau gweithio cerddi Dylan Thomas, sy'n taflu goleuni ar brosesau gweithio'r bardd, wedi cael eu prynu gan Brifysgol Abertawe a chânt eu harddangos i'r cyhoedd am y tro cyntaf ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas - dydd Sadwrn 14 Mai.

400 x 507Prynodd y Brifysgol y papurau (fel sydd yn y llun), sy'n cynnwys drafftiau o'r cerddi, Unluckily for a Death ac Into her Lying Down Head, mewn arwerthiant diweddar yn Sotheby's, Efrog Newydd. Cânt eu cadw yn Archifau Richard Burton y Brifysgol, sydd eisoes yn gartref i un o lyfrau nodiadau Dylan Thomas y tybiwyd ei fod 'ar goll' o'r blaen.

Caiff y casgliad diweddaraf o lawysgrifau ei arddangos i'r cyhoedd am y tro cyntaf ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, 14 Mai.

‌‌‌Bydd yr arddangosfa ar agor rhwng 11am a 3pm yn Llyfrgell y Bae ar gampws newydd Prifysgol Abertawe, Campws y Bae ac mae mynediad yn rhad ac am ddim i bawb.

Mae'r drafftiau'n cynnwys 25 tudalen mewn llawysgrifen hynod fychan a digamsyniol Dylan.

Maent yn dangos sut y bu'r bardd yn diwygio delweddau a dewis geiriau ac yn creu strwythurau rhythmig, gan hyd yn oed lunio diagramau o'i arbrofion â chynllun  odli a lluniau bach lle ymddengys ei fod yn creu darlun o'i ddelweddaeth.

Bu Dylan yn ysgrifennu am y ddwy gerdd hyn yn ei Lythyrau at Vernon Watkins a oedd hefyd yn cynnwys drafft cynnar o bob cerdd. Wrth gyfeirio at Unluckily for a Death, ysgrifenna Dylan:

"Here's my new poem. I hope you'll think it's good; I'm extremely pleased with it at the moment - it was written in a very enjoyable mood (or any other better word) of surly but optimistic passion..."

Mae'n disgrifio Into her Lying Down Head fel gwir lafur cariad, gan ddweud: "I’ve never worked harder on anything, maybe too hard: I made such a difficult shape, too."

Cyhoeddwyd y ddwy gerdd yn ddiweddarach yn ei gasgliad arloesol, Deaths and Entrances (1946).

Yn 2014, prynodd Prifysgol Abertawe un o lyfrau nodiadau Dylan Thomas - a fu'n gorwedd yn angof mewn drôr am ddegawdau cyn cael ei ddarganfod - er mwyn sicrhau y byddai'n dychwelyd i Gymru ac y byddai ar gael i ysgolheigion a’r gymuned. Mae prynu'r llawysgrifau hyn yn nodi taith adref arall ar gyfer papurau Dylan, y tro hwn o Efrog Newydd i Gymru.

Hannah Ellis with the 'lost' Dylan Thomas notebookMeddai Hannah Ellis, wyres Dylan Thomas (chwith)"Mae'n wych bod Prifysgol Abertawe'n rhoi cymaint o egni ac ymdrech i ffyrdd newydd o astudio ac ymchwilio i Dylan Thomas. Bydd dod â'r llawysgrifau hyn yn ôl i Brydain - ynghyd â'r llyfr nodiadau a brynwyd ganddynt yn 2014 - yn helpu pobl i weld y grefft fanwl a oedd ynghlwm wrth waith fy nhad-cu, ac yn caniatáu iddynt ddeall ei fod ymhlith ysgrifenwyr mwyaf arwyddocaol yr ugeinfed ganrif."

Meddai Jeff Towns, Perchennog Dylan's Bookstore: "Roedd yn gaffaeliad mawr pan brynodd Prifysgol Abertawe lyfr nodiadau barddoniaeth 'coll' Dylan Thomas tua diwedd canmlwyddiant y bardd yn 2014. Bellach, ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, maen nhw wedi cael gafael ar grŵp arall pwysig iawn o lawysgrifau drafft ar gyfer dwy gerdd o bwys sy'n dyddio o ddechrau'r pedwardegau pan oedd Dylan yn dechrau meistroli ei grefft.

‌"Mae'r papurau hyn yn datgelu cofnodion personol a manwl o brosesau creu'r bardd, a byddant yn amhrisiadwy i genedlaethau o fyfyrwyr ac academyddion y dyfodol."

Meddai'r Athro John Spurr, Pennaeth Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'r llawysgrifau hyn yn cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar grefft un o feirdd pwysicaf yr ugeinfed ganrif, ac mae'n briodol y cânt eu cadw yn nhref enedigol Dylan ac y byddant ar gael i ysgolheigion a'r cyhoedd. Byddant yn ychwanegiad gwych at ein casgliad o archifau sydd eisoes yn sylweddol."

Cedwir y llawysgrifau yn Archifau Richard Burton y Brifysgol sydd eisoes yn gartref i lyfr nodiadau Dylan Thomas, yn ogystal â dyddiaduron Burton a phapurau eraill a roddwyd i'r Brifysgol gan ei wraig weddw, Sally. Mae'r Archifau hefyd yn dal eitemau pwysig eraill, gan gynnwys papurau'r academydd a'r awdur Raymond Williams, a Chasgliad Maes Glo De Cymru. Mae'r archifau'n agored i bawb drwy apwyntiad.